LINC y Gogledd

Beth y’w LINC-y-Gogledd?

Cynllun benthyca rhwng llyfrgelloedd cyhoeddus, llyfrgelloedd addysg uwch ac addysg bellach yng Ngogledd Cymru y’w LINC.  Mae’r cynllun yn cynnwys llyfrgelloedd cyhoeddus siroedd Gwynedd, Conwy, Ynys Môn, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam yn ogystal a llyfrgelloedd Prifysgol Bangor, Prifysgol Glyndŵr, Grŵp Llandrillo Menai, Choleg Cambria ac hefyd llyfrgell Cyfoeth Naturiol Cymru ym Mangor.

Mae’r cynllun yn caniatáu i ddefnyddwyr cofrestredig llyfrgelloedd y rhanbarth i fenthyca deunydd o lyfrgelloedd y bartneriaeth mewn un o ddwy ffordd; Benthyca Partneriaid a Benthyca Personol.

Benthyca Dwy Bartneriaid

Gall unrhyw un sy’n aelod presennol o un o lyfrgelloedd partner LINC ofyn i lyfrau gael eu trosglwyddo i’w llyfrgell leol yn rhad ac am ddim.

Os na allwch gael gafael ar y llyfr yr ydych ei angen yn eich llyfrgell, gallwch chwilio catalog Ffeindio LLyfr o wefan Llyfrgelloedd Cymru, a chyfyngu eich Dewis Llyfrgell i Llyfrgelloedd LINC-y-Gogledd a gwneud cais amdano yn eich llyfrgell gartref.

Ffeindio Llyfr

Cynllun Benthyca Personol

Gallwch fenthyg yn bersonol o lyfrgelloedd y prifysgolion a llyfrgelloedd y colegau addysg bellach drwy lenwi ffurflen aelodaeth LINC. Bydd angen i’r ffurflen gael ei stampio a’i wirio gan eich llyfrgell gartref. Ewch a’r ffurflen, gydag eich cerdyn aelodaeth llyfrgell gartref, at ddesg ddosbarthu’r llyfrgell yr ydych yn bwriadu ei ddefnyddio. Byddwch yn derbyn cerdyn benthyca a fydd yn eich caniatáu i fenthyg 6 eitem am 2 wythnos.

  • Ffurflen Aelodaeth LINC-Y-Gogledd