Byw’n Dda yng Nghymru 2020

Children in a cardboard photo frame to promote the Living Well scheme

Ym 2019, lansiwyd ymgyrch Byw’n Dda yng Nghymru gan Llyfrgelloedd Cymru i hybu lles y genedl.

Menter dros Gymru gyfan yw Byw’n Dda yng Nghymru sydd yn dod â llyfrgelloedd cyhoeddus a sefydliadau partner ynghyd er mwyn pwysleisio’r rôl bwysig sydd gan lyfrgelloedd yng nghalon eu cymunedau lleol ac er mwyn hybu’r miloedd o ddigwyddiadau a gweithgareddau hyrwyddo iechyd a lles sydd yn cael eu cynnal mewn llyfrgelloedd bob blwyddyn.

Yn ystod 2019, drwy ganolbwyntio ar bedwar ymgyrch ymwybyddiaeth allweddol, llwyddodd y fenter i fwrw goleuni ar y cyfoeth o adnoddau yn ymwneud ag iechyd a lles sydd yn cael eu cynnig gan lyfrgelloedd cyhoeddus yn ogystal â’r rhan sydd gan y cyfleusterau hyn i chwarae fel canolfannau cymdeithasol yn eu cymunedau, gan helpu gwrthsefyll unigedd, yn arbennig ym mhlith y to hŷn, a thrwy hybu cymryd rhan cymunedol hefyd.

Ymunodd Llyfrgelloedd Cymru â’r Gymdeithas Alzheimer i hybu gweithgareddau ac adnoddau yn ystod Dementia Action Week ym mis Mai er mwyn codi ymwybyddiaeth ac er mwyn galluogi cymunedau i wneud newidiadau bychain sydd yn gallu rhoi cefnogaeth i bobl sydd â demensia i fyw’n dda.

Ym mis Medi, cefnogodd Blood Pressure UK yr ymgyrch Know Your Numbers! Week  drwy roi llwyfan i ddigwyddiadau a hybu gwybodaeth a oedd yn symbylu pobl i wybod eu pwysau gwaed ac i weithredu er mwyn cynnal pwysau gwaed iach.

Cymdeithas Dislecsia Prydain oedd y partner allweddol ar gyfer codi ymwybyddiaeth yn ystod Wythnos Genedlaethol Dislecsia ym mis Hydref,  tra bod Mind, Amser i Newid Cymru a’r Samariaid wedi gweithio gyda Llyfrgelloedd Cymru ar Blue Monday yn Ionawr er mwyn annog pobl i geisio rhywbeth newydd i wella eu lles corfforol a meddyliol ar ddechrau’r flwyddyn newydd.

Diwrnod Gwneud Rhywbeth yn Wahanol  oedd y rhan olaf o ymgyrch Byw’n Dda yng Nghymru. Llyfrgelloedd Cymru sydd yn dod â llyfrgelloedd cyhoeddus a sefydliadau partner ynghyd er mwyn pwysleisio’r rôl bwysig sydd gan lyfrgelloedd yng nghalon eu cymunedau lleol ac er mwyn hybu’r miloedd o ddigwyddiadau a gweithgareddau hyrwyddo iechyd a lles sydd yn cael eu cynnal mewn llyfrgelloedd bob blwyddyn. Mae llawer o awdurdodau llyfrgell yng Nghymru yn cynnig dosbarthiadau ymarfer corf rheolaidd fel Yoga a Philates. Edrychwch ar galendr digwyddiadau eich llyfrgell am ragor o fanylion.

Mwy o wybodaeth am y gweithgareddau uchod yn y ddogfen yma, a gynhyrchwyd gan Lyfrgelloedd Caerdydd.

Meddai Nicola Pitman, Is-Gadeirydd Cymdeithas y prif Lyfrgellwyr a Phrif Rheolwr Llyfrgell a Strategaeth yng Nghyngor Caerdydd:

“Llyfrgelloedd yw’r mannau perffaith i ddarparu ystod o fuddiannau iechyd a lles i gymunedau lleol.

Maent yn adnodd rhagorol o ran yr holl wybodaeth a’r defnyddiau a gynnigir ond hefyd fel canolfan neu fan cyfarfod yn eu cymdogaeth lle gall pobl ddod ynghyd  ar gyfer digwyddiadau neu weithgareddau sydd o fudd i’w lles.

Mae ymgyrch Byw’n dda yng Nghymru yn ceisio dathlu ein llyfrgelloedd cyhoeddus ac annog pobl i gael y gorau allan o’u cyfleusterau lleol. Rydym wrth ein bod di fod yn gweithio gyda partneriaid gwych er mwyn hybu yr agenda bwysig hon sy’n galluogi pobl i fyw’n dda yn eu cymunedau.”

Meddai Aelod Cabinet ar gyfer tai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:

“Mae ein canolfannau a’n llyfrgelloedd yn ofod cymunedol y gellir ymddiried ynddo gyda staff medrus a gwybodus sy’n gallu rhoi cymorth i bobl er mwyn cael mynediad at wybodaeth iechyd a lles, gan eu cyfeirio at wasanaethau cefnogi a mynediad at weithgareddau cymdeithasol.

Yng Nghaerdydd rydym wrth ein boddau i fod yn rhan o ymgyrch Byw’n Dda yng Nghymru ac yn edrych ymlaen at ddarparu digwyddiadau a gweithgareddau y nein canolfannau a llyfrgelloedd drwy gydol y flwyddyn er mwyn helpu creu cymunedau lleol iachach.”

Am ragor o wybodaeth am ymgyrch Byw’n Dda yn Nghymru, cysylltwch ag Andrea Currie, Tîm Cyfryngau a Chyfathrebu Cyngor Caerdydd ar 02920 873107 neu e-bost: acurrie@cardiff.gov.uk

 

 
 
Cookie Settings