Llyfrgell Betws yn Groesawgar ac yn Hygyrch i bawb ar ôl ei Hadnewyddu
Chwefror 6, 2025
Mae Llyfrgell Betws wedi ailagor i’r cyhoedd yn dilyn ei hadnewyddu. Mae bron i £150,000 wedi’i fuddsoddi yn y prosiect, diolch i Grant Cyfalaf Trawsnewid Llywodraeth Cymru a chyllid cyfatebol gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen.
Mae’r gwaith adnewyddu wedi:
– Creu mynedfa ehangach, fwy hygyrch i’r llyfrgell;
– Ailddylunio’r gofod i ddarparu gofod cymunedol hyblyg a llyfrgell fywiog i blant;
– Creu effeithlonrwydd ynni drwy:
– Gosod gwres a goleuadau effeithlon;
– Inswleiddio’r ystafell hyfforddi;
– Gosod ffenestri a goleuadau newydd;
– Gosod batri ar gyfer y paneli solar presennol;
– Uwchraddio’r Ystafell Hyfforddi gyda dodrefn, lloriau a chegin fach newydd i ddarparu ystafell addas a chynaliadwy i’r gymuned ei llogi.
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant:
“Mae ein Grant Cyfalaf Trawsnewid gwerth £132,000 ar gyfer Llyfrgell Betws wedi helpu adnewyddu’r cyfleuster hanfodol hwn ar gyfer y gymuned leol.
“Mae llyfrgelloedd yn parhau i fod yn ganolfan hanfodol ar gyfer dysgu gydol oes, ymgysylltu â’r cyhoedd a datblygiad personol. Mae’r newidiadau yma sydd bellach wedi’u cwblhau wedi moderneiddio’r gofod tra’n cadw ei rôl fel adnodd croesawgar a hygyrch i bawb.”
Gwybodaeth pellach ar wefan Lyfrgelloedd Awen