Hadau Newid: Gwireddu Gwahaniaeth gyda’ch Llyfrgell

Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd, dan arweiniad CILIP, yw’r dathliad cenedlaethol, blynyddol o lyfrgelloedd, ar draws pob sector – o lyfrgelloedd cyhoeddus ar y stryd fawr i lyfrgelloedd cenedlaethol, iechyd ac academaidd – lle mae’r ffocws ar lyfrgelloedd sy’n arwain mentrau hinsawdd a chynaliadwyedd i’w defnyddwyr a’u cymunedau.

Mae’r wythnos yn arddangos y gorau sydd gan lyfrgelloedd i’w gynnig, lle maent yn archwilio ac yn dathlu gweithgareddau dyfeisgar ac ysbrydoledig sy’n ymgysylltu â chymunedau lleol a’r cyfryngau i dynnu sylw at y ffyrdd amrywiol y maent yn gweithio gyda defnyddwyr i adeiladu sgiliau a hyder ar bob cam o’u bywydau. Mae’n cysylltu llyfrgelloedd ledled Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban i’w cefnogi gyda mentrau gwyrdd.

Eleni bydd Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd yn cael ei chynnal o ddydd Llun 27 Hydref i ddydd Sul 2 Tachwedd 2025, a’r thema yw ‘Hadau newid: gwireddu gwahaniaeth gyda’ch llyfrgell’. Mae CILIP yn annog llyfrgelloedd i ddechrau cynllunio gweithgareddau gwyrdd ar gyfer eu cymunedau, a danfon eu syniadau i CILIP er mwyn eu harddangos ar Fap Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd.

Pam ddylech chi gymryd rhan yn Wythnos y Llyfrgelloedd Gwyrdd?

Dyma ymatebion gan rai o gyfranogwyr 2024.

• “Mae Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd yn cysylltu â blaenoriaethau corfforaethol, net zero a thargedau cynaliadwyedd trwy gysylltu’r wythnos ag agenda corfforaethol llyfrgelloedd.”

• “Mae llyfrgelloedd yn partneru gydag asiantaethau ac yn gwneud Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd yn wythnos addysgol.”

• “Mae disgyblion ysgol yn dangos diddordeb mawr mewn cymryd rhan yn y gweithdai. Roedd yn rhaglen dda iawn i ysgolion, a gallai ymwneud â’r cwricwlwm hefyd.”

• “Mae’n ffordd wych o ddathlu popeth gwyrdd a llyfrgelloedd gyda’n gilydd ac fe wnaethon ni fwynhau estyn allan at bartneriaid cymunedol lleol i gryfhau ein perthnasoedd a dod ag wynebau newydd i’n llyfrgelloedd.”

• “Rydyn ni’n dechrau’n fach ac yn anelu’n fwy ar gyfer y flwyddyn nesaf. Dylai llyfrgelloedd fod yn rhan o unrhyw gymuned ac ysgogi ymwybyddiaeth a hyrwyddo gweithredu cymdeithasol ar gyfer mentrau gwyrdd.”

Rhagor o wybodaeth am Maniffesto, Partneriaeth a Chynhadledd y Llyfrgelloedd Gwyrdd ar 27 Hydref 2025 ar wefan CILIP – Ymgyrch Llyfrgelloedd Gwyrdd