Gwasanaeth llyfrgell i bobl sy’n gaeth i’r ty

Os nad yw’n bosib i chi ymweld â’r llyfgell oherwydd damwain, salwch neu anabledd, efallai bydd eich awdurdod lleol yn cynnig gwasanaeth sydd yn gallu helpu.

Isod ceir enghreifftiau o wasanaethau allgymorth llyfrgelloedd cyfredol sy’n gweithredu yng Nghymru

Gwasanaeth Library@Home Llyfrgelloedd Torfaen

Yn ogystal â darparu deunyddiau darllen, mae defnyddwyr yn gwerthfawrogi’r gwasanaeth ‘Lleihau Unigrwydd ac Arwahanrwydd’ ac yn edrych ymlaen at eu llyfrau a sgwrsio â’r gyrwyr cyfeillgar.

Ymweld â’u gwefan
Library Home Delivery Service

Gwasanaeth Llyfrgell Symudol Sir y Fflint

Mae gwasanaethau llyfrgelloedd symudol yn Sir y Fflint yn ymweld â chymunedau yn rheolaidd lle mae’n anodd i drigolion gael mynediad at lyfrgelloedd statig.

Bydd y gwasanaeth llyfrgell symudol fel arfer yn cario detholiad o lyfrau sy’n addas ar gyfer pob oedran, gan gynnwys llyfrau print bras a sain yn Gymraeg a Saesneg. Gall preswylwyr fel arfer ddefnyddio eu cerdyn llyfrgell presennol neu ymuno â’r llyfrgell ar fwrdd.

Ymweld â’u gwefan
Gwasanaeth Llyfrgell Deithiol Gwella

Gwasanaeth Llyfrau ar Olwynion Llyfrgelloedd Awen

Mae gwasanaeth Llyfrau ar Olwynion Llyfrgelloedd Awen yn ymweld â channoedd o bobl bob mis a darparu llyfrau, DVDs a llyfrau llafar i’r rheini sydd ddim yn gallu cyrraedd eu llyfrgell. Mae modd pori ac archebu llyfrau o’r catalog ar-lein neu ofyn i staff y gwasanaeth ddewis ar eich rhan.

Ymweld â’u gwefan
Gwasanaeth Llyfrau ar Olwynion Llyfrgelloedd Awen

'Yr wythnos y mae'r llyfrgell yn cyrraedd yw'r wythnos yr wyf yn edrych ymlaen ati. Gwasanaeth rhagorol. Mae'n gwneud fy niwrnod i!'

Defnyddiwr Gwasanaeth

Library@Home, Llyfrgelloedd Torfaen