Banc Ffotograffau

Comisiynwyd y ffotograffau yma gan Lywodraeth Cymru i’w defnyddio gan staff llyfrgelloedd yng Nghymru. Mae’r ffotograffau yn cynnwys detholiad o oedolion a phlant yn manteisio ar amrywiaeth eang o wasanaethau llyfrgell gan gynnwys llyfrgell symudol, addysg bellach ac uwch, amser rhigymau, gwasanaeth i bobl sy’n gaeth i’r tŷ a gweithgareddau allgymorth.

Mae’r holl bobl sydd i’w gweld yn y ffotograffau wedi rhoi caniatâd i’w lluniau gael eu defnyddio gan lyfrgelloedd yng Nghymru.

Gallwch ddefnyddio’r ffotograffau hyn i helpu i hyrwyddo eich gwasanaethau ar bosteri, cyfryngau cymdeithasol a hysbysebion, mewn adroddiadau neu gyflwyniadau.

Nodwch fod hawlfraint y delweddau yn perthyn i Lywodraeth Cymru – ©LlywodraethCymru

Cysylltwch â ni i gael ID yr Oriel:

Is-adran Diwylliant a Chwaraeon
Llywodraeth Cymru
Rhodfa Padarn
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3UR.

DiwylliantAChwaraeon@llyw.cymru

0300 062 2112

Yn syml iawn, cliciwch yma i fynd i’r oriel, ac ewch i ‘Media Library’.

Gallwch ddefnyddio’r ffotograffau hyn ble bynnag yr ydych yng Nghymru. Does dim rhaid i chi fod yn un o’r llyfrgelloedd sydd yn y ffotograffau.

Os byddwch yn tynnu ffotograffau yn eich digwyddiad eich hun, gallwch lawrlwytho ffurflen ganiatâd ddwyieithog ar gyfer ffotograffau yma:

Bilingual photo consent form

Cookie Settings