Newyddion

Mai 19, 2022

Dros £750,000 ar gyfer llyfrgelloedd ac amgueddfeydd yng Nghymru

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, wedi ymweld ag Amgueddfa Caerdydd ar Ddiwrnod Rhyngwladol Amgueddfeydd i gyhoeddi cyllid gwerth ychydig dros £750,000 i helpu llyfrgelloedd ac amgueddfeydd lleol i ddatblygu eu cyfleusterau a’u gwasanaethau. Bydd y cyllid, a fydd yn cael ei ddarparu fel rhan o’r Cynllun Grant Cyfalaf Trawsnewid, yn helpu […]

Darllen Mwy

Ebrill 27, 2022

Byddwch yn Greadigol yn Ardal Makerspace Llyfrgell Llanelli

Llyfrgell Llanelli yw un o’r llyfrgelloedd mwyaf yn Sir Gaerfyrddin, a ddisgrifir fel un arloesol, bywiog a  chroesawgar, ac mae llawer o bethau ar gael o fewn muriau’r adeilad hanesyddol hwn o’r 1850au. Wrth i chi gamu drwy ddrysau’r ffasâd Fictoraidd peidiwch â chael eich twyllo wrth i chi fynd i mewn i adeilad llyfrgell […]

Darllen Mwy

Ebrill 4, 2022

Llyfrgell Pwllheli yn Ailagor yn Dilyn Gwaith Adnewyddu Neuadd Dwyfor

Mae Llyfrgell Pwllheli wedi ail-agor yn ddiweddar yn dilyn buddsoddiad sylweddol o dros £900,000 er mwyn uwchraddio’r llyfrgell, yn ogystal â chyfleusterau theatr a sinema yn adeilad Neuadd Dwyfor yn y dref. Fel rhan o’r gwaith adnewyddu, mae dodrefn a silffoedd newydd sbon wedi’u gosod gan gynnwys ardal benodedig atyniadol i blant fydd yn cynnal […]

Darllen Mwy

Mawrth 8, 2022

Gwaith Ailgynllunio yn Llyfrgell Treorci

Cwblhawyd gwaith adnewyddu ac ailgynllunio mawr yn Llyfrgell Treorci fel rhan o fuddsoddiad ar y cyd gwerth £150,000 gan Cyngor Rhondda Cynon Taf a Llywodraeth Cymru i wella’r cyfleusterau i ddefnyddwyr a’r gymuned leol. Mae Llyfrgell Treorci wedi ei leoli yng nghanol y gymuned, gyferbyn â Theatr y Parc a Dare, ac yn cael ei defnyddio’n […]

Darllen Mwy

Chwefror 21, 2022

Dathlu 25 mlynedd o Ddiwrnod y Llyfr

Bydd y rhaglen lawn eleni yn helpu mwy o blant nag erioed i ddarganfod cariad at ddarllen. Mae elusen Diwrnod y Llyfr yn dathlu ei phen-blwydd yn 25 oed ddydd Iau, 3 Mawrth 2022, ac mae’n gwahodd pawb i barti i ddathlu gorffennol, presennol a dyfodol darllen plant. Darllen er pleser yw’r dangosydd mwyaf o […]

Darllen Mwy

Chwefror 14, 2022

Dathlu Diwrnod San Ffolant gyda 25 llyfr mae plant a phobl ifanc Cymru yn eu caru!

Ar y 14eg o Chwefror fe wnaeth llyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru a’r Asiantaeth Ddarllen gyhoeddi eu rhestr fer Gaeaf Llawn Lles, sef casgliad o 25 o lyfrau gwych a enwebwyd gan blant a phobl ifanc ledled Cymru am eu pŵer i wneud iddyn nhw deimlo’n well, yn fwy cysylltiedig a’u bod yn cael eu deall […]

Darllen Mwy

Chwefror 4, 2022

Rhigymau a caneuon yn cael sylw wrth i Amser Rhigwm Mawr Cymru ddychwelyd ar gyfer 2022

  Mae BookTrust Cymru, yr elusen ddarllen i blant, yn annog teuluoedd, ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar ledled Cymru i ymuno yn Amser Rhigwm Mawr Cymru yn ystod mis Chwefror. Bellach yn ei bedwaredd flwyddyn, mae Amser Rhigwm Mawr Cymru’n ddathliad cenedlaethol wythnos o hyd ar gyfer rhannu rhigymau, barddoniaeth a chaneuon dwyieithog â phlant […]

Darllen Mwy

Chwefror 3, 2022

Nodweddion Gwreiddiol wedi’u Hadfer yn Uwchraddiad Llyfrgell Penarth

Ailagorodd Llyfrgell Penarth ym mis Mai 2021 yn dilyn gwaith adnewyddu helaeth. Wedi’i ariannu ar y cyd gan Gyngor Bro Morgannwg a Llywodraeth Cymru, mae’r llawr gwaelod wedi’i ailaddurno yn cynnwys dodrefn newydd, desg ymholiadau, carped a silffoedd. Mae goleuadau LED wedi’u gosod drwy’r adeilad, sydd hefyd wedi gweld llawer o’i nodweddion yn cael eu […]

Darllen Mwy

Ionawr 26, 2022

Cyfrifiad 1921: ‘Mae’r hanes yma’n perthyn i ni i gyd’

Daeth Cyfrifiad Cymru a Lloegr 1921 yn fyw ar-lein am y tro cyntaf ar 6 Ionawr eleni. Mae’r datganiad yn diweddglo prosiect digido tair blynedd gan gwmni hanes teulu FindMyPast, ar ran UK National Archives. Gwelodd y prosiect 28,000 o gyfrolau rhwymiedig yn cael eu sganio a’u trawsgrifio, gyda cyfanswm o tua 18.2miliwn o dudalennau. […]

Darllen Mwy
Cookie Settings