Comics Plus

Os ydych yn mwynhau darllen llyfrau comic a nofelau graffig, gallwch gael mynediad at dros 16,000 o deitlau i lawrlwytho a darllen yn rhâd ac am ddim o’ch gwasanaeth llyfrgell lleol yng Nghymru. Mae gan Comics Plus: gwasanaeth Argraffiad Llyfrgell deitlau i bob ystod oedran mewn amrywiaeth o ffurfiau, ac mae hefyd yn cynwys cyfresi poblogaidd fel Peanuts, Angry Birds, My Little Pony, Sonic, Dungeons and Dragons, Star Trek, Doctor Who, Archer & Armstrong, ynghyd ag addasiadau o nofelau clasurol.

Os yw eich diddordeb mewn antur, fampiriaid neu sombïod, mae’n cynnwys deunydd sy’n addas at ddant bawb, gan gynnwys ffuglen wyddonol, comedi, arwyr, manga a ffantasi.

Gallwch lawrlwytho gymaint o deitlau ac y dymunwch, ac mae pob benthyciad yn para saith diwrnod. Gallwch weld y comics ar-lein, neu eu lawrlwytho i’ch cyfrifiadur, tabled neu ffôn clyfar. Bydd dim rhaid i chi aros. Gallwch weld fwy o fanylion ar y wefan ComicsPlus. Mae hefyd apiau iOS ac Android ar gael.

I ddechrau defnyddio’r gwasanaeth bydd angen:

  • Cysylltiad rhyngrwyd
  • Cyfrifiadur, tabled neu ffôn clyfar yn rhedeg Comics Plus: Ap Argraffiad Llyfrgell;
  • Cyfrif Gateway RB digidol. Gallwch greu cyfrif newydd neu logio fewn gyda cyfrif am adnodd RB digidol arall, fel Zinio i Lyfrgelloedd. Mae’r manylion logio am yr e-gylchgronau yr un fath ag i’r e-comics.
  • I fod yn aelod o’r gwasanaeth llyfrgell cyhoeddus yng Nghymru.

I ddarganfod mwy, ewch i’r wefan ComicsPlus i Gymru.

Os nad ydych yn barod yn aelod o lyfrgell, gallwch ymuno ar-lein wrth ddilyn y linc i’ch gwefan lyfrgell lleol: