Gemau ar gyfer Plant a Theuluoedd

Two children in a coding club

Mae’r gweithgareddau rhyngweithiol a hwyliog sy’n dilyn yn digwydd mewn llyfrgelloedd dethol ledled Cymru.

Clybiau Codio

Mae Clybiau Codio yn dod â phlant a phobl ifainc at ei gilydd er mwyn helpu ei gilydd i ddatrys problemau codio ac i gael hwyl. Pan fydd plant yn dysgu sut i godio maen nhw nid yn unig yn datblygu sgiliau deall ond hefyd yn dysgu’r broses o ddatrys problemau sy’n debyg i gyfrifiadur. Mae codio hefyd yn hyrwyddo creadigrwydd. Mae’r chwilio diddiwedd am atebion a’r amrywiadau ar godio yn gallu eu hybu i ddefnyddio eu meddyliau creadigol i’r eithaf.

Am wybodaeth pellach, edrychwch am ‘Clwb Codio Cymru’ ar flog y Clwb Codio

Darllenwch y Blog

Clybiau Lego

Mae nifer o lyfrgelloedd drwy Gymru gyfan yn cynnig clybiau lego lle gall plant gynllunio, adeiladu a rhannu eu creadigaethau Lego eu hunain.

Beth yw diben Lego mewn llyfrgelloedd?

  • Mae Lego yn weithgaredd ymlaciol i’w fwynhau gan blant o bob oedran.
  • Mae’n cefnogi chwarae rhwng rhieni a phlant a rhwng plant o bob oedran.
  • Mae’n annog datrys problemau a dysgu drwy gyffwrdd.
  • Mae’n cynnig sgiliau corfforol a mecanyddol yng ngofod y llyfrgell ac yn cefnogi sgiliau mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (sef STEM yn Saesneg). Gweithgareddau perthnasol eraill fyddai cylbiau codio a Maker Spaces.
  • Mae’n hyrwyddo ymwybyddiaeth o seiniau a geirfa drwy chwarae.
  • Mae plant yn ennill hyder drwy rannu syniadau a dangos creadigrwydd

Darllennwch yr erthygl hon Lego in Libraries (Public Libraries News)

Erthygl

Clwb Lego, Llyfrgelloedd Awen.

Clybiau Gemau Bwrdd, Jig-saw a Gwyddbwyll

Mae nifer o lyfrgelloedd yn cynnig amrywiaeth o glybiau gemau bwrdd a jig-so. Mae gemau bwrdd yn rhoi’r cyfle i bobl o bob oedran i ddefnyddio eu sgiliau mathemateg, darllen, medrusrwydd a datrys problemau tra’n cael llawer o hwyl. Mae gemau bwrdd hefyd yn codi pontydd cymdeithasol. Gall gêm rhwng dau droi’n weithgaredd grŵp yn hawdd iawn!

Edrychwch am ddigwyddiadau arbennig a gynhelir yn ystod Wythnos Gemau Rhyngwladol, menter sy’n cael ei arwain gan wirfoddolwyr o bedwar ban byd er mwyn ailgysylltu eu cymunedau drwy’u llyfrgelloedd, gan ddefnyddio gwerth addysgiadol, adloniadol a chymdeithasol pob math o gemau. Y llynedd digwyddodd yr Wythnos gemau Rhyngwladol  o 3-9 Tachwedd 2019.

Dysgwch ragor am glybiau gemau yn y blogiau hyn gan y Department of Digital, Culture, Media & Sport ‘Fun and games at the library!’

Darllenwch y Blog

Clwb Scrabble, Llyfrgelloedd Aura. Ginger Pixie Photography.

Dewch o hyd i’ch llyfrgell leol yma, ac edrychwch ar eu calendr digwyddiadau er mwyn gweld pa weithgareddau sy’n cael eu cynnig.

 
 
 
 
Cookie Settings