Yn y flwyddyn newydd hon, mae Llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn herio eu darllenwyr i ddarllen 25 llyfr yn 2025.
Bob haf, mae Llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn cynnal Her Ddarllen yr Haf i blant, ond eleni, mae’r tîm Llyfrgelloedd yn herio oedolion i ddarllen mwy hefyd.
Fe fydd ‘Her 25 Llyfr’ yn annog darllenwyr i ddarllen llyfrau o 25 genre a thema gwahanol ar ffurf bingo llyfrau. Mae’r themâu’n cynnwys nofelau sydd wedi ennill gwobrau, llyfrau sydd wedi’u seilio mewn gwledydd eraill a llyfrau gan awdur Cymreig. Gellir casglu’r taflenni bingo o Lyfrgelloedd lleol a bydd darllenwyr yn ennill gwobrau ar ôl darllen 10, 20 a 25 llyfr, mae cymhellion yn cynnwys nod tudalen a bag siopa y llyfrgell (cymhellion ar gael tra bod digon o stoc).
Gellir darllen y llyfrau mewn amrywiaeth o fformatau, yn cynnwys llyfrau ffisegol neu lyfrau llafar wedi’u benthyg o’r Llyfrgell, neu e-Lyfrau neu e-LyfrauLlafar sydd wedi’u lawrlwytho am ddim drwy ap Borrowbox. Mae yna dystiolaeth i ddangos bod darllen am cyn lleied â chwe munud y diwrnod yn gallu lleihau lefelau straen o hyd at 68%. Gall darllen helpu rhywun i gael noson well o gwsg, a lleihau tensiwn.
Meddai’r Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth Sir Ddinbych:
“Mae’r her ddarllen yma’n ffordd berffaith i breswylwyr ddod yn ôl i’r arfer o ddarllen llyfrau.
Gall preswylwyr gofrestru yn eu Llyfrgell leol, a herio’u hunain i ganfod awduron a genres gwahanol trwy gydol y flwyddyn.”