Gwobrau

gwobr_arloesedd_09

Beth yw’r gwobrau?

Mae’r Gwobrau Arloesedd Marchnata yn rhoi cyfle i staff llyfrgelloedd ar bob lefel gael cydnabyddiaeth am eu gwaith yn hyrwyddo eu gwasanaeth. Mae’n wobr genedlaethol bwysig sy’n cynnig cyfle i gael sylw cadarnhaol yn y cyfryngau, cyfle i feithrin partneriaethau newydd, yn ogystal â’r gwobrau canlynol:

Llyfrgelloedd Cyhoeddus:

  • 1af – plac/tlws a £500 o dalebau’r stryd fawr
  • 2il – plac/tlws a £300 o dalebau’r stryd fawr
  • 3ydd – plac/tlws a £200 o dalebau’r stryd fawr

Llyfrgelloedd Addysg Uwch:

  • plac/tlws a £500 o dalebau’r stryd fawr

Llyfrgelloedd Addysg Bellach:

  • plac/tlws a £500 o dalebau’r stryd fawr