skip to Main Content
Main
Creu dyddiau da yn eich llyfrgell leol

O glybiau stori a grwpiau cymdeithasol i glybiau crefft a phaned, mae cymaint i'w wneud yn eich llyfrgell leol.

Tyfu gyda’n Gilydd

Creu dyddiau da yn eich llyfrgell leol

Mae Llyfrgelloedd Cymru’n lansio ymgyrch i hyrwyddo’r holl wahanol ffyrdd y gall eich llyfrgell leol gefnogi datblygiad cynnar plentyn, a chynnig cyfle i rieni newydd a gofalwyr fynd allan o’r tŷ i gwrdd â phobl newydd. 

Croeso cynnes a help llaw

Mwynhewch amser arbennig gyda’ch gilydd gyda’r holl weithgareddau a digwyddiadau gwych sydd ar gael yn eich llyfrgell leol. Mae Llyfrgelloedd Cymru yn croesawu plant pan nad ydynt ond ychydig fisoedd oed, ac maent wrthi’n helpu rhieni a gofalwyr i gefnogi eu plant wrth iddynt dyfu a dysgu. 

Cliciwch i ddarganfod beth sy'n digwydd yn eich ardal leol

Castell-nedd Port Talbot

Mynegi eich hun

Gwneud ffrindiau newydd

Rhannu Stori

Rhannu Cân

Dewch at eich gilydd a chael hwyl

Mae magu neu ofalu am fabanod a phlant bach yn medru bod yn waith llethol o brysur ac weithiau mae’n anodd cael amser i fynd o’r tŷ i wneud rhywbeth difyr – mae ymweld â’ch llyfrgell leol yn gyfle gwych i chi a’ch plentyn fynd allan ar grwydr, rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol a chwrdd â ffrindiau newydd.

Mae ein llyfrgelloedd yma i roi croeso cynnes a lle i rieni ddod ynghyd a chefnogi ei gilydd mewn cyfnod sydd weithiau’n gallu bod yn heriol. Rydym yn cydnabod mor bwysig ydi gosod trefn, a mynd allan i gwrdd â phobl sy’n mynd drwy’r un profiadau â chi, a chredwn fod ymweld â’ch llyfrgell leol yn rheolaidd yn ffordd berffaith o wneud hynny!

Arweinydd Iechyd a Lles Cymdeithas y Prif Lyfrgellwyr (Cymru) a Rheolwr Datblygu Llyfrgelloedd, Hamdden a Llyfrgelloedd Aura  

Eisiau gwybod mwy?

Nodwch eich manylion ar y ffurflen isod er mwyn cael eich rhoi mewn cysylltiad â’ch awdurdod lleol.

Rydym angen yr wybodaeth hon fel bod modd i ni gysylltu â chi. O dro i dro, hoffem anfon gwybodaeth atoch ynghylch y datblygiadau diweddaraf yn ein llyfrgelloedd, megis gwasanaethau a gweithgareddau newydd. Ni chaiff eich gwybodaeth ei rhannu byth â thrydydd partïon.

Darllenwch ein datganiad cwcis a phrifatrwydd yma.

Hoffech chi gael eich hysbysu o'r digwyddiadau diweddaraf drwy:

E-BOST *
FFÔN *
NEGES DESTUN *
Back To Top