Llythrennedd Gwybodaeth yn y Gweithle

Llythrennedd Gwybodaeth yn y Gweithle

What is Information Literacy

Pam mae angen llythrennedd gwybodaeth yn y gweithle?

Mae nifer o astudiaethau wedi arddangos y problemau sydd oherwydd llythrennedd gwybodaeth annigonol yn y gweithle. Mae Bill Boyd (2005) yn amcangyfrif mewn sefydliad o 1,000 o bobl, os cewch wared ar bum munud o wastraffu amser, fel dileu e-byst a rhoi trefn arnynt, chwilio am wybodaeth na allwch ddod o hyd iddi, neu ailgreu gwybodaeth sy’n bod yn barod, byddwch yn arbed $4,167; os gwnewch chi hynny bob dydd am flwyddyn, bydd y sefydliad wedi arbed mwy nag $1 filiwn.

Mae Archwiliad Sgiliau Strategol Cenedlaethol Cymru 2011 yn dyfynnu tystiolaeth o arolwg e-sgiliau 2010 fod 1 cyflogwr ym mhob 6 ym mhob sector yng Nghymru yn ystyried bod sgiliau TG eu gweithwyr yn is na’r safon isafswm.

Mae’r ddogfen Cyflawni Cymru Ddigidol, yn y cyfamser, yn adrodd ar y defnydd ar y rhyngrwyd at ddibenion busnes ymysg aelodau o Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru:

  • Mae 73% yn defnyddio’r rhyngrwyd i ddod o hyd i ganllawiau cyngor a gwybodaeth (77% yw’r cyfartaledd yn y DU)
  • Mae 36% yn defnyddio’r rhyngrwyd i chwilio am wybodaeth am gystadleuwyr  (46% yw’r cyfartaledd yn y DU)

Mae’r un ddogfen yn dyfynnu bod y  defnydd ar y rhyngrwyd ymysg BBaChau yng Nghymru yn 75%, sy’n is na’r cyfartaledd yn y DU o 81%. Dengys y ffigyrau hyn nad yw busnesau yng Nghymru yn defnyddio’r rhyngrwyd i’w photensial llawn. Gall y rhan fwyaf o ddefnyddwyr y rhyngrwyd ddefnyddio peiriannau chwilio poblogaidd, cyffredin fel Google ar lefel elfennol, ond ni fydd llawer yn ymwybodol o sut mae mireinio’r chwilio na lle i chwilio am wybodaeth nad yw Google yn cyfeirio ati (Ojala 2002). Byddai hyfforddiant llythrennedd gwybodaeth yn galluogi i’r busnesau hyn ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ar gael, a’i chasglu a’i defnyddio hyd yr eithaf. 

Canfu arolwg yn 2006 o 132 o fusnesau bach a chanolig (BBaChau) yn y DU eu bod yn treulio ar gyfartaledd 12.7 awr yr wythnos yn defnyddio’r rhyngrwyd gydag ychydig dros hanner yr amser hwnnw (6.4 awr) wrthi’n chwilio am wybodaeth (De Saulles 2007). Mae’r gwaith ymchwil hwn yn amcangyfrif bod sefydliad sy’n cyflogi 1,000 o staff yn colli 45.3 miliwn y flwyddyn drwy wastraffu amser staff ar strategaethau chwilio gwael. Amcangyfrifa ymhellach fod y gost i BBaChau yn y DU o chwilio ac adalw aneffeithiol ar wybodaeth rhwng £3.7 biliwn ac £8.2 biliwn y flwyddyn. 

Felly, fel cyflogwr, ystyriwch:

  • A ydych yn gallu gwneud penderfyniadau busnes gan ddefnyddio’r data gorau neu’r wybodaeth fwyaf dibynadwy sydd ar gael?  
  • A ydych yn defnyddio’r wybodaeth ddiweddaraf yn eich maes?   
  • A ydych yn rheoli’ch data yn effeithlon ac yn ddiogel?                  
  • A ydych yn defnyddio’r wybodaeth a gafwyd mewn modd moesegol a chywir?
  • A ydych yn ymchwilio i gleientiaid posibl a’ch cystadleuwyr? 
  • A ydych yn rheoli’ch gwybodaeth yn effeithlon, neu a ydych chi a’ch gweithwyr yn dioddef gan ‘orlwytho gwybodaeth’?   
  • A yw’ch gweithwyr yn cyfathrebu a rhannu gwybodaeth mewn ffyrdd sy’n ymgysylltu orau â’u cynulleidfaoedd presennol a phosibl?  

Gall sefydlu hyfforddiant llythrennedd gwybodaeth yn eich gweithle eich cynorthwyo i ddatrys y cwestiynau hyn.

Dogfennau Defnyddiol

McDonald, Catherine. (2014) A leading digital nation by 2020:calculating the cost of delivering digital skills for all. London:Tinder Foundation. Online, PDF.

Espinoza, K. (2011) Hooked on e-mail: information overload, and an expectation that e-mails, tweets and text messages will be answered immediately, impact productivity. Here’s how to fight the digital attack. Leadership Mar.-Apr. 2011, p36.

De Saulles, M. (2007). Information literacy amongst UK SMEs: an information policy gap. Aslib Proceedings. Vol 59 Issue 1, pp. 68-79.

Boyd, B. (2005) The (Staggering) Cost of Information Overload. Communication World Bulletin. September 2005.

Ojala, M. (2002). Search soirees. Online. Vol 26, no. 1.