Llyfrgelloedd wedi cau am gyfnod amhenodol

Mawrth 30, 2020

Mae pob Llyfrgell wedi cau am gyfnod amhenodol.

Nid ydynt yn benthyg llyfrau ac mae cyfnodau benthyg pawb wedi ei ymestyn. Ni fydd dirwyon i neb yn ystod y cyfnod hwn.

Gallwch ddal i ddarllen neu wrando ar e-lyfrau, llyfrau sain, a hyd yn oed gomics ar bron unrhyw ddyfais neu gyfrifiadur. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth.