E-lyfrau
Yn dilyn proses gaffael, bydd gwasanaeth e-lyfrau Cymru yn newid cyflenwr ar gyfer e-lyfrau. O Mai 1, bydd y gwasanaeth newydd i Gymru gyfan yn cael ei ddarparu gan BorrowBox o un wefan, a bydd hyn yn cynnwys e-lyfrau Cymraeg a Saesneg ac e-lyfrau llafar, ar gyfer oedolion, plant a phobl ifanc. O ganlyniad i hyn, bydd y dewis stoc yn cynyddu’n sylweddol, ac mae yna ap ar gael hefyd ar gyfer defnyddwyr dyfeisiadau symudol.
Dylai aelodau llyfrgell sy’n defnyddio’r gwasanaeth e-lyfrau ar hyn o bryd o https://wales.libraryebooks.co.uk/ gofrestru ar BorrowBox gyda’u cerdyn llyfrgell cyhoeddus Cymru gan fod y gwasanaeth presennol yn dod i ben ar 30 Ebrill 2018. Cliciwch ar y ddolen i fynd i dudalen Borrowbox ar wefan eich awdurdod lleol er mwyn ymuno â’r gwasanaeth. Gallwch wneud hyn yn awr ac nid oes angen i chi aros tan Mai 1 cyn ymuno. Fel gyda’r gwasanaeth e-lyfrau presennol, bydd yr holl e-lyfrau ac e-lyfrau llafar yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho. Gallwch fenthyca hyd at 10 e-lyfr a 10 e-lyfr llafar ar yr un pryd, a dychwelyd llyfrau yn gynt na’r cyfnod benthyg arferol o 21 diwrnod. Gallwch hefyd lawrlwytho llyfrau pan fyddwch dramor. Gallwch ddod o hyd i ap ‘Borrowbox’, sydd ar gael am ddim ar gyfer dyfeisiadau Android ac Apple, o unrhyw siop ap.
Os oes gennych e-lyfrau ar fenthyg ar hyn o bryd gyda’r gwasanaeth sy’n dod i ben, gallwch gwblhau eich cyfnod benthyg hyd yn oed os yw hyn yn mynd heibio Mai 1 [os yw hyn yn wir]. Yn anffodus, ni ellir trosglwyddo unrhyw archebion am lyfrau sydd gennych yn y gwasanaeth presennol i’r system newydd yn awtomatig felly bydd angen i chi archebu eitemau o’r newydd. Mae Llyfrgelloedd Cymru yn ymddiheuro am yr anghyfleustra hwn.
Gobeithio eich bod yn mwynhau defnyddio’r gwasanaeth ehangedig newydd a’r ystod llawer mwy o deitlau ac awduron a fydd ar gael.