Llyfrau Darllen yn Well ar Bresgripsiwn yng Nghymru

Library User being shown Reading Well books

Mae Darllen yn Well yn eich cefnogi chi er mwyn deall a rheoli eich iechyd a lles drwy ddefnyddio darllen sy’n gymorth.

Cymeradwyir y llyfrau i gyd gan arbenigwyr iechyd, yn ogystal â phobl sy’n byw gyda’r anhwylderau sy’n cael sylw, eu perthnasau a’u gofalwyr.

Gall gweithiwr iechyd proffesiynol gymeradwyo llyfr i chi neu fe allwch ymweld â’ch llyfrgell leol a benthyg llyfr eich hunan.

Mae pedwar cynllun Darllen yn Well ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd:

Nid yw’r rhestr yma yn rhan o’r cynllun yng Nghymru eto, ond fe allwch ei gael yn ddefnyddiol ac fe fydd y llyfrau ar gael yn y rhan fwyaf o lyfrgelloedd i chi eu benthyg:

Gallwch fenthyg llyfrau o’r casgliadau drwy eich llyfrgell leol. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r Reading Agency er mwyn darparu Darllen yn Well ym mhob un o’r 22 awdurdod llyfrgell yng Nghymru yn ddwyieithog yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae’r Reading Agency yn gweithio gyda Cyngor Llyfrau Cymru er mwyn sicrhau bod rhagor o’r llyfrau ar gael yn Gymraeg.

Lansiwyd Llyfrau ar Bresgripsiwn Darllen yn Well ar gyfer demensia yng Nghymru yn 2018 fel rhan o’r Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Demensia newydd.  Mae’r llyfrau yn rhoi gwybodaeth a chyngor i bobl sy’n byw gyda demensia, cefnogaeth ar gyfer byw yn dda, cyngor i berthnasau a gofalwyr, yn ogystal â llyfrau ffuglen, atgofion a ffotograffau a ddefnyddir mewn therapy hel atgofion. Staff meddygol proffesiynol sydd yn argymell y rhain ac fe’u ceir yn eich llyfrgell leol.

LansiwydLlyfrau ar Bresgripsiwn Darllen yn Well ar gyfer iechyd meddwl yng Nghymru yn 2019. Mae Darllen yn Well ar gyfer iechyd meddwl yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol a chefnogaeth ar reoli anhwylderau iechyd meddwl cyffredin neu ddelio â theimladau a phrofiadau anodd. Mae rhai llyfrau hefyd yn cynnwys hanesion personol gan bobl sydd yn byw gyda rhywun ag anghenion iechyd meddwl neu syff yn gofalu am rywun felly.

Ar Ddiwrnod y Llyfr 2020 cynhaliwyd digwyddiad arbennig ar bwnc darllen ac iechyd meddwl gan Gyngor Llyfrau Cymru, yn Venue Cymru yn Llandudno, er mwyn cefnogi Darllen yn Well Llyfrau ar Bresgriptiwn yng Nghymru.

Lansiwyd Darllen yn Well: Llyfrau ar Bresgripsiwn i blant yng Ngymru ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2020 gan y Reading Agency a’r llyfrgelloedd cyhoeddus. Cyhoeddwyd y rhestr ddarllen mewn ymateb i’r galw cynyddol am wybodaeth a chyngor gan arbenigwyr i helpu plant i ddeall a rheoli eu hiechyd meddwl a’u lles, gyda chasgliadau o lyfrau ac adnoddau ategol ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Mae’r rhestr ddarllen i blant yn cynnwys 33 o lyfrau a ddewiswyd i fynd i’r afael â rhai o’r prif heriau sy’n wynebu plant heddiw. Mae’r llyfrau ar y rhestr yn trafod pynciau fel gorbryder a galar, bwlio a diogelwch ar y we, a sut i ddelio â digwyddiadau yn y newyddion.  Mae’r rhestr o lyfrau hefyd yn archwilio sut i fyw yn well gydag ystod o gyflyrau ar ôl diagnosis, gan gynnwys Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD), Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD), dyslecsia, Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD) ac anableddau corfforol.

Mae’r rhestr wedi’i hanelu at blant Cyfnod Allweddol 2 ac mae’n cynnwys teitlau sy’n addas ar gyfer ystod eang o lefelau darllen, er mwyn cynnig cymorth i ddarllenwyr llai hyderus, ac i annog plant i ddarllen gyda’u brodyr a’u chwiorydd a’u gofalwyr.

Gwybodaeth pellach am y cynllun Darllen yn Well i Blant

 

Mae Darllen yn Well i’r arddegau yn cefnogi iechyd meddwl a lles pobl ifanc yn eu harddegau, gan ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol, cyngor a chefnogaeth i’w helpu i ddeall eu teimladau yn well, delio â phrofiadau anodd a magu hyder. Datblygwyd y rhestr fel diweddariad i restr Darllen yn Well i bobl ifanc 2016 (“Shelf Help”) ac mae’n canolbwyntio ar gefnogi iechyd meddwl a lles yr arddegau wrth ddelio â bywyd ar ôl pandemig.

Mae’r rhestr lyfrau yn benodol i bobl ifanc yn eu harddegau (13–18) ac mae’n cynnwys amrywiaeth o lefelau darllen a fformatau i gefnogi darllenwyr llai hyderus ac ennyn diddordeb. Mae rhai o’r llyfrau sy’n cael

eu hargymell yn awgrymu technegau hunangymorth defnyddiol ac yn cynnwys straeon personol, fformatau graffeg a ffuglen. I gyd-fynd â’r llyfrau, mae detholiad o adnoddau digidol safonol sy’n addas i’r oedran. Pobl ifanc, gweithwyr iechyd proffesiynol blaenllaw a staff llyfrgelloedd sydd wedi dewis y llyfrau.

 

Cyn belled â hyn mae Darllen yn Well wedi cyrraedd dros 1.3 miliwn o bobl  ac mae 90% o bobl mewn arolwg wedi cael cymorth o’u llyfr nhw. Yng Nghymru yn 2020–21, benthycwyd o leiaf 14,000 o lyfrau Darllen yn Well o lyfrgelloedd cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys dros 7,000 o’r rhestr Darllen yn Well i blant, dros 5,000 o’r rhestr Darllen yn Well ar gyfer iechyd meddwl, a thros 1,600 o’r rhestr Darllen yn Well ar gyfer dementia. Yn ogystal, mae dros 32,000 o lyfrau Cymraeg wedi’u gwerthu ers 2019. 

Caiff Darllen yn Well ei ddarparu gan y Reading Agency mewn partneriaeth â Libraries Connected fel rhan o Libraries Connected Universal Health Offer, a Chymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru. Caiff ei ariannu gan Arts Council England Llywodraeth Cymru.

 

 
 
 
 
Cookie Settings