Amser Rhigwm a Stori yn y Llyfrgell

Rhagor o wybodaeth am Amser Rhigwm a Stori

Sesiynau Amser Stori ac Amser Rhigwm rhad ac am ddim

Mae llyfrgelloedd ar draws Cymru yn rhedeg sesiynau Amser Stori ac Amser Rhigwm rhad ac am ddim ar gyfer babanod a phlant. Mae’r sesiynau hwyliog hyn yn rhoi cyfle i gwrdd â ffrindiau newydd a mwynhau storiau, llyfrau a rhigymau yn cael eu darllen gan llyfrgellwyr plant ac adroddwyr storiau cymunedol – gyda’ch plentyn.

Yn ogystal â chynnig cannoedd o lyfrau am ddim i blant a rhieni i’w benthyg, mae llyfrgelloedd ar draws Cymru hefyd yn cynnig clybiau gweithgaredd ar gyfer plant ac yn trefnu digwyddiadau dod-â’r-teulu-ynghyd. Sieciwch galendr eich llyfrgell leol am ddyddiadau, amserau a lleoliadau digwyddiadau sy’n agos atoch chi.

Chwilio am lyfrgell
Gwella. Amser Rhigwm.

Amser Rhigwm Mawr Cymru

Mae Amser Rhigwm Mawr Cymru, a drefnir gan BookTrust Cymru, yn ddathliad blynyddol sy’n cael ei gynnal ym mis Chwefror, ac mae’n annog gweithgareddau rhannu rhigiau hwyliog a phleserus i blant yng Nghymru 0-5 oed, yn Gymraeg a Saesneg.

Ym mis Chwefror 2025 cafodd mwy na 25,000 o blant hwyl yn cymryd rhan gartref neu tra yn yr ysgol, meithrinfa neu leoliad blynyddoedd cynnar arall

Gallwch ddod o hyd i’r holl rhigymau a gweithgareddau newydd anhygoel, a grëwyd yn arbennig ar gyfer Big Welsh Rhyme Time isod.

Diolch i Dîm Dechrau Da Sir Ddinbych am rannu eu rhigymau. Cewch ragor ar eu sianel YouTube.

Gwefan BookTrust
Amser Rhigwm Mawr Cymru

Ymunwch â'ch llyfrgell leol

Mae ymuno â llyfrgell yn hawdd – dewch o hyd i un yma.

Dysgwch fwy
Shared Reading Group at Conwy Libraries