Cyfleusterau a chymorth TG

Library user accessing digital newspapers at Ammanford Public Library

Mae llyfrgelloedd cyhoeddus a llyfrgelloedd mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion yng Nghymru yn cynnig mynediad am ddim i gyfrifiaduron a chynnwys o safon uchel, ac yn helpu bobl i ddatblygu eu sgiliau TG, er mwyn iddynt cael y budd mwyaf o’r ddarpariaeth TG sydd ar gael. Mae llyfrgelloedd yn chwarae rhan allweddol mewn hwyluso mynediad i’r holl wybodaeth sydd arlein a galluogi bobl i ryngweithio gyda’r gwasanaethau arlein sydd ar gael.

Mae llyfrgelloedd yn cynnig cyfraniad eang iawn i ddinaswyr:

  • Mynediad: Mynediad i gyfrifiaduron a’r rhyngrwyd ymhob llyfrgell gyhoeddus yng Nghymru drwy 3,100 o derfynellau cyfrifiadur mewn gwasanaethau llyfrgell gyhoeddus yng Nghymru. Defnyddiodd y Cymry dros 1.6 miliwn o oriau o fynediad cyfrifiadurol am ddim. [cipfastats.net 2017-2018]
  • Datblygu sgiliau TG: Gall unigolion ddatblygu sgiliau TG drwy gyfleoedd dysgu ffurfiol neu anffurfiol o fewn y llyfrgell.
  • Helpu bobl i ddychwelyd i’r gwaith: Gall unigolion baratoi eu CV, ac ymgymryd ag e-ddysgu i wella sgiliau.
  • Mynediad i gwybodaeth a hawliau: Gall unigolion ddefnyddio’r llyfrgell i gael mynediad i e-wasanaethau’r llywodraeth ar lefel lleol a chenedlaethol, er mwyn cael gwybodaeth am eu hawliau, a llenwi ffurflenni.
  • Technoleg addasedig: Gall unigolion efo anghenion arbennig gael mynediad i feddalwedd cyfrifiadur arbenigol i’w helpu, fel meddalwedd llais i destun, mewn nifer o lyfrgelloedd yng Nghymru, a thrwy’r adnoddau digidol.

Sesiynau Cymorth Digidol / Cefnogaeth TG

Mae llyfrgelloedd ledled Cymru yn cynnig Sesiynau Cymorth Digidol, ble gallwch gael cymorth gan staff profiadol a chefnogaeth i ystod eang o ymholiadau TG, yn cynnwys y canlynol:

  • Cymorth i ddefnyddio’r cyfrifiaduron o fewn adeilad y llyfrgell, ac argraffu.
  • Cymorth efo cael mynediad i adnoddau digidol y llyfrgell.
  • Cymorth efo llenwi ffurflenni arlein.

Ewch i dudalen digwyddiadau eich llyfrgell leol am fwy o wybodaeth.

Eich Llyfrgell Leol

Cyfleusterau TG, Llyfrgelloedd Awen.

Cyfleusterau TG, Llyfrgelloedd Aura. Ginger Pixie Photography.

Cynhwysiant Digidol

Beth yw cynhwysiant digidol – a pham mae’n bwysig?

Yn ol Cymunedau Digidol Cymru, dyw 11% o bobl Cymru ddim ar-lein heddiw. Gyda mwy o wasanaethau cyhoeddus yn cael eu cyflwyno ar-lein, mae’r rhain mewn perygl o gael eu gadael ar ôl. Mae angen i sefydliadau sy’n gweithio gyda’r cyhoedd, yn enwedig yn y sector iechyd a gofal, feddwl sut i gynyddu cynhwysiant digidol fel bob pawb yng Nghymru yn gallu elwa.

Yn ôl Cymunedau Digidol Cymru, mae pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol yn fwy tebygol o fod yn:

  • Hŷn – 40% o bobl 75 oed a throsodd sy’n defnyddio’r we, o gymharu â 97% o rai 16-49 oed
  • Anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor – 74% o bobl ag anabledd neu gyflwr hirdymor sy’n defnyddio’r rhyngrwyd, o gymharu â 90% heb anabledd neu gyflwr hirdymor
  • Llai hyddysg – dim ond 53% o bobl heb gymwysterau sy’n defnyddio’r rhyngrwyd, o gymharu â 95% â chymwysterau addysg uwch.

Mae rhesymau clir o safbwynt cydraddoldeb a pholisi cyhoeddus dros wella cynhwysiant digidol, yn ogystal ag achos busnes cryf.

Beth yw manteision bod ar-lein?

  • Arbed amser trwy fanteisio ar wasanaethau digidol
  • Teimlo’n llai unig ac ynysig
  • Mwy o obaith o gael swydd drwy ddefnyddio eich sgiliau digidol.
  • Mynediad gwell at wybodaeth am iechyd a lles, e.e. gwella hunanofal ar gyfer mân anhwylderau, a gwell hunanreolaeth dros gyflyrau hirdymor.

Am fanylion pellach, ewch i wefan

Cymorth gyda llenwi ffurflenni arlein, Llyfrgelloedd Awen.

 
 

Digital Communities Wales

 
 
Cookie Settings