Bardd Plant Cymru a Children’s Laureate Wales

Nia Morais

Bardd Plant Cymru

Ers ei sefydlu yn 2000, caiff y rôl Bardd Plant Cymru ei gwobrwyo pob dwy flynedd i fardd Cymraeg sydd yn angherddol dros sicrhau fod mwy o blant a phobl ifanc yn darganfod gwefr a grym llenyddiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Mae Bardd Plant Cymru wedi ymrwymo i:  

  • Ehangu mynediad plant a phobl ifanc at lenyddiaeth Gymraeg, yn benodol plant a phobl ifanc o gefndiroedd ymylol a chefndiroedd sydd yn cael eu tangynrychioli  
  • Gwella iechyd a llesiant meddyliol a chorfforol plant a phobl ifanc drwy lenyddiaeth 
  • Cynyddu mwynhad plant a phobl ifanc o lenyddiaeth 
  • Grymuso plant a phobl ifanc drwy greadigrwydd 

Y Bardd Plant Cymru presennol yw’r dramodydd ac ysgrifennydd o Gaerdydd, Nia Morais, a hi yw’r deunawfed bardd i gamu i’r rôl. 

Cyhoeddwyd mai Nia oedd y Bardd Plant newydd ar y 1 Mehefin 2023 yn ystod Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri. Bydd Nia’n ymgymryd a’r gwaith am gyfnod o ddwy flynedd, hyd at Awst 2025 

Awdur a dramodydd o Gaerdydd yw Nia Morais. Mae ei gwaith yn aml yn canolbwyntio ar  hunan ddelwedd, iechyd meddwl, a hud a lledrith. Graddiodd o Brifysgol Caerdydd gyda Gradd Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol. Yn 2020, rhyddhaodd ei drama sain gyntaf, Crafangau, fel rhan o brosiect Theatr y Sherman, Calon Caerdydd.  Ar hyn o bryd, mae Nia’n Awdur Preswyl gyda Theatr y Sherman ac mae ei drama lawn cyntaf, Imrie, cyd-gynhyrchiad Cwmni Frân Wen a Theatr y Sherman yn teithio Cymru dros haf 2023. Roedd Nia yn aelod o banel beirniadu Gwobrau Tir na n-Og 2021, a hefyd yn ran o raglen ddatblygu awduron Cynrychioli Cymru yr un flwyddyn gyda Llenyddiaeth Cymru. Mae’n sgwennu ar gyfer plant ac oedolion. 

Fel Bardd Plant Cymru, prif amcan Nia yw sicrhau fod rhagor o gyfleoedd i blant a phobl ifanc drafod ac ysgrifennu am bynciau sydd yn hollbwysig iddyn nhw fel cenhedlaeth, ac sy’n brin mewn llenyddiaeth Gymraeg ar hyn o bryd. Mae’n angerddol dros y ffaith fod y Gymraeg yn perthyn i bawb, dros ddathlu ein hunaniaeth ac annog parch tuag at ein hunan-ddelwedd gan gynyddu hunan-hyder.  

Mae Bardd Plant Cymru yn chwaer-brosiect i Children’s Laureate Wales, ac mae’r ddwy rôl yn cyfrannu tuag at fagu cenhedlaeth iachach, fwy creadigol a mwy amrywiol o ddarllenwyr ac awduron ar draws Cymru. 

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llenyddiaeth Cymru, neu cysylltwch â barddplant@llenyddiaethcymru.org 

Dilynwch Bardd Plant Cymru ar Twitter

 

Children’s Laureate Wales

Ers ei sefydlu yn 2019, caiff y rôl  Children’s Laureate Wales ei gwobrwyo pob dwy flynedd i awdur o Gymru sydd yn angherddol dros sicrhau fod mwy o blant a phobl ifanc yn darganfod gwefr a grym llenyddiaeth. 

Y Children’s Laureate Wales presennol yw’r bardd Alex Wharton, y trydydd i ymgymryd â’r rôl. 

Cyhoeddwyd mai Alex oedd y Laureate newydd yng Ngŵyl y Gelli 2023, a dechreuodd yn swyddogol ym mis Medi 2023. 

Mae’r Children’s Laureate Wales yn chwaer-brosiect i Bardd Plant Cymru, ac mae’r ddwy rôl yn cyfrannu tuag at fagu cenhedlaeth iachach, fwy creadigol a mwy amrywiol o ddarllenwyr ac awduron ar draws Cymru. 

Mae Alex Wharton yn awdur a pherfformiwr barddoniaeth ar gyfer plant ac oedolion.  Cyrhaeddodd ei gasgliad barddoniaeth cyntaf ar gyfer plant Daydreams and Jellybeans Restr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022, yn ogystal â Gwobrau Llyfrau Athrawon Gogledd Gwlad yr Haf, Gwobrau Llyfrau Laught Out Loud, a cafodd ei enwi fel un o argymhellion Diwrnod Barddoniaeth. Enillodd Wobr Rising Stars Cymru a gynhaliwyd ar y cyd rhwng Llenyddiaeth Cymru a Gwasg Firefly Press yn 2020. Mae wedi cydweithio â nifer o sefydliadau cenedlaethol allweddol, gan gynnwys Cadw, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru, British Council of Literature a Llyfrgelloedd Cymru ac wedi ymddangos mewn sawl gŵyl fel Gŵyl y Gelli a Gŵyl Lyfrau Ryngwladol Caeredin. Bydd ail a thrydydd casgliad Alex o farddoniaeth Poems for Brilliant Brains a Red Sky at Night: A Poet’s Delight yn cael eu cyhoeddi gyda Firefly Press yn 2023 a 2024. 

Fel y Children’s Laureate Wales, bydd Alex yn gwahodd pobl ifanc i archwilio hyd a hwyl geiriau, gan ddysgu sut y gall y mynegiant artistig a chreadigol hwn wella’r ffordd yr ydym yn byw, yn teimlo, yn dychmygu, yn creu, ac yn cyfathrebu. Mae ganddo ddiddordeb hefyd mewn cyfuno barddoniaeth gyda disgyblaethau celfyddydol eraill; cydweithio gyda a rhannu gweithiau awduron eraill; a thaflu goleuni ar gyfoeth natur a’r byd o’n cwmpas. 

Mae’r Children’s Laureate Wales wedi ymrwymo i: 

  • Ehangu mynediad plant a phobl ifanc at lenyddiaeth, yn benodol plant a phobl ifanc o gefndiroedd ymylol a chefndiroedd sydd yn cael eu tangynrychioli  
  • Gwella iechyd a llesiant meddyliol a chorfforol plant a phobl ifanc drwy lenyddiaeth
  •  Cynyddu mwynhad plant a phobl ifanc o lenyddiaeth 
  • Grymuso plant a phobl ifanc drwy greadigrwydd 

Mae’r Children’s Laureate Wales yn cadw’n brysur drwy: 

  • Rhedeg gweithdai barddoniaeth oddi fewn a thu hwnt i’r dosbarth 
  • Ysgrifennu cerddi comisiwn swyddogol i nodi achlysuron arbennig ac ymgyrchoedd sydd o bwys i blant a phobl ifanc 
  • Creu adnoddau creadigol ar-lein ar gyfer plant a phobl ifanc
  •  Eirioli dros leisiau plant a phobl ifanc Cymru yn genedlaethol ac yn rhyngwladol 

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llenyddiaeth Cymru, neu cysylltwch ar childrenslaureate@literaturewales.org 

Dilynwch Children’s Laureate Wales ar Twitter. Ffotograffiaeth c. LlenyddiaethCymru

 
 
 
 
Cookie Settings