Datganiad Hygyrchedd
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan llyfrgelloedd.cymru / libraries.wales.
Gwasanaeth y Llyfrgell Ddigidol Genedlaethol sy’n rhedeg y wefan hon. Mae arnom eisiau i gynifer â phosibl o bobl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
- nesáu hyd at 300% heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin
- gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.
Mae cyngor ar gael gan AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- ni wnaiff y testun ail-lifo mewn colofn sengl wrth newid maint ffenestr y porwr
- nid oes modd addasu uchder llinell neu fwlch rhwng testun
- nid yw’r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin
- nid oes penawdau ar ffrydiau fideo byw
- mae’n anodd defnyddio dim ond y bysellfwrdd i symud o amgylch rhai o’n ffurflenni ar-lein
- allwch chi ddim neidio i’r prif gynnwys os ydych chi’n defnyddio rhaglen darllen sgrin
- dim ond hyn a hyn y gallwch chi chwyddo’r map ar ein tudalen ‘cysylltu â ni’
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd sy’n ymwneud â’r wefan hon
Rydym bob amser yn awyddus i wella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych chi’n dod ar draws unrhyw broblemau sydd heb eu nodi ar y dudalen hon, neu os ydych chi’n credu nad ydym yn bodloni’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 7 diwrnod.
Gweithdrefn gorfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am weithredu Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych chi’n anhapus â’r ffordd rydyn ni’n ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Gwasanaeth y Llyfrgell Ddigidol Genedlaethol / ‘Llyfrgelloedd Cymru / Libraries Wales’ wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfedd
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio â safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 AA.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Nid yw’r cynnwys sy’n cael ei restru isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol:
Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio â safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 AA.
Esemptiad
Darllenwyr Sgrin: Rydym yn eithrio’r gallu i ddefnyddio darllenydd sgrin nad yw’n dechnegol yn gallu darllen iaith heblaw’r iaith a raglennwyd. Er enghraifft, gall darllenydd sgrin Saesneg yn unig sy’n darllen y cynnwys Cymraeg ar y wefan ddychwelyd gwallau os ceisir gwneud hynny. Bydd darllenwyr sgrin sy’n darllen yn yr iaith a raglennwyd yn gweithio ar y wefan.
Baich anghymesur
Rydyn ni wedi gwneud ein gorau i brofi’r wefan ar ystod o offer a chymwysiadau hygyrchedd. Os canfyddir nad yw unrhyw offeryn neu gymhwysiad yn cydymffurfio ag unrhyw agwedd ar y wefan, cysylltwch â ni gyda’r wybodaeth er mwyn i ni ymchwilio a chywiro.
Fideos byw
Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideos byw wedi’u heithrio o’r rheoliadau hygyrchedd.
Paratoad y datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn rhwng 15/06/25 – 29/05/25
Lefel adolygu: WCAG 2.1 [AA]
Dewis tudalennau sampl: Defnyddiwyd y dull yn unol â WCAG-EM. Rhoddwyd y ffocws ar y tudalennau a ddefnyddir fwyaf ar y wefan.
Dull adolygu: Cymysgedd o wiriadau â llaw ac awtomataidd
Enghraifft o offer gwerthuso a ddefnyddiwyd i gefnogi canfyddiadau:
• PowerMapper – powermapper.com [Rhyddhawyd: Awst 2015]
• WCAG 2.0 Lefel AA – webaccessibility.com [Rhyddhawyd: 2014-Mai-28]
• Dilysydd Hygyrchedd Cyferbyniad Lliw (a11y.com) [Fersiwn: 5.8, Rhyddhawyd: 2017-Rhag-17]
• Offeryn Gwerthuso Hygyrchedd Gwe WAVE (webaim.org) [Rhyddhawyd: 2001]
• A+ FontSize Changer (Ategyn Penbwrdd) [Rhyddhawyd: 2018]
• High Contrast (Estyniad) [Fersiwn: 0.9.3, Diweddarwyd 2016]
Rydym hefyd yn y broses o gynnwys defnyddwyr anabl cynrychioliadol yn ein profion.
Bydd hygyrchedd y wefan hon yn cael ei adolygu’n rheolaidd.
Byddwn yn diweddaru’r datganiad hygyrchedd hwn gydag unrhyw newidiadau perthnasol.
Cyfeiriadau
Trosolwg o Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG)
https://www.w3.org/WAI/intro/wcag
Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1
https://www.w3.org/TR/WCAG21/
Technegau ar gyfer WCAG 2.1
https://www.w3.org/WAI/WCAG21/Techniques/
Adnoddau Gwerthuso Hygyrchedd
http://www.w3.org/WAI/eval/
Rhestr Offer Gwerthuso Hygyrchedd y We
https://www.w3.org/WAI/ER/tools/
Defnyddio Arbenigedd Cyfunol i Werthuso Hygyrchedd y We
https://www.w3.org/WAI/eval/reviewteams