Cefnogi Darllen Plant a Booktrust

Mother and child reading books in a library setting

Ni ellir tanbrisio pwysigrwydd darllen i blant. Gall darllen er mwyn pleser fod o fudd i addysg, datblygiad cymdeithasol a meddyliol, a lles ac iechyd meddyliol plentyn.

Mae darllen llyfrau yn uchel i blant yn symbylu eu dychymyg ac yn ehangu eu deall o’r byd. Mae’n gymorth iddynt ddatblygu sgiliau iaith a gwrando ac yn eu paratoi ar gyfer deal y gair ysgrifenedig.

Ymweliad gan ysgol gynradd – Llyfrgell Maesteg, Llyfrgelloedd Awen.

Mae gwefan Booktrust yn cynnwys ystod eang o adnoddau, cefnogaeth ac arweiniad.

Gwefan BookTrust

Dyma ambell awgrym at eich helpu chi i fwynhau amser stori gyda’ch plentyn, wedi’u darparu gan BookTrust:

  • Gadewch i’ch plentyn ddewis beth hoffen nhw ddarllen. Bydd mwy o ddiddordeb ganddynt yn y stori os mai nhw sydd wedi ei dewis. 
  • Os gallwch, diffoddwch y teledu, radio neu gyfrifiadur. Mae’n rhwyddach mwynhau’r stori heb ddim yn tarfu arnoch chi.
  • Eisteddwch yn agos. Gallwch annog eich plentyn id dal y llyfr ei hunan ac i droi’r tudalennau hefyd.
  • Edrychwch ar y lluniau. Does dim rhaid darllen y geiriau ar y dudalen yn unig. 
  • Gofynwch gwestiynau a siaradwch am y llyfr. Gall llyfrau lluniau fod yn ffordd wych o drafod ofnau a phryderon eich plentyn, neu o’i helpu i delio ag emosiwn. 
  • Mwynhewch! Does dim ffordd iawn na ffordd anghywir chwaith o rannu stori – cyn belled eich bod chi a’ch plentyn yn cael hwyl. Peidiwch fod ag ofn action rhannau o’r stori na defnyddio lleisiau dwl – bydd plant bach wrth eu bodd!

Words for Life yw gwefan y National Literacy Trust ar gyfer rhieni. Mae ganddynt ardal ar gyfer teuluoedd sy’n cynnig syniadau ac arweiniad ar weithgareddau syml sydd yn hwyl ac a fydd yn denu sylw plant gartref, tra ar yr un pryd o fudd i’w darllen, sgrifennu a datblygiad iaith.

Words for Life

 
 
 
Cookie Settings