Llwyd Owen

 

Brodor o Gaerdydd yw Llwyd Owen, yn byw yn ardal Rhiwbeina gyda’i deulu. Enillodd ei ail nofel, Ffydd Gobaith Cariad, wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2007 a chyrhaeddodd ei nofela Iaith y Nefoedd   (2019) restr fer Llyfr y Flwyddyn 2020.

Yn ogystal â’i nofelau niferus, mae gan Llwyd hefyd bodlediad poblogaidd o’r enw Ysbeidiau Heulog ble y gellir ei glywed yn trafod y byd a’i bethau gyda’i ffrind Leigh Jones a llwyth o westeion arbennig.

Gan ddychwelyd am y seithfed tro i dref ddychmygol Gerddi Hwyan, mae ei nofel ddiweddaraf, Helfa, yn dilyn hanes Ditectif Sarjant Sally Morris a’i phartner gwaith, Tej Williams, wrth iddynt fynd ar drywydd lladron cŵn sydd wedi bod yn codi cywilydd ar Heddlu Gerddi Hwyan ers misoedd lawer. Mae bywyd cartref Sally yn ddedwydd, tra bod Tej wedi cwympo mewn cariad â gyrrwr tacsi lleol o’r enw Hels. Ond, yn ddiarwybod i bawb, mae bwystfil yn llech-hela’r ardal, gyda’i frîd ar anhrefn dialgar… ac mae Sally a Hels ar ei gach-restr.

 

 

Llongyfarchiadau iti Llwyd ar gyhoeddi Helfa gyda’r Lolfa, a diolch iti am ateb ychydig o gwestiynau inni’n ddiweddar…

Rho ychydig o dy gefndir inni – magwraeth, addysg…

Cefais fy ngeni a fy magu yng Nghaerdydd, ble dw i’n dal i fyw hyd heddiw, gan fynychu ysgol gynradd Y Wern ac ysgol uwchradd Glantaf, cyn graddio o Brifysgol Bangor ym 1998. Ar ôl teithio’r byd am gwpwl o flynyddoedd, dychwelais i Gymru a mynd ati i ysgrifennu, gydag uchelgais i gyhoeddi ‘o leiaf un nofel’.

Pa ddylanwadau ac atgofion oedd yn sefyll allan yn dy blentyndod?

Rwy’n dod o deulu o storïwyr. Roedd fy nhad-cu, Jac, wedi cylchdeithio’r byd yn rhinwedd ei swydd fel morwr; fy nhad-cu arall, Spens, yn grefftwr coed a geiriau; fy mam-gu, Kitty, yn llawn straeon lliwgar o’i milltir sgwâr, a phob un ohonynt yn rhannu eu hatgofion a’u profiadau gyda fi ar bob cyfle posib, gan danio fy nychymyg o hyd. Ar ben hynny, rhannodd fy rhieni eu cariad at eiriau gyda fi; rhywbeth sydd erioed wedi pylu. Roedd cartref fy mhlentyndod yn llawn llyfrau, a’r gyfrol a wnaeth yr argraff fwyaf arnaf oedd Sasgwats gan Dyfed Glyn.

 

Sasgwats

 

Fel person ifanc, pwy neu beth wnaeth ddylanwadu arnat?

Yr awduron a ddylanwadodd fwyaf arnaf fel darpar awdur ifanc oedd Iain Banks a’i gyfrol gofiadwy, The Wasp Factory; Lloyd Robson a’i gerdd-ryddiaith unigryw, Cardiff Cut; a John Williams a’i drioleg o nofelau am Gaerdydd (Five Pubs, Two Bars and a Nightclub, Cardiff Dead a The Prince of Wales). Dysgodd Iain Banks i fi fod yn eofn fel awdur, ac i gofleidio’r tywyllwch; tra ysbrydolodd Lloyd Robson fi i gloddio fy mhrofiadau personol o dyfu i fyny yng Nghaerdydd er mwyn lliwio fy rhyddiaith; a dangosodd nofelau John Williams i fi sut i ganolbwyntio ar y gwrthdaro rhwng y dosbarth canol parchus a’r isfyd peryglus i greu nofelau ysgytwol, deifiol a chyffrous.

Beth yw dy ddylanwadau nawr?

Y dylanwad mwyaf ar fy nofelau trosedd (cyfres Gerddi Hwyan) yw awdur o’r enw Ed McBain, a gyhoeddodd 55 o nofelau yng nghyfres yr ‘87th Precinct’ rhwng 1956 a 2005. Yn y gyfres hon, mae’r awdur yn lleoli’r hanes mewn dinas ddychmygol o’r enw ‘Isola’, ac yn adrodd straeon am dditectifs yr 87th Precinct. Rydw i wedi ceisio gwneud rhywbeth tebyg i McBain gyda fy nofelau sydd wedi’u lleoli yn nhref ddychmygol Gerddi Hwyan, gan ddefnyddio cast newidiol o gymeriadau sy’n byw ac yn bodoli mewn lleoliadau cyfarwydd i’r darllenwyr.  

Pryd ddest ti’n ymwybodol dy fod eisiau sgwennu, oedd unrhyw ffactorau arbennig wedi cael effaith?

I gychwyn, roeddwn i eisiau ysgrifennu ffilmiau, felly dechreuais sgwennu sgriptiau ar ddiwedd y ganrif ddiwethaf, cyn dod i’r casgliad bod y broses o droi sgript yn ffilm yn llawer rhy heriol ac yn cynnwys degau, os nad cannoedd, o bobl. Penderfynais newid cyfrwng, gan fynd ati i gloddio fy mhrofiadau personol o weithio fel runner i gwmni ôl-gynhyrchu yng Nghaerdydd, a’u troi yn nofel, sef Ffawd Cywilydd a Chelwyddau Ar gyngor fy ffrind, yr awdur Eurgain Haf, cyflwynais y broflen i gystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen 2005, er mwyn cael beirniadaeth ddiduedd, ac er na wnes i ennill y Wobr, cafodd y nofel glod a ddenodd sylw gweisg Cymru, a chyhoeddodd Y Lolfa’r gyfrol flwyddyn yn ddiweddarach.

Dywed ychydig am Helfa, o ble ddaeth yr ysbrydoliaeth, a beth wyt ti’n gobeithio bydd darllenwyr yn gael o’r stori hon…

Helfa yw trydydd rhan ‘trioleg Sally Morris’, sy’n dilyn Rhedeg i Parys (2020) ac O Glust i Glust (2022), er i Sally gwneud ei hymddangosiad cyntaf yn Pyrth Uffern (2018). Mae’r holl gyffro’n digwydd yng Ngerddi Hwyan, ble mae Sally’n gweithio fel ditectif i’r heddlu lleol. Mae Sally a’i phartner gwaith, Tej Williams, ar drywydd lladron cŵn, yn gwbl anymwybodol bod ffigwr o orffennol Sally wedi dychwelyd i’r dref, gyda’i fryd ar ddial arni.

Cymeriad arall sy’n ganolog i’r nofel yw Hels, gyrrwr tacsi lleol sydd hefyd yn gariad i Tej, a’r ysbrydoliaeth tu ôl i Hels oedd fy hen ffrind, Delyth Mai, a fu’n gweithio fel gyrrwr tacsi ar Ynys Môn am ugain mlynedd. Dros y blynyddoedd, byddai Del yn rhannu straeon a hanesion hollol anhygoel gyda fi am ei hamser yn gyrru tacsi, ac mae nifer ohonynt wedi eu cynnwys yn Helfa.

Yn ôl Manon Steffan Ros, darllenodd hi’r nofel “drwy ei bysedd”, a dyna’n union oeddwn i’n ceisio’i gyflawni gyda Helfa. Gobeithio bydd y darllenwyr yn cael profiad tebyg, wrth i’r tensiwn a’r cyffro gyrraedd eu hanterth, a stori Sally Morris agosáu at y diweddglo gwaedlyd.

 

 

Beth yw dy hoff genres darllen?

Rwy’n dwlu ar nofelau ditectifs, ac mae’n oes aur i lyfrau o’r fath yng Nghymru ar hyn o bryd. Gallaf argymell nofelau trosedd Myfanwy Alexander, Alun Davies, John Alwyn Griffiths a Jon Gower i bawb, tra bod ôl-gatalog Dewi Prysor yn drysorfa o gymeriadau cofiadwy a hanesion llawn hiwmor a drygioni.

Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnot yn ystod dy fywyd?

Rwy’n cofio treulio oriau lu yn fy llyfrgell leol (Rhydypenau, Caerdydd) yn ystod fy mhlentyndod, yn ymgolli ymysg y geiriau; ac fe wnes i’r un peth gyda fy mhlant pan oedden nhw’n fach, gan ymweld â llyfrgell Rhiwbeina ar bob cyfle posib. Ar ben hynny, cyfrannodd gwasanaeth llyfrgell symudol Ceredigion at lesiant fy mam-gu pan roedd hi’n gaeth i’w chartref yng nghefn gwlad. Byddai Tudor y llyfrgellydd yn dewis a dethol pentwr o lyfrau iddi bob mis, gan wneud ei byd yn lle gwell, er gwaethaf ei gwaeledd.

Pa awgrymiadau sydd gyda ti i annog plant a phobl ifanc i ddarllen mwy er pleser?

Taswn i’n gwybod yr ateb i’r cwestiwn hwn, byddwn i’n gorfoleddu! Mae fy mhlant i bellach yn eu harddegau ac, er eu bod yn arfer darllen er pleser bob dydd, dim ond darllen y testunau sy’n rhan o’r cwricwlwm maen nhw’n gwneud heddiw. Digwyddodd rhywbeth tebyg i fi wrth dyfu fyny, wrth i bethau arall fynnu fy sylw – chwaraeon, ffilmiau, cerddoriaeth, merched – ond aildaniodd fy nghariad at lenyddiaeth ar ôl i fi orffen fy astudiaethau. Rwy’n ffyddiog bydd yr un peth yn digwydd yn achos fy mhlant, gan fod eu bywydau wedi bod yn llawn llenyddiaeth ers y cychwyn cyntaf.

Gallwch ddilyn Llwyd ar Twitter (@Llwyd_Owen) ac Instagram (llwyd_owen).

Cyhoeddwyd Helfa yn Ionawr 2024 gan Y Lolfa.

Darllenwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur ac am ein Hawduron y Mis  eraill yn ‘sgwennu’n y Gymraeg

Cookie Settings