Gallwch naill ai gysylltu â llyfrgell eich awdurdod lleol i roi gwybod iddynt am y broblem, a byddant yn gallu rhoi cyngor ichwi / datgloi eich cyfrif. Os nad ydych yn siŵr o fanylion cyswllt y llyfrgell, ewch i ‘Dod o hyd i’m Llyfrgell Agosaf’ ar wefan https://libraries.wales (tudalen flaen o dan ‘Ymunwch â’ch Llyfrgell’), lle cewch y manylion,
NEU gallwch anfon neges gan ddefnyddio’r gwasanaeth Ymholiadau, gan ddyfynnu’r mater a pha awdurdod llyfrgell rydych yn aelod ohono yng Nghymru, a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â’ch awdurdod llyfrgell ar eich rhan.