Rhannu Stori ar Ddiwrnod y Llyfr 2021
Mawrth 3, 2021Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn annog pobl ar hyd a lled Cymru i rannu stori i ddathlu Diwrnod y Llyfr 2021 ar ddydd Iau 4 Mawrth.
Gallai rhannu stori gynnwys darllen gartref gyda’r teulu, darllen gyda ffrind dros y we, darllen yn eich hoff le, darllen mewn lleoliad anghyffredin, rhannu stori gydag anifail anwes a mwy!
Gydag wythnos i fynd cyn y diwrnod mawr, mae’r Cyngor Llyfrau hefyd yn gofyn i bobl roi llun ar y cyfryngau cymdeithasol ohonyn nhw’n darllen yn ystod mis Mawrth, gan ddefnyddio’r hashnod #DiwrnodyLlyfr #RhannwchStori. Bydd gwobrau am y lluniau gorau yn cael eu cyflwyno ddiwedd y mis.
Bydd enillwyr cystadleuaeth arbennig a drefnwyd ar y cyd gan y Cyngor Llyfrau a Huw Aaron hefyd yn cael eu cyhoeddi ar 4 Mawrth a hynny ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru rhwng 9 ac 11 y bore.
Yr her i gystadleuwyr oedd adnabod cymaint â phosib o gymeriadau o lyfrau a rhaglenni teledu plant mewn poster lliwgar a ddyluniwyd gan Huw Aaron ar gyfer ei lyfr ‘Ble mae Boc? Ar goll yn y chwedlau’ a gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Tachwedd 2020.
Darlleniadau Awduron
Mae dathliadau Diwrnod y Llyfr yn edrych yn wahanol iawn eleni gyda nifer o sesiynau awdur yn digwydd yn rhithiol. Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi dangos yr angen i fod yn hyblyg a phwysigrwydd cael deunydd safonol i hybu darllen ar fformat digidol. I helpu ysbrydoli’r to ifanc i godi llyfr a darllen er pleser, caiff y cyntaf mewn cyfres o fideos gyda rhai o brif awduron plant Cymru eu rhyddhau ar wefan a sianel cyfryngau cymdeithasol y Cyngor Llyfrau, yn cynnwys darlleniadau a gweithgareddau hwyliog.
Prif amcan yr adnoddau yma yw cefnogi teuluoedd ac ysgolion wrth iddyn ddysgu o bell yn ogystal â bod yn adnodd gwerthfawr i’w ddefnyddio yn y dosbarth pan fydd ysgolion yn ail-agor ar gyfer pob oedran.
Ymhlith yr awduron mae Huw Aaron, Luned Aaron, Myrddin ap Dafydd, Huw Davies, Nicola Davies, Malachy Doyle, Valériane Leblond, Lucy Owen a Manon Steffan Ros. Bydd fideos gyda rhagor o awduron yn cael eu cyhoeddi dros y misoedd nesaf.
Caiff llyfrau ac ysgrifennu o Gymru sylw arbennig ar blatfform digidol AM ar Ddiwrnod y Llyfr hefyd.
Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae Diwrnod y Llyfr yn gyfle i ni ddathlu’n cariad at lyfrau ond mae grym trawsnewidiol darllen yn rhywbeth sydd gyda ni drwy gydol y flwyddyn. Er nad ydym yn gallu cynnal ein digwyddiadau arferol eleni, yr un yw’r neges sef bod darllen er pleser yn gwneud byd o les i ni gyd – yn y cyfnod anodd hwn efallai yn fwy nag erioed. Felly dathlwch gyda ni drwy fynd ati ar y 4ydd o Fawrth drwy rannu stori naill ai fel teulu, gyda’ch ffrindiau o bell, gyda’r gath neu’r ci hyd yn oed!”
Ychwanegodd Angharad Sinclair, Rheolwr Ymgyrchoedd yn Adran Hyrwyddo Darllen a Llyfrau Plant y Cyngor Llyfrau: “Mae darllen yn gallu agor y drws ar fydoedd a phrofiadau newydd, ac ry’n ni’n falch iawn o allu cynnig ystod wych o lyfrau £1 unwaith eto eleni gan sicrhau bod dewis o lyfrau Cymraeg ar gael ochr yn ochr â’r rhai Saesneg. Mae ymchwil yn dangos bod treulio 10 munud y dydd yn darllen gyda phlentyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i’w llwyddiant yn y dyfodol a nod y diwrnod arbennig yma yw sicrhau bod gan bob plentyn fynediad at fyd y llyfrau a’i fuddiannau.”
Tocyn Llyfr £1
Erbyn hyn, mae Diwrnod y Llyfr yn cael ei ddathlu mewn 100 o wledydd ar draws y byd a’r nod yw hyrwyddo darllen er pleser, gan gynnig cyfle i bob plentyn a pherson ifanc i ddewis a meddu ar eu llyfr eu hunain.
Diolch i National Book Tokens a llawer o gyhoeddwyr a llyfrwerthwyr hyfryd, mae Diwrnod y Llyfr, mewn partneriaeth ag ysgolion a meithrinfeydd ledled y wlad, yn dosbarthu tocyn llyfr Diwrnod y Llyfr £1 i blant a phobl ifanc. Gellir cyfnewid y tocyn naill ai am un o lyfrau £1 Diwrnod y Llyfr neu ei ddefnyddio tuag at brynu llyfr arall.
Mae llyfrau £1 Diwrnod y Llyfr yn rhodd gan lyfrwerthwyr, sy’n ariannu cost y tocyn llyfrau £1 yn llawn. Mae’r llyfrau £1 hefyd ar gael mewn braille, print bras a sain trwy yr RNIB. Bydd tocynnau llyfr £1 Diwrnod Llyfr yn ddilys o ddydd Iau 18 Chwefror tan ddydd Sul 28 Mawrth 2021 ac eleni bydd y llyfrwerthwyr sy’n cymryd rhan yn anrhydeddu’r tocynnau y tu hwnt i 28 Mawrth tra bydd y stoc o lyfrau £1 yn parhau. Cysylltwch â’ch llyfrwerthwr lleol i wirio a ydyn nhw’n gallu cynnig £1 oddi ar deitlau eraill. Mae’r telerau ac amodau llawn ar wefan elusen Diwrnod y Llyfr.
Ha Ha Cnec! Jôcs Twp a Lluniau Twpach (Broga) gan yr awdur, darlunydd a chartwnydd Huw Aaron yw’r llyfr £1 Cymraeg newydd ar gyfer 2021 ac mae ar gael nawr drwy siopau llyfrau Cymru.
Mae tri llyfr Cymraeg arall ar gael am £1 eleni sef Stori Cymru Iaith a Gwaith (Gwasg Carreg Gwalch) gan Myrddin ap Dafydd, Na, Nel! (Y Lolfa) Gan Meleri Wyn James a Darllen gyda Cyw (Y Lolfa) gan Anni Llŷn.
Er bod drysau siopau llyfrau ynghau am y tro, maen nhw dal ar agor am fusnes ar-lein a thros y ffôn gan gynnig gwasanaeth clicio-a-chasglu neu ddanfon drwy’r post. Mae manylion holl siopau llyfrau annibynnol Cymru i’w cael ar wefan y Cyngor Llyfrau.
Cefndir
- Yng Nghymru, caiff ymgyrch Diwrnod y Llyfr ei chydlynu gan y Cyngor Llyfrau a’i chefnogi gan Lywodraeth Cymru a chwmni Waterstones.
- Bob blwyddyn, drwy gydweithio â llu o gyhoeddwyr a llyfrwerthwyr, mae Diwrnod y Llyfr yn trefnu rhestr o deitlau penodol am £1 yr un ar gyfer plant a phobl ifanc, a chenhadaeth Diwrnod y Llyfr yw eu hannog i fwynhau llyfrau a darllen drwy roi cyfle iddyn nhw gael eu llyfr eu hunain. Mae’r Cyngor Llyfrau yn gweithio gyda Diwrnod y Llyfr i sichrau bod dewis o deitlau ar gael yn Gymraeg.
- Mae gwybodaeth bellach am y teitlau £1 Saesneg ar gael arlein worldbookday.com/books