Castell Nedd Port Talbot – Digwyddiadau Amrywiol
Yr oedd cais Castell Nedd Port Talbot ar gyfer 2010-2011 yn cynnwys nifer o weithgareddau ar gyfer eu cwsmeriaid. Er enghraifft, diwrnodau ‘Cwrdd â’r awdur’, digwyddiadau a gynhaliwyd yn cefnogi Wythnos Addysg Oedolion, digwyddiadau’r Haf, a digwyddiadau ar gyfer y darllenwyr iau yn ystod eu ‘Mis Plant’.
Sylwadau’r Barnwr
Roedd llawer o weithgareddau yn yr ymgyrch hon, a’r oedd y llyfrgell yn dallt ba gynulleidfa i dargedu gyda phob ymgyrch. Roedd y broses o fynd a’r llyfrgell ‘allan’ i gwrdd â’r gymuned yn syniad gwych a dylid ei gefnogi. Yn yr un modd y mae’r digwyddiadau ‘cwrdd yr awdur’ yn ymarfer da mewn cael gwerth gan bartneriaid. Byddwn yn awgrymu bod gweithgareddau yn y dyfodol yn cael eu hadeiladu o adolygiad trylwyr o ddigwyddiadau o 2010, gan ddefnyddio mwy o ffocws yn eu cyflawni. Fydd digwyddiadau sydd â gwerth clir ar gyfer cyfranogwyr yn gallu cael eu cyfathrebu yn hawdd a bydd yn cael sylw.
Mae’n flin gennym nad yw’r ddogfen prosiect uchod ar gael yn y Gymraeg.
-
Castell Nedd Port Talbot – Digwyddiadau Amrywiol