Cyfrifiad 1921 Cymru a Lloegr nawr ar gael drwy Ancestry

 

Mae Ancestry wedi cyhoeddi bod Cyfrifiad 1921 Cymru a Lloegr bellach ar gael ar ei blatfform. Yn ogystal â’i 60 biliwn o gofnodion presennol, mae Cyfrifiad 1921 yn cynnig cipolwg ar sut beth oedd bywyd i bron i 38 miliwn o bobl oedd yn byw yng Nghymru a Lloegr ar y pryd, a dyma’r cyfrifiad olaf o hanner cyntaf yr 20fed ganrif sydd ar gael i haneswyr teuluol wrth i Gyfrifiad 1931 gael ei gymryd ond ei ddinistrio yn yr Ail Ryfel Byd.

Mae ychwanegu Cyfrifiad 1921 i gynnig hanes teulu Ancestry yn hwb enfawr i selogion hanes yn 2025. Fe fydd siawns i gymharu cofnodion 1911, 1921 a 1939 – gan edrych ar fywydau ein hynafiaid ar draws y ddau Ryfel Byd, a thaflu goleuni ar wersi ac arwyr y gallwn ddysgu am y byd drwyddynt.

Meddai Simon Pearce, Arbenigwr Hanes Teulu yn Ancestry: “Mae Cyfrifiad 1921 Cymru a Lloegr yn rhoi cipolwg diddorol i ni ar fywydau ein cyndeidiau yn y blynyddoedd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Gobeithiwn y bydd ychwanegu’r casgliad yma at blatfform Ancestry yn helpu defnyddwyr i ddarganfod manylion pwysig am fywydau eu cyndeidiau adeg y cyfrifiad, gan gynnwys ble roeddent yn byw, lle cawsant eu geni, a’u llinell o waith. Mae’n gyffrous meddwl lle gallai’r cliwiau hyn fynd â chi a beth allech chi ei ddysgu ar hyd y ffordd.”

Gyda’r cyfrifiad nesaf sydd wedi goroesi (1951) ddim i fod i gael ei ryddhau tan 2051 – mae Ancestry yn rhoi cyfle i dynnu cymariaethau o orffennol ein hynafiaid i’n presennol.

Beth yw Cyfrifiad 1921?

Fel arfer, cynhelir cyfrifiad bob 10 mlynedd i gyfrif poblogaeth gwlad, ac mae’n rhoi darlun manwl o’r aelwydydd ar yr adeg honno – o’u henwau a’u hoedran i’w statws priodasol a’u galwedigaeth.

Mae Cyfrifiad 1921 yn cynnwys gwybodaeth am bron i 38 miliwn o bobl a oedd yn byw yng Nghymru a Lloegr ar y pryd, a dyma’r cyfrifiad olaf ers hanner cyntaf yr 20fed ganrif.

Dechrau ar Ancestry

Mae llyfrgelloedd cyhoeddus, archifdai a nifer o amgueddfeydd yng Nghymru, a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn darparu mynediad am ddim i Ancestry Library Edition i’ch helpu gyda’ch ymchwil hanes teulu. Mae llawer o wasanaethau llyfrgell, archifau ac amgueddfeydd yn cynnig hyfforddiant a chefnogaeth i ddefnyddwyr sy’n dymuno dechrau chwilio am hanes eu teulu. Gyda dros 443,916 o chwiliadau wedi digwydd mewn 22,752 sesiwn ar Ancestry Library ledled Cymru yn 2024, mae’r adnodd yn fyth-boblogaidd gyda’r rhai sydd â diddordeb i ddarganfod mwy am eu cyndeidiau.

Mae Ancestry yn cynnwys miliynau o ffynonellau cynradd ac eilaidd – yn ogystal â’r cyfrifiad, gall yr adnodd ddarparu coed teuluol, cofnodion hanfodol, cofnodion milwrol a mewnfudo, cofnodion tir, ewyllysiau, papurau newydd a mwy. Dewch o hyd i fanylion am ble roedd eich hynafiaid yn byw, gyda phwy roedden nhw’n byw, a beth oedd eu galwedigaeth a’u statws priodasol – mae’r cyfan yn dechrau gydag enw!

Bywyd yn 1921

Cymerwyd Cyfrifiad Cymru a Lloegr 1921 ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, pan gollwyd cannoedd o filoedd o ddynion. O ganlyniad, roedd nifer uchel o fenywod gweddw yn y cyfrifiad hwn – a dangosodd fod 1.7 miliwn yn fwy o fenywod na dynion yn byw yng Nghymru a Lloegr ar adeg y cyfrifiad.

Y cyfrifiad hwn oedd y cyntaf i ddangos enw eich cyflogwr a chyfeiriad neu leoliad gwaith. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd miliynau o fenywod wedi ymgymryd â rolau a oedd wedi’u cadw’n draddodiadol ar gyfer dynion. Mae’r cyfrifiad yn dangos bod llawer o fenywod wedi parhau â’r gwaith hwn ar ôl y rhyfel, gan geisio rhyddid economaidd neu gefnogi cartref ar ôl colli gŵr.

Roedd y 1920au yn gyfnod o newid radical. Er bod amseroedd yn dal i fod yn anodd i lawer o deuluoedd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd hefyd yn gyfnod anhygoel i ffasiwn, celf a diwylliant.

 

Poster for Ancestry with black and white portrait of a female

A wnaeth eich cyndeidiau symud o Gymru a Lloegr ar ôl 1921? Ym 1922, arweiniodd Deddf Setlo’r Ymerodraeth at dros 200,000 o bobl yn ymgartrefu yn Awstralia a 165,000 yng Nghanada. Oedd eich cyndeidiau chi yn un ohonyn nhw? Gall Cyfrifiad 1921 ddangos i chi sut beth oedd eu bywyd yng Nghymru neu Loegr cyn iddynt benderfynu mudo.

A wnaeth unrhyw un yn eich coeden deulu symud i Awstralia? Gallwch olrhain eu profiad o 1921 yng Nghymru a Lloegr i restrau teithwyr a chofnodion eraill yn Awstralia eich helpu i wneud darganfyddiadau anhygoel am sut newidiodd eu bywyd.

Efallai bod eich cyndeidiau wedi penderfynu symud i Ganada? Mae Cyfrifiad Canada 1931 hefyd ar gael i’w archwilio ar Ancestry, a gall eich helpu i lunio sut y gallai bywyd fod wedi newid i’ch teulu yn ystod y degawd rhwng cofnodion.

Darllenwch erthyglau diweddaraf Ancestry am fywyd yn 1921 a llawer mwy ar Flog Ancestry.

I gael gwybodaeth am sut i gael mynediad i Ancestry, ffoniwch, e-bostiwch neu ewch i’ch llyfrgell leol yn bersonol neu ewch i wefan Llyfrgelloedd Cymru am fanylion cyswllt eich llyfrgell.

Prif ffotograff: Tom Hayden tu allan siop yn New Road 1920 ; casgliad Michael Hayden (Treffynnon a’r cyffiniau). Casgliad y Werin Cymru.

Cookie Settings