Mae canol dinas Abertawe wedi croesawu ychwanegiad newydd pwysig wrth i’r Storfa agor ei drysau i’r cyhoedd yr wythnos hon.
Mae’r hwb gwasanaethau cymunedol blaenllaw hwn, a gyflwynir gan Gyngor Abertawe, yn hen adeilad BHS ar Stryd Rhydychen.
Y Storfa yw conglfaen rhaglen adfywio gwerth £1bn y cyngor, a bydd yn helpu i gynyddu nifer y bobl sy’n ymweld â chanol y ddinas.
Bwriedir i’r hwb drawsnewid sut mae preswylwyr yn cael mynediad at wasanaethau hanfodol yng nghanol y ddinas.
Mae’r Storfa’n dod ag amrywiaeth eang o wasanaethau ynghyd o dan yr unto, gan greu amgylchedd modern a chroesawgar.
Mae’n agos i gannoedd o leoedd parcio ceir – gan gynnwys cilfachau i’r rheini â phroblemau symudedd, ac i lwybrau ac arosfannau cludiant cyhoeddus.
Roedd llawer o’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig yno ar gael ar y diwrnod cyntaf; caiff eraill eu hychwanegu wrth i staff ac ymwelwyr ymgyfarwyddo â threfnau arferol newydd.
Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, “Mae’r Storfa yn lle gwych yng nghanol y ddinas i bobl Abertawe gael mynediad at y gwasanaethau y maen nhw’n eu defnyddio o ddydd i ddydd.
“Yn ogystal â gwelliannau eraill yn ein rhaglen adfywio gwerth £1bn, bydd yn gwneud canol y ddinas yn lle gwell fyth i ymweld ag ef.
“Gall pobl ddod ynghyd yma i gymryd rhan mewn bywyd cymunedol mewn lleoliad modern a chroesawgar.”
Gall ymwelwyr ddod o hyd i Lyfrgell Ganolog y ddinas yn Y Storfa, yn ogystal â gwasanaethau Opsiynau Tai a Chymorth Tai’r cyngor, Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg a nifer o wasanaethau eraill y cyngor.
Mae gwasanaethau Gyrfa Cymru a Chyngor ar Bopeth Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot ar gael yno, yn ogystal â gwasanaethau eraill fel Llyfrgell Glowyr De Cymru Prifysgol Abertawe.
Meddai Ian Rees, cyfarwyddwr rhanbarthol Kier Construction Western & Wales, “Rydym yn hynod falch o weld Y Storfa yn agor ei drysau i’r cyhoedd, gan ddarparu lle cymunedol hanfodol yng nghanol y ddinas sydd wedi’i gyflwyno i’r safonau uchaf a pharhau â pherthynas gref Kier â Chyngor Abertawe.”
Mae arianwyr Y Storfa’n cynnwys rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. Gwnaed y gwaith adeiladu dan arweiniad Kier.
I gael rhagor o wybodaeth am Y Storfa, ewch i wefan Cyngor Abertawe.
Lluniau diolch i Gyngor Abertawe.