Cefnogi Darllen Plant

Mother and child reading books in a library setting

Ni ellir tanbrisio pwysigrwydd darllen i blant. Gall darllen er mwyn pleser fod o fudd i addysg, datblygiad cymdeithasol a meddyliol, a lles ac iechyd meddyliol plentyn.

Mae darllen llyfrau yn uchel i blant yn symbylu eu dychymyg ac yn ehangu eu deall o’r byd. Mae’n gymorth iddynt ddatblygu sgiliau iaith a gwrando ac yn eu paratoi ar gyfer deal y gair ysgrifenedig.

Ymweliad gan ysgol gynradd – Llyfrgell Maesteg, Llyfrgelloedd Awen.

Mae eich llyfrgell leol yn fan cychwyn gwych i gyflwyno plant o bob oed i gyfoeth o lyfrau ac awduron. Mae Sialens Ddarllen yr Haf a’r Sialens Fach Gaeaf yn ffyrdd ardderchog a hwyliog o annog darllen, gyda gweithgareddau a gwobrau yn y llyfrgell ac ar-lein trwy wefan y Reading Agency.

Dyma ambell awgrym at eich helpu chi i fwynhau amser stori gyda’ch plentyn:

  • Gadewch i’ch plentyn ddewis beth hoffen nhw ddarllen. Bydd mwy o ddiddordeb ganddynt yn y stori os mai nhw sydd wedi ei dewis. 
  • Os gallwch, diffoddwch y teledu, radio neu gyfrifiadur. Mae’n rhwyddach mwynhau’r stori heb ddim yn tarfu arnoch chi.
  • Eisteddwch yn agos. Gallwch annog eich plentyn id dal y llyfr ei hunan ac i droi’r tudalennau hefyd.
  • Edrychwch ar y lluniau. Does dim rhaid darllen y geiriau ar y dudalen yn unig. 
  • Gofynwch gwestiynau a siaradwch am y llyfr. Gall llyfrau lluniau fod yn ffordd wych o drafod ofnau a phryderon eich plentyn, neu o’i helpu i delio ag emosiwn. 
  • Mwynhewch! Does dim ffordd iawn na ffordd anghywir chwaith o rannu stori – cyn belled eich bod chi a’ch plentyn yn cael hwyl. Peidiwch fod ag ofn action rhannau o’r stori na defnyddio lleisiau dwl – bydd plant bach wrth eu bodd!

Mae llyfrgelloedd ar draws Cymru yn rhedeg sesiynau Amser Stori ac Amser Rhigwm rhad ac am ddim ar gyfer babanod a phlant. Mae’r sesiynau hwyliog hyn yn rhoi cyfle i gwrdd â ffrindiau newydd a mwynhau storiau, llyfrau a rhigymau yn cael eu darllen gan llyfrgellwyr plant ac adroddwyr storiau cymunedol – gyda’ch plentyn.

Yn ogystal â chynnig cannoedd o lyfrau am ddim i blant a rhieni i’w benthyg, mae llyfrgelloedd ar draws Cymru hefyd yn cynnig clybiau gweithgaredd ar gyfer plant ac yn trefnu digwyddiadau dod-â’r-teulu-ynghyd. Sieciwch galendr eich llyfrgell leol am ddyddiadau, amserau a lleoliadau digwyddiadau sy’n agos atoch chi. 

Eich llyfrgell leol

Amser Stori a Rhigwm, Llyfrgelloedd Aura. Ffotograffiaeth Ginger Pixie.

Mae Amser Rhigwm Mawr Cymru, a drefnir gan BookTrust Cymru, yn hybu hwyl a gweithgaredd difyr yn rhannu rhigymau ar gyfer plant yng Nghymru o oedran 0-5, yn Gymraeg a Saesneg, ac yn digwydd ym mis Chwefror pob blwyddyn. Ariennir Amser Rhigwm Mawr Cymru gan Lywodraeth Cymru.

 
 
 
Cookie Settings