Mentrau Gwyrdd yw Ffocws Wythnos Llyfrgelloedd

 

Bydd Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd yn dychwelyd rhwng 7-13 Hydref 2024,  yn dathlu llyfrgelloedd a chanolbwyntio ar yr hinsawdd a chynaliadwyedd. Yn 2023, aeth Wythnos Llyfrgelloedd yn Wyrdd, gyda llyfrgelloedd o Jersey i John O’Groats yn cynnal mwy na 290 o weithgareddau amgylcheddol a chynaliadwyedd rhwng 2 a 8 Hydref.

Mae’r ymgyrch Llyfrgelloedd Gwyrdd yn tyfu. Mae llyfrgelloedd ledled y DU a thu hwnt wedi bod yn gweithio’n galed i weithredu dros yr hinsawdd a lledaenu ymwybyddiaeth i’w cymunedau fel rhan o Bartneriaeth Llyfrgelloedd Gwyrdd CILIP. Mae’r ymgyrch yn annog llyfrgelloedd i fynd ati i leihau eu hôl troed carbon a chynyddu ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol i’r cyhoedd yn ehangach trwy ddarparu adnoddau hygyrch.

Sefydlwyd Cronfa Grantiau Bach Llyfrgelloedd Gwyrdd Cymru yn 2022 i ariannu prosiectau yng Nghymru fel rhan o’r Bartneriaeth Llyfrgelloedd Gwyrdd. Nod y gronfa oedd cefnogi rhaglenni, gweithgareddau a rhannu gwybodaeth ar raddfa fach mewn llyfrgelloedd yng Nghymru gan geisio gwella dealltwriaeth gyffredinol a chymryd camau i ddangos Cyfrifoldeb Amgylcheddol.

Mae prosiectau arloesol Llyfrgelloedd Gwyrdd Cymru a gyhoeddwyd gan CILIP Cymru Wales yn cynnwys tyfu bwyd ar saflleoedd Makerspace llyfrgelloedd, hyfforddiant llythrennedd carbon i staff, arddangosfeydd planhigion, a meithrin sgyrsiau cenedlaethol newydd am y newid yn yr hinsawdd. Gwnaeth y ceisiadau argraff fawr ar Banel Kathleen Cooks fel eu bod yn cytuno i ariannu’r tri phrosiect yn llawn er mwyn sicrhau llwyddiant.

  • Llyfrgelloedd Bro Morgannwg – Lle i Dyfu
  • Gwasanaeth Gwybodaeth a Llyfrgelloedd Cyfoeth Naturiol Cymru a Llyfrgelloedd Gwynedd – ‘Gwirionedd Cyfleus’
  • Gwasanaeth Llyfrgell Prifysgol Caerdydd – Cynyddu llythrennedd carbon staff a gwelededd prosiectau cynaliadwy

Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd yng Nghymru

Dyma rai o’r mentrau a gweithgareddau Llyfrgelloedd Gwyrdd sy’n cael eu cynnal yng Nghymru yn ystod Wythnos y Llyfrgelloedd Gwyrdd a thu hwnt:

Llyfrgelloedd Blaenau Gwent

Prosiect Libraries vs Litter – Gwahoddir dosbarthiadau ysgol leol i ganghennau llyfrgell Blaenau Gwent yn reolaidd, cael offer i gasglu sbwriel, yna’n dychwelyd i’r gangen i ymlacio a mwynhau’r llyfrau fel gwobr.  Mae hyn wedi bod yn boblogaidd iawn!  Mae ganddynt ddigwyddiad arbennig yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd sy’n gysylltiedig â Cadwch Gymru’n Daclus (Keep Wales Tidy).  Bydd staff y llyfrgell yn cynnal sesiwn casglu sbwriel ar hyd llwybr Ebwy Fawr gyda Disgyblion Blwyddyn 4.

Little Pickers – Bydd Llyfrgelloedd Blaenau Gwent hefyd yn lansio eu menter ddiweddaraf – Little Pickers – sef Libraries vs Litter i blant bach.  Mae ganddynt offer casglu sbwriel wedi eu haddasu i blant bach a bydd digwyddiad gyda phlant oed meithrin a derbyn. Y nod yw annog plant o oedran ifanc i gysylltu’r llyfrgell â helpu’r amgylchedd a’u haddysgu am ofalu am yr amgylchedd yn gyfrifol.

Little Pickers

Diwrnod Stori Awyr Agored – Bydd y gwasanaeth llyfrgell hefyd yn cynnal diwrnod stori awyr agored. Maent wedi gwahodd disgyblion Blwyddyn 2 i ymuno â’r staff llyfrgell yn y parc, i fwynhau stori a dysgu am yr hadau y mae’r coed yn eu cynhyrchu i sicrhau mwy o goed ar gyfer y dyfodol.  Byddant yn casglu concyrs, mes, moch coed, allweddi onnen a hofrenyddion sycamorwydden, yn union fel y llwynog yn y stori!

Cyfnewid Gwisg Ffansi – Byddant yn annog ailgylchu a chynaliadwyedd trwy cyfnewid gwisgoedd, gan ofyn i deuluoedd roi eu gwisgoedd gwisg ffansi ddiangen yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd, er mwyn dileu gwastraff a chost.

Gweithgareddau Crefft – Bydd gweithgareddau crefft ar gael ym mhob cangen o’r llyfrgell gan ddefnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu, yn debyg i’r Sesiynau Crefftwyr Campus i gefnogi Sialens Ddarllen yr Haf.  Bydd dosbarth celf oedolion hefyd ar gael yr wythnos honno – byddant yn gwneud Llusernau Hydref o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu!

Llyfrgelloedd Caerffili

Mae Gwasanaeth Llyfrgell Caerffili yn cynllunio ystod helaeth o ddigwyddiadau wedi’u harwain gan y Llyfrgellydd Cymunedol Laurence Batten.

Ymweliadau awduron –  Sophie Zalayet yw awdur y llyfr newydd Dyna Fe! Dyna Fe! Sbwrfilyn y Dre (yn Saesneg Look out! Look out! There’s a Litterbug about), stori hwyliog, ysgafn wedi’i chymeradwyo gan Cadwch Gymru’n Daclus. Bydd Sophie yn cynnal sesiynau ar ddydd Llun 7 Hydref yn Llyfrgell Rhisga am 10am a Llyfrgell Caerffili am 1pm. Bydd dosbarthiadau o ysgolion lleol yn ymweld.

Sophie Zalayet in Summer Reading Challenge promotion event

Bydd Tom Bullough yn cynnal sgyrsiau yn Llyfrgelloedd Bargoed a Chaerffili ddydd Sadwrn 19 Hydref, ac yn siarad am ei lyfr Sarn Helen. Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ond mae’n hanfodol archebu lle.

TOM BULLOUGH event poster

Sesiynau Casglu sbwriel – Mae wyth o safleoedd Llyfrgelloedd Caerffili eisoes yn ganolfannau casglu sbwriel Cadwch Gymru’n Daclus lle gall pobl fenthyca offer i gynnal eu sesiynau casglu sbwriel eu hunain fel unigolion neu grwpiau.

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn cynnal sesiynau casglu sbwriel ym mhob safle llyfrgell yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd:

  • Dydd Llun 7fed – Llyfrgell Caerffili 10am-11am; Llyfrgell Rhymney 12pm-1pm
  • Dydd Mawrth 8fed – Llyfrgell Risca 10am-11am; Llyfrgell Abertridwr 12pm-1pm
  • Dydd Mercher 9fed – Llyfrgell Nelson 10am-11am
  • Dydd Iau 10fed – Llyfrgell Coed Duon 10am-11am ; Llyfrgell Bargoed 12pm-1pm
  • Dydd Gwener 11eg – Llyfrgell Ystrad Mynach 10am-11am

Bydd y tîm ailgylchu yn ymuno â llawer o’r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn llyfrgelloedd Caerffili i hyrwyddo ailgylchu ac ateb unrhyw gwestiynau gan fynychwyr.

Mae Llyfrgell Rhisga wedi trefnu rhai digwyddiadau ar gyfer wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd:

  • Dydd Mawrth 8fed Amser ‘Gwyrdd’ Plant Bach  ‘Ymunwch â Llyfrgell Rhisca am stori a chaneuon gyda ffocws ar yr amgylchedd!’ 11am-12pm
  • Dydd Mercher 9fed Sesiwn Grefft ‘Defnyddio deunyddiau a gwrthrychau wedi’u hailgylchu o natur i greu eitemau crefft diddorol’ 3.30-4.30pm
  • Dydd Sadwrn 12fed Amser Stori ar thema Gwyrdd a Chrefft ‘Cyfle arall i roi cynnig ar grefftio deunyddiau ail-law, yn ogystal â stori hwyliog!’ 11am-12pm

Llyfrgelloedd Sir Fynwy

Prosiect PEG (Please Eat the Garden) – Diolch i gynllun grant cymunedol diweddar Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy, fe adeiladwyd gardd newydd yn safleoedd Canolfan Cymunedol Brynbuga a Neuadd y Sir.  Ceir yno gwelyau plannu, gorsaf hadau, tybiau dwr, tomenni compost, bocsys bywyd gwyllt, a meinciau pren fel y gall ymwelwyr eistedd a mwynhau’r ardd.

Garden at Usk Community Hub

Pwrpas prosiect PEG yw darparu cyfleoedd i’r cymuned ddysgu am fwyd a thyfu, a meithrin diwylliant rhannu bwyd. Pan fydd y tîm PEG yn lluosogi planhigion mewn tai gwydr, gall unrhyw un gymryd rhan yn tyfu a gofalu am y planhigion, a mynd draw i gynaeafu’r cynnyrch. 

Mae Usk Together for the Climate yn grŵp ymbarél ar gyfer hyn, a phrosiectau lleol eraill i gyd yn cyfrannu at wneud Brynbuga yn dref sy’n fwy ymwybodol o’r blaned a’r hinsawdd gyda theimlad cymunedol cryf.

Llyfrgelloedd Torfaen

Sesiwn Crefft i Blant – Mae gan Lyfrgelloedd Torfaen sesiwn arbennig i blant dan 5 oed wedi’i chynllunio ar ddydd Llun Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd – i wneud torch deilen o gylchgronau, dail a mes wedi’u hailgylchu.

Sesiynau Stori a Chân yn y Llyfrgell – Bydd y sesiynau Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd yn digwydd yn y llyfrgell lle bydd staff yn rhannu straeon a chaneuon thematig ac yn edrych ar yr hyn a welwn yn ein sbwriel, sut y gallwn ei ddefnyddio’n well a sut mae’r broses ailgylchu yn digwydd yn Nhorfaen. 

Llyfrgelloedd Wrecsam

Creu Gwesty Pry – Yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd, bydd Llyfrgelloedd Wrecsam yn cynnal sesiwn grefft i blant yn Llyfrgell Brynteg i wneud Gwesty Pry allan o ganiau tun wedi’u hailgylchu. Byddant hefyd yn gosod arddangosfa lyfrau â thema arbennig i annog defnyddwyr llyfrgelloedd i dalu llyfrau ar y thema Gwyrdd.

Bug hotel and Bird feeder Craft session      Bug hotel and Bird feeder Craft session

Bug hotel and Bird feeder Craft session      Bug hotel and Bird feeder Craft session

Hyrwyddiad Llyfrau Dyddiol – Mae Llyfrgelloedd Wrecsam wedi cynllunio hyrwyddiad cyfryngau cymdeithasol arbennig ar gyfer Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd, gyda llyfr a broliant gwahanol yn cael eu postio’n ddyddiol ar eu tudalennau cyfryngau cymdeithasol.

Bydd arddangosfeydd a cyfle i fenthyg llyfrau am fyw’n gynaliadwy, arferion ecogyfeillgar ac ymwybyddiaeth amgylcheddol, yn cynnwys teitlau ar y themau yma:

  • Darganfyddwch fwy am newid yn yr hinsawdd, ynni adnewyddadwy, ffyrdd o fyw ecogyfeillgar a chadwraeth natur
  • creu cartref cynaliadwy gydag awgrymiadau ymarferol ar gyfer arbed ynni, lleihau gwastraff a DIY ecogyfeillgar
  • dechrau coginio’n eco-ymwybodol, gyda ryseitiau yn defnyddio planhigion ac awgrymiadau i leihau gwastraff bwyd
  • tyfu eich bwyd eich hun gyda chanllawiau garddio cynaliadwy
  • lleihau eich ôl troed carbon gyda theithio gwyrdd a chyngor byw gwastraff isel

Wrexham Libraries Book Display    Wrexham Libraries Book Display

 

Amser stori ar thema werdd – Bydd amser stori ar thema werdd yn digwydd bob dydd yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd yn Llyfrgell Gwersyllt.

Llyfrgelloedd Sir Ddinbych

Llyfrgell hadau – Mae Llyfrgell y Rhyl wedi lansio’u Llyfrgell Hadau – mi fydd detholiad o hadau ar gael i aelodau’r cyhoedd i helpu eu hunain, ynghyd ag arddangosfa o lyfrau yn annog pobl i dyfu eu llysiau a’u blodau eu hunain, a bod yn fwy cynaliadwy.

Rhyl Library Seed swap

Llyfrgelloedd Castell-nedd Port Talbot

Bydd Llyfrgelloedd Castell-nedd Port Talbot yn cynnal nifer health o fentrau/prosiectau i gefnogi Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd:

Better World Books –  Bydd Llyfrgelloedd yn rhoi’r hen stoc llyfrgell i Better World Books. Mae hyn yn arbed y llyfrau rhag mynd i safleoedd tirlenwi ac yn rhoi bywyd newydd iddynt.

Cynaliadwyedd – Mae Llyfrgelloedd CNPT yn archebu llyfrau gan Askews and Holts Library Services, sydd wedi ymrwymo i leihau’r effaith mae eu gweithrediadau yn ei chael ar yr amgylchedd.

Sesiynau Crefft i Blant – Mae sesiynau crefft natur plant wedi eu cynllunio yn y llyfrgell i’w hannog i ddefnyddio deunyddiau naturiol a dysgu am fyd natur gan gynnwys gwesty pry.

Gweithdy gemwaith a grŵp crefft – Mae Llyfrgell Port Talbot yn cynnal gweithdy gemwaith sy’n defnyddio gleiniau o emwaith sydd wedi torri i roi bywyd newydd iddynt. Mae’r llyfrgell hefyd yn rhedeg grŵp crefftau sy’n cyfuno deunyddiau crefft diangen i wneud eitemau newydd yn y grŵp.

Hyfforddiant Llythrennedd Carbon – Mae staff y Llyfrgell wedi mynychu Cwrs Llythrennedd Carbon a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cwrs yn rhoi dealltwriaeth o’r newid yn yr hinsawdd, maint ei effeithiau, a sut mae amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd yn cyd-fynd â’r darlun byd-eang, cenedlaethol a lleol i fynd i’r afael â materion newid hinsawdd.

Llyfrgelloedd Abertawe

Cadwch lygad allan am y digwyddiadau canlynol yn Llyfrgelloedd Abertawe i gefnogi Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd:

  • Hydref 7fed 11am, Llyfrgell Ystumllwynarth – Rae Howells, awdur The Language of Bees a This Common Uncommon
  • 8fed & 11eg Hydref – Bydd Mioe Creative yn gweithio gyda dau grŵp ysgol – gwneud masgiau anifeiliaid mewn perygl Prydain, darganfod llyfrauy sy’n cynnwys yr anifeiliaid hyn yn y llyfrgell, a thrafodaeth am yr hyn y mae ‘anifeiliaid mewn perygl’ yn ei olygu a beth allwn ni ei wneud i’w cefnogi’n well yn ein bywydau ein hunain.
  • Dydd Mercher 8fed Hydref 3.30-4.30, Llyfrgell Penlan – sesiynau stori a chrefft – gwnewch eich gwesty bygiau eich hun a thyfu eich coeden eich hun. 
  • Dydd Iau 10 Hydref 4pm, Llyfrgell Ystumllwynarth – digwyddiad crefftau ‘Ailgylchu’

Bydd holl lyfrgelloedd Cyngor Abertawe yn arddangos llyfrau a deunyddiau sy’n ymwneud ag Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd eleni yn ogystal ag asedau cyfryngau cymdeithasol.

Llyfrgelloedd Awen

Darllenwch am y cyfoeth o brosiectau sy’n digwydd yn Llyfrgelloedd Awen i gefnogi’r ymgyrch Llyfrgelloedd Gwyrdd:

Benthyg, Darllen ac Ailadrodd! – Yn 2023-24, cafodd dros 361,000 o eitemau eu benthyca, eu dychwelyd a’u benthyg eto gan Lyfrgelloedd Awen, gan gynnwys llyfrau, DVDs, iPads a hyd yn oed peli pel-droed. Mae hynny’n llawer o ailddefnyddio!

Cerbyd dosbarthu trydan – Maent yn disodli eu fan dosbarthu diesel bresennol gyda cherbyd trydan, wrth iddynt chwarae eu rhan yn helpu Cymru gyflawni allyriadau carbon sero net erbyn 2050.

Paneli solar yn cyflenwi trydan – Bydd y gwaith adnewyddu Llyfrgell Betws (Hydref 2024-Chwefror 2025) yn cynnwys gosod goleuadau LED a batri i storio trydan dros ben o’r casgliad presennol o baneli solar.

Arts Factory a rhoddion llyfrau – Mae unrhyw lyfrau nad yw Llyfrgelloedd Awen yn eu defnyddio bellach naill ai’n cael eu hanfon i Arts Factory – menter fasnachol yn Nglynrhedynog – i’w hailwerthu, eu rhoi i blant yn yr Affrig, neu eu hanfon i’w hailgylchu.

Cynllun Books 4U – Mae Llyfrgelloedd Awen yn rheoli gwasanaeth Books 4U yn ne Cymru. Os nad oes ganddynt y llyfr yr ydych ei eisiau, gallwch ei fenthyg o lyfrgell arall, sy’n lleihau’r angen am nifer o gopiau a lleihau papur.

Gwobrau ecogyfeillgar i Sialens Ddarllen yr Haf – Maent yn gweithio’n galed i ddisodli’r gwobrau nad ydynt yn fioddiraddadwy a ddefnyddir yn ystod Sialens Ddarllen yr Haf gyda fersiynau ecogyfeillgar, i leihau’r defnydd o blastig untro.

Deunyddiau crefft y gellid eu hailgylchu – Maent yn lleihau faint o ddeunyddiau crefft newydd maent yn eu defrnyddio tryw gynnal gweithgareddau sy’n defnyddio deunyddiau y gellir eu hailgylchu, megis modelu cardbord a blodau o dudalennau hen llyfrau.

 

Green Libraries Week message      Green Libraries Week message

Llyfrgelloedd Powys

Gweithdy Gwesty Pry – Dros wyliau’r haf cynhaliodd Llyfrgelloedd Powys weithdy Gwesty Pry (Bug Hotel) i blant a’u teuluoedd/gofalwyr yn Llyfrgell y Drenewydd. Roedd yn llwyddiant mawr gyda llawer o gyfranogwyr. Deunyddiau naturiol / wedi eu hailgylchu a ddefnyddiwyd ar wahân i blastig wedi’i ailgylchu a ddefnyddid i’r to. Plannwyd y to gydag amrywiaeth o theim gwyllt a sedum i ddenu pryfed, ac mae bellach wedi’i leoli yn ardal cwrt y llyfrgell, llecyn heulog gyda mainc ‘enfys’. Roedd y gweithdy’n hygyrch i ystod o grwpiau ac roedd mynediad i gadeiriau olwyn ar gyfer cyfranogwyr anabl.

Bug Hotel

Planwyr blodau gwyllt – Yn dilyn hyn mae Llyfrgelloedd Powys wedi derbyn arian gan Cadwch Gymru’n Daclus i osod planwyr blodau gwyllt. Byddant yn cael eu hadeiladu ddydd Llun 7 Hydref a bydd grŵp Cylch Meithrin Y Drenewydd yn dod i helpu. Yn ystod y gweithdy byddant yn trafod yr holl bryfed ac anifeiliaid y bydd y blodau’n eu denu. Mae hyn yn ffordd wych o adeiladu perthynas y llyfrgell â’r Cylch Meithrin a datblygu cysylltiad rhwng y llyfrgell a’r plant iau.  

Bydd y ddau brosiect yn helpu i gydgysylltu’r dotiau ychydig yn fwy ar gyfer bywyd gwyllt yn y dref, byddant yn gwella’r gofod ac yn hygyrch i’r rhai ag anableddau i’w mwynhau neu weithio arnynt. Byddant yn darparu profiad synhwyraidd yn y llyfrgell gyda golygfeydd newydd (blodau, glöynnod byw ac ati), arogleuon (o teim, gwyddfid, lafant ac ati), planhigion i’w cyffwrdd a’u mwynhau a synau’r adar a’r pryfed y bydd y prosiectau’n eu denu. Hefyd, o safbwynt lles mae staff llyfrgelloedd eisoes wedi gweld pobl yn defnyddio mwy o’r gofod ac yn ymlacio yno.

Sioeau Teithiol Ailgylchu – Drwy gydol yr wythnos bydd Llyfrgelloedd Powys yn cynnal sioeau ailgylchu teithiol lle gall pobl ddarganfod sut i wneud y gorau o’r blychau ailgylchu gartref a helpu’r amgylchedd drwy sicrhau eich bod yn ailgylchu cymaint o’ch gwastraff â phosibl a gwneud dewisiadau cynaliadwy. Bydd sioeau ar gael yn y safleoedd canlynol:

  • Dydd Llun 7 Hydref, 9:30 – 13:00 Llyfrgell Machynlleth
  • Dydd Mawrth 8 Hydref, 10:00 – 14:00 Llyfrgell Y Drenewydd
  • Dydd Mercher 9 Hydref, 10:00 – 14:00 Llyfrgell Aberhonddu/Y Gaer
  • Dydd Iau 10 Hydref, 10:00 – 14:00 Llyfrgell Ystradgynlais
  • Dydd Iau 10 Hydref, 9:30 – 12:30 Llyfrgell Llanfyllin
  • Dydd Gwener 11 Hydref, 10:00 – 14:00 Llyfrgell Llandrindod/Gwalia

Meddai’r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach.

“Gallwn ni i gyd wneud ein rhan i helpu i leihau ein heffaith ar newid hinsawdd a gwella ein hamgylchedd drwy wneud dewisiadau mwy cynaliadwy.

“Mae defnyddio llyfrgelloedd i fenthyg llyfrau, a’r holl bethau gwych eraill sy’n cael eu cynnig, yn hytrach na phrynu rhai newydd, yn ffordd berffaith o fynd yn groes i’r diwylliant prynu a’n helpu ni i gyd i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu yn ein bywydau bob dydd. Yn ystod yr Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd hon, beth am alw heibio’ch llyfrgell leol a chael gwybod mwy am ailgylchu, a sut y gallwch wneud rhagor.”

Cadwch mewn cysylltiad â digwyddiadau Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd ar wefan Wythnos Llyfrgelloedd ac X.

Cookie Settings