BorrowBox

Mobile phones featuring Borrowbox titles

Mae gan y gwasanaeth BorrowBox ystod eang o e-lyfrau ac e-lyfrau llafar ar gael i chi eu lawrlwytho a darllen a gwrando ar eich cyfrifiadur neu’r rhan fwyaf o ddyfeisiau symudol. Mae llyfrau Saesneg a Chymraeg, ffuglen a ffeithiol, a llyfrau i oedolion a hefyd plant. 

Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn mae’n rhaid i chi fod yn byw yn y Deyrnas Unedig a bod yn aelod cofrestredig mewn llyfrgell yng Nghymru sy’n rhan o’r cynllun. Os ydych eisoes yn aelod o’r llyfrgell, gallwch dechrau benthyg yn syth gan ddefnyddio’r dolenni ar gwefan eich llyfrgell lleol:

Gall aelodau o’r llyfrgell leol pori a benthyg e-lyfrau ac e-lyfrau llafar poblogaidd ar unrhyw ddyfais Apple iOS a Android Google am gyfnodau cyfyngedig drwy fenthyciadau digidol. Mae ffeiliau sain MP3 yn hygyrch ac yn gydnaws â holl ddyfeisiau.

Lawrlwythwch yr ap yn awr oddi wrth yr App Store a Google Play, a dechreuwch fenthyca, lawr lwytho a mwynhau e-Lyfrau llafar heddiw.

Mae gwefan ac ap BorrowBox eich llyfrgell bellach ar gael yn y Gymraeg.
 
I newid i’r fersiwn Gymraeg o wefan BorrowBox, dewiswch ‘Cymraeg’ o’r gwymplen opsiwn iaith ar ochr dde uchaf y sgrin.
 
I newid i’r fersiwn Cymraeg o’r ap BorrowBox, defnyddiwch y ddolen ‘Iaith’ sydd i’w chael yng ‘Ngosodiadau’ yr ap. (Ar gyfer dyfeisiau Apple, efallai bydd angen i chi sicrhau eich bod wedi gosod cymorth Cymraeg yn gyntaf sy’n gyflym ac yn syml i’w wneud. Dilynwch y cyfarwyddiadau yma.)
 
Nodwch os mai’r Gymraeg yw’r iaith ddiofyn ar eich dyfais eisoes, bydd ap BorrowBox a’r wefan yn newid i’r Gymraeg yn awtomatig.
 

Ddim yn aelod o lyfrgell? Yna dilynwch y dolenni isod i ymuno â’ch llyfrgell leol ar lein:

 

Cookie Settings