Gareth Evans

Daw Gareth Evans o Benparcau, Aberystwyth, ond mae wedi ymsefydlu yng Nghaerdydd ers blynyddoedd lawer bellach wedi degawd dramor yn Sbaen a’r Almaen. Cychwynnodd ei yrfa gyda Radio Cymru, cyn troi at ysgrifennu ar gyfer y teledu. Mae ganddo brofiad helaeth fel sgriptiwr a storïwr, yn bennaf ar gyfer Pobol y Cwm. Roedd ei nofel gyntaf, Gethin Nyth Brân, ar restr fer Gwobr Tir na n-Og 2018. Cyhoeddodd Y Pibgorn Hud gyda Gwasg Carreg Gwalch ym Medi 2020, a chyfieithiad Saesneg ohoni fis Ebrill 2022 yn dwyn y teitl The Magic Hornpipe.

Nofel hanesyddol yw Y Ferch o Aur wedi’i lleoli yn merw’r 6ed ganrif, yn ddilyniant i’r nofel ar gyfer yr arddegau ifanc, Y Pibgorn Hud.

Mae Ina ac Ebba bellach ill dwy yn rhan o deulu Caradog ac Eleri, a’u plant Macsen a Gwennan. Byth ers i Ebba ddarganfod carreg gydag aur ynddi mae rhai o ddynion y gaer wedi bod yn chwilio’n ddyfal am wythïen. A chyn pen dim, deuir o hyd i wythïen addawol. Nid o aur, ond o haearn. Aiff y neges yn ôl i’r famwlad, a gyda dyfodiad mwynwyr mentrus i Frythonia, daw helbul ac antur yn ogystal.

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ysgrifennu Y Ferch o Aur

Ail ran mewn trioleg yw’r Ferch o Aur, felly dilyniant i’r Pibgorn Hud.  Yr hyn wnaeth fy ysbrydoli i ysgrifennu’r drioleg oedd darganfod drwy hap tra ar fy ngwyliau yng ngogledd Sbaen fod gan y Brythoniaid – yr hen Gymry – wladfa o ryw fath yn Galisia yn yr oesoedd canol cynnar iawn. Doeddwn i erioed wedi clywed am y wladfa hon – Britonia – ac, erbyn deall, does dim llawer o bobl eraill wedi clywed amdani chwaith. Roedd yr holl beth yn ymddangos mor hynod, mi daniodd fy nychymyg.

Dywedwch ychydig am y stori… 

Mae’r Pibgorn Hud yn sôn am ferch 12 oed o’r enw Ina, o Went, sydd ar fin treulio cyfnod yn fel plentyn maeth yn llys y brenin Caradog yng Nghaersallog (Salisbury heddiw) pan mae rhywbeth ofnadwy yn digwydd ac mae’n gorfod ffoi. Ar ôl sawl her ac anffawd, mae Ina’n glanio yn Britonia – Brythonia fel ydw i wedi’i alw – ac yn gorfod cychwyn o’r newydd. Mae’r ail lyfr, sef Y Ferch o Aur, yn canolbwyntio ar sut mae Ina, ac yn arbennig ei chwaer maeth Ebba, yn dygymod â bywyd yno a disgwyliadau cynyddol eu teulu, ei ffrindiau, a’r gymuned, a hwythau bellach yn 14.  Ond mae’r llyfr hefyd yn darlunio sut mae’r cymeriadau’n delio gyda phrofiadau sy’n gyffredin i bawb ohonon ni, waeth ym mha ganrif ry’n ni’n byw: cariad cyntaf, ansicrwydd, a cheisio darganfod ein lle y byd.   

 

Llun clawr Y Ferch o Aur

Beth ydych chi’n gobeithio y bydd darllenwyr yn ei gael o’r stori hon? 

Yn bennaf, mwynhad! Gan fod y llyfr mewn lleoliad ac amser anghyfarwydd, sef y flwyddyn 554, dwi’n gobeithio y bydd yn cynnig persbectif newydd ar ein hanes. Mae nifer o’r themâu yn y nofel yn berthnasol hefyd i heddiw. Er enghraifft, un o’r themâu pwysicaf yn y llyfr yw’r cwestiwn o berthyn ac integreiddio gan mai estrones yw Ebba, ac felly’n dod o gefndir cwbl wahanol – o ran iaith, diwylliant a chrefydd – i’r bobl mae’n byw yn eu mysg.

Oedd unrhyw heriau arbennig wrth baratoi’r llyfr

Mewn gair, oedd! Yn gyntaf am fod yr union gyfnod dewisais i osod y stori yn un annelwig iawn o ran ffynonellau hanesyddol a thystiolaeth archeolegol. Yn ail, am mai ychydig iawn sydd wedi’i ysgrifennu am Frythonia  – dim yn y Gymraeg hyd y gwn i, a fawr dim yn y Saesneg chwaith. Gan imi fyw yn Sbaen am gyfnod, mae fy Sbaeneg yn ddigon da i ddarllen yr iaith, felly roedd gen i fantais yn hynny o beth. Hefyd, ro’n i’n ffodus iawn i gael help hael nifer o arbenigwyr yn Sbaen wrth wneud yr ymchwil, a chael sawl sesiwn Zoom hynod o ddiddorol a defnyddiol.

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddechrau ysgrifennu? 

Ro’n i’n sgrifennu straeon bach a rhyw bytiau yn blentyn hyd yn oed, ac yn cyflwyno sgrifennu creadigol fel gwaith cartref ar yr esgus lleiaf. Yn hwyrach, yn ystod fy nghyfnod yn y brifysgol, tyfodd y diddordeb mewn sgriptio. A dyna yw fy ngwaith ers dros degawdau bellach. Cofiwch, ro’n i’n bumdeg pump yn cyhoeddi fy nofel gyntaf, Gethin Nyth Brân, sy’n gymharol hen, ond ers hynny dwi wedi ysgrifennu dwy arall ac yn gweithio ar y nesaf.

 

Poster Dod i Adnabod yr Awdur Gareth Evans

O ble ydych chi’n cael eich ysbrydoliaeth? 

Anodd dweud. Mae syniadau yn bethau od iawn. Mae’n nhw’n codi o rywle byth a beunydd, ac ar yr adegau rhyfeddaf. Ond dim ond ambell un sy’n cydio. Ac o’r rheiny, dim ond un neu ddau sy’n tanio’r dychymyg ddigon i ddechrau’r gwaith caib a rhaw – achos mae datblygu syniad, er yn hwyl, yn gofyn am lot o ddyfalbarhad.

Pe bai’n rhaid ichi ddisgrifio eich hun mewn tri gair yn unig, beth fyddai’r rheini? 

Chwilfrydig. Brwdfrydig. Breuddwydiwr.

Beth, yn eich barn chi, yw elfennau pwysicaf ysgrifennu da? 

Wow, cwestiwn anodd! Dilysrwydd, efallai? Hynny yw, bod yn driw i’r cymeriadau, a’u byd, waeth pa mor gyffredin neu hynod. Hynny, a chadw mewn cof at bwy mae’r llyfr wedi’i anelu. Ond efallai fod hynny’n fwy pwysig tra’n sgrifennu ar gyfer plant a phobl ifanc. Y peth anoddaf am i yw llunio stori sy’n cadw diddordeb y darllenydd drwyddi draw! 

Pa lyfrau ysbrydolodd chi fel darllenwr ifanc? 

Doedd dim ffefryn gen i fel y cyfryw, am fy mod i’n darllen gymaint. Roedd rhyw fath o gwtsh un pen i’n stafell wely, a hwnnw’n llawn dop o bethau difyr: sawl gwyddoniadur, llyfrau comics, cylchgronau addysgiadol a phêl-droed – a heb anghofio nofelau, yn y Gymraeg a’r Saesneg. Ro’n i’n treulio oriau maith yn pori yn y cwtsh. A dweud y gwir, baswn i wedi bod yn ddigon hapus yn darllen y llyfr ffôn pe na fyddai dim byd arall ar gael. 

Pa lyfr sydd ar eich bwrdd wrth ochr y gwely ar hyn o bryd? 

‘Lloerig’, gan Geraint Lewis.

Pe gallech wahodd unrhyw dri pherson am ginio, pwy fyddech chi’n ei wahodd? 

Tri phrif gymeriad y drioleg: Ina, Ebba a Miro!

Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnoch drwy eich bywyd? 

Dwi’n cofio bod wrth fy modd yn mynd i hen lyfrgell Aberystwyth, sydd yn anffodus wedi cau ers blynyddoedd, oedd mewn adeilad hardd o’r 1900au cynnar, yn gyntaf gyda fy mam neu fy nhad, ac yna ar fy mhen fy hun. Roedd bod yng nghanol cymaint o lyfrau yn ei hun yn gyffrous, a chael dewis a benthyg hyn o hyn o lyfrau yn teimlo’n rhywbeth aeddfed iawn i’w wneud. Dwi hefyd wedi treulio oriau dirifedi yn Llyfrgell Genedlaethol yn gwneud ymchwil a hel syniadau – Ystafell Ddarllen y Gogledd yw un o fy holl lefydd yn y byd i gyd.

National Library of Wales   

Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau er mwyn annog plant a phobl ifanc i ddarllen mwy er pleser?

Am wn i mae patrymau darllen plant a phobl ifanc wedi newid cryn dipyn ers dyfodiad y rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol. Diolch i glybiau darllen, a chynlluniau amrywiol mewn llyfrgelloedd, mae llawer o gyfleoedd o hyd, ond efallai mai’r her fwyaf yw adeiladu ar frwdfrydedd naturiol plant iau a chynnig deunydd i blant hŷn neu bobl ifanc mewn modd sydd yn ei wneud yn berthnasol – hynny yw, rhoi mwy o le yn y cwricwlwm i bobl bori a dewis eu deunydd darllen ei hunain heb bwysau traethawd neu brawf.    

A oes gennych unrhyw gynlluniau ar gyfer teitlau pellach? 

Oes. Trydedd rhan y drioleg. Mae’r nofel yn digwydd tair blynedd ar ôl  Y Ferch o Aur, sy’n golygu fod y cymeriadau bellach yn 17 oed. Y gobaith yw ei chyhoeddi erbyn y Nadolig, 2024.      

Cyhoeddir Y Ferch o Aur 15 Hydref 2022 gan Gwasg Carreg Gwalch.

Darllenwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur sy’n cyflwyno’r awdur a’i lyfr newydd. 

Darllenwch hefyd am ein Hawdur y Mis yn ‘sgwennu’n Saesneg

Cookie Settings