Anogir Rhieni i Ddarllen Mwy i roi Hwb i Gyfleoedd Bywyd Plant

Yr wythnos hon, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg, Bridget Phillipson, mai 2026 fydd Blwyddyn Genedlaethol Darllen.

Mae’r Ysgrifennydd Addysg yn galw ar rieni i arwain trwy esiampl a gwneud darllen yn arfer dyddiol i helpu i wrthdroi’r dirywiad mewn darllen er pleser, i helpu i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant fel rhan o’r Cynllun ar gyfer Newid (Plan for Change).

Daw’r alwad wrth i’r Adran Addysg a’r National Literacy Trust ymuno i lansio Blwyddyn Genedlaethol Darllen yn dechrau ym mis Ionawr 2026 i roi hwb i chwyldro darllen. Bydd yn gwrthdroi’r duedd gan mai dim ond un o bob tri rhwng 8 a 18 oed a ddywedodd eu bod wedi mwynhau darllen yn eu hamser rhydd yn 2025.  

Gan ddod â rhieni, ysgolion, llyfrgelloedd, busnesau ac arbenigwyr llythrennedd at ei gilydd, nod yr ymgyrch yw meithrin cariad at ddarllen er pleser mewn plant a phobl ifanc, gan sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.   

Nid hobi yn unig yw darllen er pleser. Mae’n gysylltiedig ag ystod o fanteision gan gynnwys sgiliau ysgrifennu cryfach, gwell lles a hyder, a hyd yn oed faint o gyflog fydd yr unigolyn yn ennill.

Bydd y Flwyddyn yn adeiladu ar y camau sydd eisoes ar y gweill i ysgogi safonau uchel a chynyddol mewn llythrennedd gan gynnwys buddsoddi £27.7 miliwn i gefnogi addysgu darllen ac ysgrifennu yn yr ysgol gynradd a chefnogaeth wedi’i dargedu i ddarllenwyr sy’n cael trafferth yn yr ysgol uwchradd, yn ogystal â’r adolygiad parhaus o’r cwricwlwm a’r asesu.   

  

Mum and son reading together in their local library

Mae’r ymgyrch yn cyfrannu at genhadaeth yrru’r llywodraeth i dorri’r cysylltiad rhwng cefndir plentyn a’r hyn y maent yn mynd ymlaen i’w gyflawni ac daw wrth i’r Ysgrifennydd Addysg amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd ac yn dechrau’r ysgol yn barod i ddysgu, gan gynnwys trwy hybu sgiliau llythrennedd cynnar trwy ehangu rhwydwaith y llywodraeth o Hybiau Saesneg.  

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Bridget Phillipson:  

Fel rhywun y cafodd ei gariad at ddarllen ei sbarduno yn ystod plentyndod, rwy’n gwybod pa mor bwerus y gall llyfrau fod wrth lunio bywydau ifanc.   

Mae darllen yn dylanwadu gymaint ar addysg plant, felly dylai’r dirywiad mewn darllen er pleser ymhlith pobl ifanc seinio rhybudd yn uchel ac yn glir.   

Ni all hyn fod yn genhadaeth y llywodraeth yn unig. Mae angen iddo fod yn un cenedlaethol. Felly, mae’n bryd i bob un ohonom chwarae ein rhan, rhoi ein ffonau i lawr a chodi llyfr.

Pan fydd rhieni’n cymryd yr amser i ddarllen gyda’u plant yn gynnar, maen nhw’n gosod y sylfeini ar gyfer sgiliau llythrennedd cryf, gan helpu plant i fod yn barod i’r ysgol. Trwy wneud darllen yn arfer dyddiol, hyd yn oed dim ond 10 munud y dydd, gallwn helpu i roi’r dechrau gorau i blant mewn bywyd, fel rhan o’r Cynllun ar gyfer Newid.

I roi hwb i’r chwyldro darllen yr haf yma, bydd y National Literacy Trust yn dosbarthu dros 72,000 o lyfrau newydd i blant mewn ardaloedd gyda’r cyfraddau uchaf o dlodi plant i gefnogi arferion darllen cadarnhaol gartref.  

Daw’r newydd yma wrth i ymgyrch Sialens Ddarllen yr Haf ddechrau, sy’n sicrhau bod mwy o blant yn cael y cyfle i gymryd rhan a meithrin cariad at ddarllen dros wyliau’r haf.   

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol y National Literacy Trust, Jonathan Douglas:  

Ar adeg pan rydyn ni’n gweld y lefelau isaf o fwynhad darllen a darllen dyddiol mewn cenhedlaeth, rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda’r llywodraeth i gyflwyno Blwyddyn Genedlaethol Darllen 2026 – ymgyrch feiddgar ar draws y gymdeithas i ail-ddychmygu sut rydym yn deall, cefnogi a hyrwyddo darllen. Darllen yw sylfaen bywyd llwyddiannus – yr allwedd i ddatgloi potensial, cryfhau cydlyniant cymdeithasol, gwella lles a rhoi hwb i sgiliau.  

Reading time at Llandysul Library

Mae Blwyddyn Genedlaethol Darllen 2026 yn cyflwyno cyfle i uno ar draws sectorau ac ailddiffinio darllen fel gweithgaredd pwerus, cyfoes i genhedlaeth. Gan weithio’n agos gydag ysgolion, teuluoedd, llyfrgelloedd, cymunedau a phartneriaid ledled y wlad, byddwn yn gwneud darllen yn genhadaeth genedlaethol a rennir – oherwydd mae pob plentyn, waeth beth fo’u cefndir, yn haeddu’r dechrau gorau mewn bywyd ac mae pob oedolyn yn haeddu cael y gorau o fywyd.

Ym mis Mehefin, croesawodd Cyngor Llyfrau Cymru y cyhoeddiad bod Adran Addysg Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu grant o £849,860 dros dair blynedd iddynt i barhau a datblygu eu gweithgareddau hyrwyddo darllen.

Cyflwynwyd y grant i’r Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen, sy’n cynnal ystod eang o ymgyrchoedd a phartneriaethau i ddathlu llyfrau a hyrwyddo darllen er pleser. Bydd y rhain yn cynnwys Sialens Ddarllen yr Haf, prosiect Athrawon yn Caru Darllen, Gornest Llyfrau / Bookslam, a rhaglen Meithrin Cymuned o Ddarllenwyr.

Anerchodd Ysgrifennydd Addysg y DU fusnesau ac eiriolwyr llythrennedd blaenllaw yr wythnos hon (7 Gorffennaf 2025) yn Rhif 10 i gasglu cefnogaeth bellach cyn y Flwyddyn Genedlaethol Darllen.

Darllenwch fwy am waith y National Literacy Trust a Chyngor Llyfrau Cymru.