Theory Test Pro

Gall aelodau llyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru gael mynediad i Theory Test Pro o adref drwy ddefnyddio eu rhif aelodaeth llyfrgell.

Theory Test Pro

Mae Theory Test Pro yn efelychiad ar-lein realistig iawn o brawf theori gyrru’r DU.

Mae’n cynnwys y banc cwestiynau prawf ymarferol swyddogol, clipiau fideo canfyddiad peryglon a fersiwn ar-lein o’r Cod Priffyrdd.

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cofrestru ar gyfer aelodaeth llyfrgell gyhoeddus yng Nghymru, sy’n rhad ac am ddim!

Chwilio am lyfrgell
Theory Test Pro

Beth yw Theory Test Pro?

Mae Theory Test Pro yn efelychiad realistig iawn o brawf theori gyrru’r Deyrnas Unedig. Mae’n cynnwys banc o gwestiynau swyddogol i ymarfer ar gyfer y prawf, clipiau fideo i’ch helpu i adnabod peryglon a fersiwn ar-lein o Reolau’r Ffordd Fawr. Defnyddir yr holl ddeunydd dan drwydded y Driver and Vehicle Standards Agency (DVSA), sef y bobl sy’n gosod y prawf.

Os nad ydych yn aelod o lyfrgell cyhoeddus eto, i gael mynediad i Theory Test Pro gallwch ymuno â’ch llyfrgell naill ai ar-lein neu mewn person- ewch i ‘Dod o hyd i Lyfrgell’ i gael manylion cyswllt eich llyfrgell.

Sut i gofrestru gyda Theory Test Pro…

1. Ewch i https://www.theorytestpro.co.uk/

2. Pan fyddwch yn defnyddio Theory Test Pro am y tro cyntaf, bydd angen ichi gofrestru gan nodi eich enw, eich cyfeiriad e-bost a chyfrinair. Ni chodir tâl am hyn. Mae’r wybodaeth hon yn caniatáu i Theory Test Pro gadw eich sgorau fel y gallwch ddilyn eich cynnydd wrth i chi ymarfer ar gyfer y prawf.

3. Bydd angen cyfeiriad e-bost dilys arnoch i gofrestru ar gyfer Theory Test Pro.

4. Os ydych yn cofrestru gartref neu o unrhyw le arall ar wahân i’r llyfrgell bydd angen rhif côd bar llyfrgell dilys arnoch hefyd, sydd ar eich cerdyn llyfrgell.