Ar agor yn swyddogol: Cartref newydd gwasanaethau cyhoeddus allweddol Abertawe yng nghanol y ddinas

Agorwyd Y Storfa, sef yr hwb gwasanaethau cymunedol yng nghanol dinas Abertawe, yn ffurfiol heddiw.

Mae wedi bod ar agor i’r cyhoedd ers 1 Rhagfyr ac mae eisoes wedi denu miloedd o ymwelwyr.

Mae’r sylwadau cadarnhaol am Y Storfa ar y cyfryngau cymdeithasol wedi cynnwys y detholiad bach hwn:

  • “Rwy’n ei hoffi’n fawr. Mae’n gyfleus iawn – byddaf yn dod yma’n aml pan fyddaf yn y ddinas.” Pat Baldrian
  • “Mae’r staff a’r gwasanaeth yn ardderchog.” Chris Perry 
  • “Cymerais i gip sydyn ac roedd yn anhygoel!” Abid Hussain

Agorwyd Y Storfa, yn hen siop BHS a addaswyd at y diben yn Stryd Rhydychen, yn swyddogol heddiw gan Julie James AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni.

Ymunodd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, ac Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb, Elliott King, â hi.

Prif ariannwr y prosiect oedd Llywodraeth Cymru drwy ei menter Trawsnewid Trefi.

Cyflwynodd y cyngor y cynllun fel rhan o’i raglen i adfywio’r ddinas sy’n werth £1bn.

Y prif gontractwr oedd Kier.

Y Storfa Opening

Meddai Rob Stewart, “Mae’n wych bod Y Storfa wedi mwynhau agoriadau cyhoeddus a ffurfiol llwyddiannus – a bod cynifer o bobl wedi ymweld â’r lleoliad eisoes ac wedi rhoi adborth gwych i ni.

“Bydd yn darparu gwasanaethau hanfodol i bobl o bob rhan o Abertawe a bydd yn helpu i ysgogi rhagor o bobl i ymweld â busnesau cyfagos.”

Meddai Jayne Bryant, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Lywodraeth Leol a Thai, “Drwy agor Y Storfa, sy’n dod â gwasanaethau hanfodol ynghyd o dan un to, rydym yn gwneud cefnogaeth yn fwy hygyrch wrth greu hwb bywiog sy’n cryfhau cymuned Abertawe ac yn rhoi hwb i fusnesau lleol. Rwy’n falch bod rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru wedi helpu i ariannu’r prosiect hwn ac rwy’n falch iawn o weld cynifer o breswylwyr o bob oed yn defnyddio’r lle gwych hwn yn barod.”

Gall ymwelwyr ddod o hyd i Lyfrgell Ganolog y ddinas yn Y Storfa, ochr yn ochr â llyfrgell i blant. Mae gwasanaethau Opsiynau Tai a Chymorth Tai’r cyngor yno, ynghyd â Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg a gwasanaethau eraill y cyngor.

Er mwyn dathlu’r agoriad, ceir arddangosfa ym man digwyddiadau cymunedol Y Storfa sy’n amlygu hanes yr adeilad a chanol y ddinas. Bydd croeso i bawb.

Mae gwasanaethau Gyrfa Cymru a Chyngor ar Bopeth Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot ar gael yn Y Storfa, yn ogystal â gwasanaethau eraill fel Llyfrgell Glowyr De Cymru Prifysgol Abertawe.

Mae llwybrau a safleoedd cludiant cyhoeddus a channoedd o fannau parcio gerllaw, gan gynnwys cilfachau i’r rheini â phroblemau symudedd. 

Y Storfa Opening

Meddai Ian Rees, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Kier Construction Western & Wales, “Mae wedi bod yn wych gweld Y Storfa’n llawn bywyd ers iddi agor. Mae cyflwyno’r lle bywiog hwn yng nghanol dinas Abertawe’n ymgorffori ein hymroddiad i greu cyfleusterau cynaliadwy sy’n canolbwyntio ar y gymuned, a fydd yn fuddiol i genedlaethau’r dyfodol am ddegawdau i ddod. Edrychwn ymlaen at weld Y Storfa’n ffynnu a pharhau â’n perthynas gref â Chyngor Abertawe.”

Meddai Wendy Williams, Rheolwr Datblygu Gweithredol Gyrfa Cymru, “Mae ein tîm o gynghorwyr a hyfforddwyr cyflogadwyedd dynodedig yma i gynnig cymorth ac arweiniad arbenigol am ddim i helpu pobl ar bob cam tuag gyflawni eu nodau.”

Meddai Caroline Newman, Prif Swyddog Cyngor ar Bopeth Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, “Mae’r Storfa’n llawer mwy hygyrch i gleientiaid ac mae’r amgylchedd yn gynnes, yn llachar ac yn groesawgar. Mae’r amgylchedd yn llawer mwy addas i helpu rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymuned.”

Meddai Sian Williams, Pennaeth Ymgysylltu â Chasgliadau Diwylliannol a’u Curadu ym Mhrifysgol Abertawe, “Bydd lleoliad newydd Llyfrgell Glowyr De Cymru yn golygu bod ei chasgliadau anhygoel – sy’n llawn straeon am dreftadaeth ddiwydiannol a diwylliannol Cymru ac Abertawe – yn fwy hygyrch byth.”

Yn y llun, o’r chwith: Rob Stewart, Julie James, Elliott King.