Hanes Teulu

Library user receiving

Gallwch gael mynediad am ddim i’r adnoddau hanes teulu poblogaidd Ancestry Online (Argraffiad Llyfrgell) a Find My Past o fewn llyfrgelloedd cyhoeddus ac archifdai yng Nghymru. Gall yr adnoddau yma eich helpu’n sylweddol gyda’ch ymchwil hanes teulu.

Mae’r mynediad arlein yma ond ar gael fel arfer ar gyfrifiaduron mewn llyfrgelloedd cyhoeddus ac archifdai yng Nghymru, heblaw am yn ystod cyfyngiadau Covid-19, ble gafwyd mynediad o bell, tra ‘roedd y llyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru  ar gau, neu efo mynediad cyfyngedig.

Casglu tystiolaeth

Y cam cyntaf i unrhywun sydd â diddordeb mewn hanes teulu yw i holi perthnasau a ffrindiau teuluol am wybodaeth (yn enwedig aelodau hŷn y teulu), i gasglu enwau, enwau lleoedd, swyddi a dyddiadau, ac edrych ar unrhyw ddogfennaeth teuluol e.e. beiblau teuluol.

Gallwch yn ogystal ddod o hyd i dystiolaeth mewn tystysgrifau, ffotograffau, dyddiaduron, llythyron, toriadau papur newydd ayyb. Ni fydd pob ffynhonnell wastad yn ddibynadwy, ond bydd gwirio manylion yn ddechrau da.

Ewch ati i greu a threfnu’r wybodaeth ar ffurf coeden deulu mewn ffordd glir a chryno, naill ai ar bapur neu gan ddefnyddio meddalwedd cyfrifiadurol. Gallwch wedyn trefnu ymweliad â’r llyfrgell leol neu archifdy, neu ymweld a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Sesiynau Gwybodaeth Hanes Teulu

Bydd y rhan fwyaf o awdurdodau llyfrgell yn cynnig Sesiwn Gwybodaeth Hanes Teulu, fydd yn gyfle i’ch cyflwyno i’r adnoddau hanes teulu sydd ar gael, a all gael eu teilwra i gwrdd â’ch anghenion. Cysylltwch â’r llyfrgell leol er mwyn trefnu sesiwn.

Cysylltu â’r llyfrgell

Adnoddau Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Y Llyfrgell yw prif ganolfan hel achau Cymru ac mae’n gartref i nifer helaeth o gofnodion defnyddiol i’r hanesydd teulu – cyfrifiad, cofnodion profeb, cofnodion anghydffurfiol a mapiau degwm, i enwi ond rhai ohonynt. Byddant i gyd o gymorth yn ystod eich ymchwil.

Hanes teulu  yn LlGC

Rhai adnoddau arlein pellach sydd ar gael drwy wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

Cookie Settings