RBdigital Comics
Os ydych yn mwynhau darllen llyfrau comic a nofelau graffig, gallwch gael mynediad at gannoedd o deitlau i lawrlwytho a darllen yn rhâd ac am ddim o’ch gwasanaeth llyfrgell lleol yng Nghymru. Mae gan wasanaeth RBdigital Comics deitlau i bob ystod oedran mewn amrywiaeth o ffurfiau, yn cynnwys teitlau poblogaidd gan Disney, Frozen, Mulan a Finding Nemo, yn ogystal â chlasuron Marvel fel Spider Man, Avengers a X-Men, a llyfrau comic nodedig eraill fel Transformers, Star Trek a Ghostbusters.
Dewiswch i fenthyca rhifyn unigol neu cyfrol gyfan a medrwch lawrlwytho gymaint o deitlau ac y dymunwch gan ddefnyddio’r ap RBdigital, neu drwy eich cyfrifiadur. Dechreuwch drwy ddarllen ein canllawiau defnyddiol
I ddechrau defnyddio’r gwasanaeth bydd angen:
- Cysylltiad rhyngrwyd.
- Cyfrifiadur, tabled neu ffôn clyfar yn rhedeg ap RBdigital.
- Cyfrif Gateway RBdigital. Gallwch greu cyfrif newydd neu logio fewn gyda cyfrif am adnodd RBdigital arall, fel Zinio i Lyfrgelloedd. Mae’r manylion logio am yr e-gylchgronau yr un fath ag i’r e-comics.
- Ymaelodi gyda gwasanaeth llyfrgell cyhoeddus yng Nghymru os nad ydych eisoes wedi gwneud.
I ddarganfod rhagor, ewch i’r wefan RBdigital i Gymru.
Os nad ydych yn barod yn aelod o lyfrgell, gallwch ymuno ar-lein wrth ddilyn y linc i’ch gwefan lyfrgell lleol:
- Abertawe
- Aneurin Leisure Trust (Blaenau Gwent)
- Aura Cymru (Sir y Fflint)
- Bro Morgannwg
- Caerdydd
- Caerffili
- Caerfyrddin
- Casnewydd
- Castell-nedd Port Talbot
- Ceredigion
- Conwy
- Gwynedd
- Llyfrgelloedd Awen (Pen-y-bont ar Ogwr)
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Benfro
- Sir Ddinbych
- Sir Fynwy
- Torfaen
- Wrecsam
- Ynys Mon
- Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful
Llyfrgell Plant Cymru
Mae Llyfrgell plant Cymru yn gyfrif RBdigital unigryw ar gyfer plant o dan 10 oed i’w wneud yn fwy diogel i gael mynediad at gylchgronau a chomics sy’n briodol i’r oedran. I weld y cyfrif hwn, gall rhieni gofrestru eu plant ar y porwr gwe neu ap RBdigital, a dewis ‘ Llyfrgell plant Cymru ‘ yn lle eu hawdurdod Cymreig arferol.
Dilynwch y camau syml yma drwy ap neu borwr gwe RBdigital i gael mynediad.