Dechrau ar Ancestry
Mae llyfrgelloedd cyhoeddus, swyddfeydd cofnodion Archifau a nifer o amgueddfeydd yng Nghymru, a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn darparu mynediad am ddim i Ancestry Library Edition i’ch helpu gyda’ch ymchwil hanes teulu. Mae llawer o wasanaethau llyfrgell, archif ac amgueddfa yn cynnig hyfforddiant a chymorth i ddefnyddwyr sydd am ddechrau chwilio am eu hanes teulu. Gyda dros 443,916 o chwiliadau yn digwydd mewn 22,752 o sesiynau ar Ancestry Library ledled Cymru yn 2024, mae’r adnodd yn boblogaidd iawn gyda’r rhai sydd â diddordeb mewn darganfod mwy am eu hynafiaid.
Mae Llyfrgell Ancestry yn cynnwys miliynau o ffynonellau cynradd ac eilaidd – yn ogystal â’r cyfrifiad, gall yr adnodd ddarparu coed teulu, cofnodion hanfodol, cofnodion milwrol a mewnfudo, cofnodion tir, ewyllysiau, papurau newydd a mwy. Dewch o hyd i fanylion am ble roedd eich hynafiaid yn byw, gyda phwy roeddent yn byw, a beth oedd eu galwedigaeth a’u statws priodasol – mae’r cyfan yn dechrau gydag enw!
Mae Cyfrifiad 1921 Cymru a Lloegr bellach ar gael ar ei blatfform. Yn ogystal â’i 60 biliwn o gofnodion presennol, mae Cyfrifiad 1921 yn cynnig cipolwg ar sut beth oedd bywyd i bron i 38 miliwn o bobl a oedd yn byw yng Nghymru a Lloegr ar y pryd, a dyma’r cyfrifiad olaf o hanner cyntaf yr 20fed ganrif sydd ar gael i haneswyr teulu gan fod Cyfrifiad 1931 wedi’i gymryd ond ei ddinistrio yn yr Ail Ryfel Byd.
Gan nad yw’r cyfrifiad nesaf sydd wedi goroesi (1951) i fod i gael ei ryddhau tan 2051 – mae Ancestry yn rhoi cyfle i dynnu cymariaethau rhwng gorffennol ein hynafiaid a’n presennol.
I gael gwybodaeth am sut i gael mynediad at Ancestry, ffoniwch, e-bostiwch neu ewch i wefan eich llyfrgell leol.