Lle i Gysylltu

Mae Llyfrgelloedd Cymru yn cydweithio i sicrhau fod eu cymunedau’n cadw mewn cysylltiad ac i chefnogi pobl i gael cysylltiadau cymdeithasol cadarnhaol ac ystyrlon.

EISIAU DARGANFOD MWY

Cadw ein cymunedau mewn cysylltiad

Mae Llyfrgelloedd Cymru yn darparu ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy’n galluogi pobl i gysylltu gyda ffrindiau neu gyfarfod pobl newydd, rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol neu ddysgu sgil newydd, a darganfod beth arall sydd ar gael iddynt o fewn eu cymuned.

Cliciwch i ddarganfod beth sy'n digwydd yn eich ardal leol

Castell-nedd Port Talbot

Croeso cynnes a help llaw

Mae ein llyfrgelloedd yn cynnig staff medrus a gwybodus a all roi cymorth i bobl i gael mynediad i wybodaeth sy’n cefnogi eu hiechyd a’u lles, a gallant gyfeirio pobl at ragor o wasanaethau cymorth.

Slide 1

"Mae’r ddwy neu dair blynedd diwethaf wedi amlygu pa mor hanfodol yw cysylltiad cymdeithasol i les pawb, rydym i gyd yn cofio cymaint y gwnaethom ni golli gweld a siarad gyda phobl eraill. Mae Llyfrgelloedd Cymru yn gweithio i ddarparu’r cysylltiad hwnnw o fewn eu cymunedau lleol, drwy ddigwyddiadau a gweithgareddau, cyfeirio at wasanaethau eraill neu drwy ddarparu gofod i bobl i ymlacio a sgwrsio gydag eraill. Fe fydd ein hymgyrch ‘Lle i Gysylltu’ yn amlygu’r gwaith y mae ein llyfrgelloedd yn ei wneud i gefnogi’r cysylltiadau hyn ac annog pobl i edrych yn fanylach ar yr hyn sydd gan eu llyfrgell leol i’w gynnig"

KATE LEONARD
Arweinydd Iechyd a Lles Cymdeithas y Prif Lyfrgellwyr (Cymru) a Rheolwr Datblygu Llyfrgelloedd, Hamdden a Llyfrgelloedd Aura.

Eisiau gwybod mwy?

Nodwch eich manylion ar y ffurflen isod er mwyn cael eich rhoi mewn cysylltiad â’ch awdurdod lleol.

Rydym angen yr wybodaeth hon fel bod modd i ni gysylltu â chi. O dro i dro, hoffem anfon gwybodaeth atoch ynghylch y datblygiadau diweddaraf yn ein llyfrgelloedd, megis gwasanaethau a gweithgareddau newydd. Ni chaiff eich gwybodaeth ei rhannu byth â thrydydd partïon.

Darllenwch ein preifatrwydd a datganiad cwcis yma.

A HOFFECH CHI GAEL Y WYBODAETH DDIWEDDARAF TRWY :

E-BOST *
FFÔN *
NEGES DESTUN *