Gwasanaeth y Llyfrgell Deithiol ac Estyn Allan

Aura Libraries Mobile Library Service Van

Gwasanaeth y Llyfrgell Deithiol

Mae’r gwasanaeth llyfrgell deithiol yng Nghymru yn ymweld â chymunedau o fewn awdurdodau yn reolaidd lle mae’n anodd i  breswylwyr gael mynediad i’n llyfrgelloedd sefydlog.

Mae’r llyfrgell deithiol yn cludo detholiad o lyfrau sy’n addas i bob oedran, gan gynnwys llyfrau print bras a llyfrau sain yn Gymraeg a Saesneg. Gall preswylwyr ddefnyddio eu cerdyn llyfrgell presennol neu ymuno â’r llyfrgell pan fyddant yn y llyfrgell deithiol

Llyfrgell Deithiol Llyfrgelloedd Aura. Ginger Pixie Photography.

Llyfrgell Deithiol Llyfrgelloedd Aura. Ginger Pixie Photography.

Gwasanaeth llyfrgell i bobl sy’n gaeth i’r tŷ

Os nad yw’n bosib i chwi ymweld â’r llyfgell deithiol oherwydd damwain, salwch neu anabledd, efallai bydd eich awdurdod lleol yn cynnig gwasanaeth i bobl sy’n gaeth i’r tŷ.

Gall anawsterau  wrth ddefnyddio’r llyfrgell fod o natur barhaol neu dros dro. Gallwch chi (neu’r person yr ydych yn gofalu amdano) fethu:

  • gadael y cartref neu fan preswylio arall
  • teithio i’r llyfrgell
  • cael mynediad hawdd i’r llyfrgell 
  • cario deunyddiau i’r llyfrgell ac oddi yno

Gallwch gysylltu â’ch llyfrgell leol os ydych am dderbyn y gwasanaeth ar gyfer eich hunan neu berson yr ydych yn gofalu amdano. 

Gwasanaeth Library@Home Llyfrgelloedd Torfaen

Mae Llyfrgelloedd Torfaen yn cynnig gwasanaeth Library@Home ar gyfer defnyddwyr nad ydynt yn gallu cael mynediad at lyfrgelloedd sefydlog Torfaen oherwydd afiechyd, problemau symud neu gyfrifoldebau gofal. Gwasanaeth am ddim, bob tair wythnos yw hwn sydd hefyd ar gael i gartrefi preswyl a gofal.

Dechrau’r broses yw ymweliad â’r cartref er mwyn cwrdd â defnyddiwr y gwasanaeth a chael trafod eu dewisiadau darllen a’u fformatiau dewis. Mae Llyfrgelloedd Torfaen yn benthyg llyfrau print bras a CDs sain, ac mae bagiau atgofion ar gael i bobl yn dioddef o Ddimensia. Cofnodir dewisiadau’r defnyddiwr ar broffil cwsmer er mwyn i staff llyfrgell ddewis a chrynhoi eitemau priodol. Caiff y rhain eu hanfon at ddefnyddwyr y gwasanaeth, ac ymhen tair wythnos eu casglu gyda detholiad newydd yn cael ei adael yn eu lle.

Yn ogystal â darparu deunydd darllen, mae’r gwasanaeth yn helpu lleddfu unigrwydd ac mae defnyddwyr y Gwasanaeth Ynysigrwydd yn werthfawrogol iawn o’r gwasanaeth ac yn edrych ymlaen at bob cyflenwad a chael sgwrs gyda’r gyrwyr cyfeillgar.

Mae’r ymatebion canlynol a gasglwyd drwy arolwg gwasanaeth blynyddol Llyfrgelloedd Torfaen yn dangos gwerth y gwasanaeth:

‘Without this service we would both be lost as reading makes all the difference to our lives’ 

‘I am housebound so to get new books to read as a regular service means a great deal to me’

‘This service means that I can still enjoy my books without the need to ask or need someone else to be involved – it is a very positive part of my life’

 
 
 
 
 
Cookie Settings