Gwasanaethau Llyfrgell

O fenthyca llyfrau i adnoddau digidol am ddim a gweithgareddau teuluol, mae gan eich llyfrgell leol fwy i'w gynnig nag y byddech chi'n meddwl.

Rhyngrwyd am ddim a mynediad i gyfrifiaduron

Mae pob llyfrgell gyhoeddus yng Nghymru yn cynnig mynediad am ddim i gyfrifiaduron a’r rhyngrwyd.

P’un a oes angen i chi bori, gwneud cais am swyddi, cysylltu â gwasanaethau neu fwynhau adnoddau ar-lein, mae ein llyfrgelloedd yn darparu rhyngrwyd dibynadwy ac ystod eang o feddalwedd fel Microsoft Office.

Mae’r rhan fwyaf o leoliadau hefyd yn cynnig argraffu, sganio, technoleg addasol a chaledwedd arbenigol i gefnogi defnyddwyr ag anableddau.

Chwilio am lyfrgell
Llyfrgelloedd Awen

Mannau astudio ac ardaloedd tawel

Mannau Astudio ac Ardaloedd Tawel
Mae llyfrgelloedd yn cynnig mwy na dim ond silffoedd llyfrau. Maent yn darparu mannau tawel, croesawgar ar gyfer astudio, gwaith, neu ddarllen tawel.

Mae llyfrgelloedd yn agored i bawb, gan gynnig amgylchedd diogel, cynhwysol i ganolbwyntio, dysgu a chreu

Chwilio am lyfrgell

Adnoddau digidol

Mae Llyfrgelloedd Cymru yn darparu mynediad at ystod eang o gynnwys digidol— i gyd ar gael am ddim i aelodau’r llyfrgell.

Mae ein casgliad Fy Llyfrgell Ddigidol yn cynnwys dros 35,000 o e-lyfrau ac e-lyfrau sain, dros 7,000 o gylchgronau digidol a phapurau newydd, a mynediad at adnoddau hanes teuluol a chyfoeth o adnoddau cyfeiriol.

Fy Llyfrgell Ddigidol

Gwasanaethau allgymorth a symudol

Efallai y bydd eich awdurdod llyfrgell yng Nghymru yn cynnig gwasanaeth llyfrgell i’r rhai nad ydynt yn gallu cyrraedd y llyfrgell oherwydd damwain, salwch neu anabledd.

Efallai y bydd eich awdurdod lleol hefyd yn cynnig gwasanaeth llyfrgell symudol lle mae’n anodd i drigolion gael mynediad i lyfrgelloedd sefydlog.

Gwasanaethau allgymorth
Torfaen Housebound Library Service

Gweithgareddau a digwyddiadau ar gyfer pob oedran


Mae llyfrgelloedd yn fannau croesawgar i’r gymuned gyfan.

O glybiau plant fel Clwb Creu, i grwpiau darllen, gweithdai a digwyddiadau tymhorol, mae rhywbeth at ddant pawb.

Mae digwyddiadau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd, adeiladu sgiliau, a chael hwyl.

Dysgu mwy
Hanes teulu

Cwestiynau Cyffredin

Mae gan bob llyfrgell ei chanllawiau ei hun ar gyfer cael cerdyn. Bydd rhai llyfrgelloedd yn cynnig cofrestru ar gyfer cyfrif llyfrgell newydd ar-lein, gydag eraill bydd angen i chi ymweld â’r llyfrgell yn bersonol i ymuno. Cysylltwch â’ch llyfrgell.

Bydd angen i chi gysylltu â’ch gwasanaeth llyfrgell lleol i gael y PIN.

Os ydych chi’n ansicr ynghylch manylion cyswllt y llyfrgell, ewch i ‘Dod o Hyd i Lyfrgell’ ar dudalen flaen y wefan hon.

Ymunwch â'ch llyfrgell leol

Mae ymuno â llyfrgell yn hawdd – dewch o hyd i un yma.

Dysgwch fwy
Shared Reading Group at Conwy Libraries