Grŵp Darllen Arlein Cymru

Reading choices for Online Book Group Wales

Grŵp Darllen Arlein Cymru

Crewyd Grwp Darllen Arlein Cymru yn Ebrill 2020 fel modd o annog darllen ar y cyd yn ystod y cyfnod hunan-ynysu o ganlyniad i’r haint COVID-19. Mae’r grŵp yn gweithredu o’r cyfrif Facebook @LibrariesWales, ble gallwch ymuno, a chymryd rhan yn y trafodaethau.

Bob mis, dewisir teitlau newydd drwy bleidlais. Bydd y teitlau ar gael fel eLyfr neu/ac eLyfr Llafar drwy gwasanaeth Borrowbox eich llyfrgell yng Nghymru, neu gallwch ymuno efo’ch copi printiedig. Bydd y grwp yn trafod un teitl Cymraeg ac un teitl Saesneg bob mis, ac yn annog trafodaeth ‘hanner ffordd’, a thrafodaeth olaf ar ddiwedd y mis.

Grwp Darllen Arlein Cymru

 

 

 

BorrowBox

Grwpiau Darllen Llyfrgell

Mae i grwpiau darllen nifer o fuddion cadarnhaol, o ehangu gorwelion darllen i wella sgiliau cyfathrebu yn wyrthiol, a hefyd teimlo’n gysylltiedig drwy ddarllen ar y cyd. Mae llawer mwy o fuddion, gan gynnwys:

  • Gall ymuno â grwp darllen helpu ehangu eich darllen, gan y byddwch yn cael eich temtio i geisio gwahanol fathau o lyfrau na fyddech wedi eu dewis eich hunan o angenrheidrwydd.
  • Gall clwb llyfrau fod yn ffordd wych o ‘deithio’ a gwerthfawrogi diwylliannau eraill – nid drwy’r llyfrau eu hunain ond hefyd drwy aelodau eraill o gefndiroedd gwahanol.
  • Mae cymryd rhan mewn trafodaethau grwpiau darllen yn gwella sgiliau cyfathrebu, technegau gwrando a gwerthfawrogi gwahanol safbwyntiau a dulliau mynegiant.
  • Mae clwb llyfrau yn seiat gymdeithasol wych ac yn cynnig llawer o gyfleon i gwrdd ac i wneud ffrindiau gyda phobl newydd o bob cefndir.

Ewch i wefan eich awdurdod llyfrgell leol ar ‘Ffeindio’ch Llyfrgell Leol’, a dewch o hyd i grŵp darllen sy’n gyfagos:

Ffeindio’ch Llyfrgell Leol

 

Welsh Libraries images – Bridgend libraries. Aberkenfig Library Welsh language discussion group.

Clwb Darllen i Blant

Mae darllen er mwyn pleser yn bwysicach i ddatblygiad meddyliol plant na lefel addysg eu rhieni ac yn factor mwy grymus  o ran cyrhaeddiant mewn bywyd na chefndir economaidd-gymdeithasol. Mae clybiau darllen Chatterbooks yn helpu plant i greu yr arfer o ddarllen drwy gydol eu bywydau. 

Dechreuodd Chatterbooks yn 2001 a hwn bellach yw’r rhwydwaith mwyaf o grwpiau darllen plant. Mae’r Reading Agency yn amcangyfrif bod bron i 9,000 o blant yn perthyn i grwpiau Chatterbooks, sydd yn cael eu cynnal mewn llyfrgelloedd ac ysgolion er mwyn ennyn trafodaeth ac annog plant i fwynhau darllen. Mae’r grwpiau yn cael eu cynnal gan lyfrgellwyr, athrawon, cynorthwywyr dysgu neu wirfoddolwyr – unrhyw un sydd ar dân dros ddarllen. Model hyblyg yw Chatterbooks a all gael ei ddefnyddio gyda plant o 4 hyd at 12, ar gyfer pob lefel gallu gwahanol ac mewn grwpiau wedi’u targedi’n benodol neu rai cymysg.

Am adnoddau rhad ac am ddim ac er mwyn cofrestru gyda rhwydwaith  Chatterbooks, ewch i wefan Chatterbooks.

 Chatterbooks.

Sut i gynnal clwb darllen Chatterbooks

Bydd angen man cyfarfod, cynllun i’r sesiynau, a llyfrau i’r plant eu benthyg. Mae’r Reading Agency yn cynnig paciau gweithgaredd llawn syniadau i’w defnyddio mewn sesiynau Chatterbooks, i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim bob mis, yn ogystal â rhestri llyfrau wedi’u cymeradwyo ar wahanol themâu. Dylai pob sesiwn bara o leiaf 40 munud (mae llawer o glybiau Chatterbooks yn cwrdd am 1 hyd at 1.5 awr). Gallech ddilyn ein hawgrym ynglŷn ag amlinelliad sesiwn. 

Fel arfer mae 10 i 15 o blant mewn clwb Chatterbooks. Mewn cyd-destun llyfrgell bydd clwbiau darllen Chatterbooks yn cyfarfod yn fisol yn aml. Mewn cyd-destun ysgol bydd y clybiau’n cyfarfod bob wythnos neu bob pythefnos.

Llyfrgelloedd Aura. Ginger Pixie Photography.

Cyngor ar gyfer eich clwb Chatterbooks

Dyma pum awgrym da ar gyfer bwrw ati gyda’ch clwb:

  • Prynwch gist offer arweinydd grŵp Chatterbooks, neu fuddsoddwch mewn diwrnod hyfforddiant i staff.
  • Cofrestrwch ar rwydwaith Chatterbooks: darllenwch y cylchlythyr, rhannwch awgrymiadau a syniadau a dewch i wybod rhagor am lyfrau plant newydd a chynhigion cyhoeddwyr.
  • Os mai clwb ysgol ydych, cysylltwch â’ch llyfrgell leol a’ch Gwasanaeth Llyfrgell i Ysgolion er mwyn cynllunio beth allwch chi ei wneud gyda’ch gilydd.
  • Gwnewch yn siwr bod amrywiaeth o weithgareddau ar gael ar gyfer pob cyfarfod (chwiliwch am y pecynnau gweithgaredd  yn ôl pwnc a hywyddiadau cyhoeddwyr).
  • Gofynwch i’r plant beth maent am ei ddarllen a siarad amdano – eu clwb nhw yw Chatterbooks!

Ewch i wefan y Reading Agency er mwyn gweld cwestiynau cyffredin a sut i ddechrau Clwb Chatterbooks:

Gwefan Reading Agency

 
 
Cookie Settings