Bardd Plant Cymru a Childrens Laureate Wales 2025-2027

Yn Llyfrgell Maesteg, Pen-y-bont ar Ogwr, ar ddydd Mercher 10 Medi, cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru mai Siôn Tomos Owen a Nicola Davies yw’r llenorion fydd yn ymgymryd â’r ddwy rôl genedlaethol arbennig, Bardd Plant Cymru a Children’s Laureate Wales, ar gyfer 2025-2027. Maent yn camu i esgidiau Nia Morais ac Alex Wharton, sydd wedi bod yn gweithio’n ddiwyd ledled Cymru ers eu penodi yn 2023.

Ar fore’r cyhoeddiad, croesawyd plant lleol o Ysgol Cynwyd Sant, Ysgol Gynradd Caerau a Sgwad ‘Sgwennu Maesteg i’r llyfrgell i fod gyda’r cyntaf i glywed y newyddion. Ynghyd â rhai gwahoddedigion o’r meysydd llenyddiaeth, cyhoeddi ac addysg, cafodd y plant eu diddanu gan y Bardd Plant Cymru a’r Children’s Laureate Wales newydd, a ddarllenodd eu cerddi cyntaf wrth ddechrau ar y gwaith. Yn ogystal, cafwyd perfformiadau a sgyrsiau gyda Nia Morais ac Alex Wharton, a gyflwynodd gerddi cyfarch a geiriau o gyngor i’w holynwyr.

Mae Bardd Plant Cymru a Children’s Laureate Wales yn ddwy rôl lysgenhadol genedlaethol sydd â’r bwriad o danio dychymyg ac ysbrydoli plant Cymru drwy lenyddiaeth. Mae ganddynt y nod ehangach o ehangu mynediad plant a phobl ifanc at lenyddiaeth, cyfrannu at well llesiant meddyliol ymysg y genhedlaeth iau, cynyddu mwynhad plant o lenyddiaeth a’u grymuso trwy greadigrwydd.

Mae’r awduron yn cadw’n brysur trwy gynnal gweithdai mewn lleoliadau amrywiol gan gynnwys ysgolion, llyfrgelloedd, canolfannau, a gwyliau; ysgrifennu cerddi comisiwn i nodi achlysuron arbennig; cynnal prosiectau gyda grwpiau o blant a phobl ifanc ledled Cymru; creu adnoddau creadigol arlein; ac eirioli dros leisiau plant a phobl ifanc Cymru yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Er fod y ddau brosiect yn annibynnol o’i gilydd, maent yn chwaer-gynlluniau sydd yn cyfrannu tuag at fagu cenhedlaeth iachach, fwy creadigol a mwy amrywiol o ddarllenwyr ac awduron ar draws Cymru. 

Nicola Davies a Sion Tomos Owen

Am Siôn Tomos Owen

Mae Siôn Tomos Owen yn awdur, bardd, artist a chyflwynwr dwyieithog o Dreorci yn Rhondda Fawr. Mae’n gweithio fel artist llawrydd creadigol yn darlunio, paentio murluniau a chynnal gweithdai creadigol. Roedd yn un o gyflwynwr cyfresi Cynefin a Pobol y Rhondda, roedd hefyd yn gyfrannwr comedi i raglenni Y Tŷ Rygbi, Jonathan ac Academi Gomedi.  Cyrhaeddodd ei gasgliad gyntaf o farddoniaeth, Pethau Sy’n Digwydd (Barddas) restr fer Llyfr y Flwyddyn 2025, a’i gyhoeddiad diweddaraf yw nofel i blant o’r enw Gerwyn Gwrthod a’r Llyfr Does Neb yn Cael ei Ddarllen (Atebol, 2025).  Mae wedi ‘sgwennu a darlunio nifer o lyfrau i blant a dysgwyr Cymraeg, ac mae ei farddoniaeth a’i straeon ar gwricwlwm newydd TGAU Cymraeg a Chymraeg ail iaith.

Wrth drafod ei obeithion ar gyfer y rôl hon, dywedodd: “Fel Bardd Plant Cymru dwi am fagu’r creadigrwydd sydd ym mhob plentyn i greu, creu cerddi, straeon neu ddarluniadau, y doniol a’r dwys, ac i ddefnyddio’r rhain i feithrin y diddordeb mewn darllen wnaeth gydio ynof fi pan roedden i’r un oedran.”

Am Nicola Davies

Dechreuodd Nicola Davies ei gyrfa fel biolegydd. Bu’n astudio gwyddau, ystlumod a morfilod yn y gwyllt. Aeth ymlaen i fod yn gyflwynydd ar raglenni teledu fel The Really Wild Show ar y BBC, cyn dod yn awdur. Mae hi wedi ysgrifennu mwy na 90 o lyfrau i blant a phobl ifanc, gan gynnwys barddoniaeth, llyfrau lluniau a nofelau. Mae ei gwaith wedi’i gyhoeddi mewn mwy na 12 o ieithoedd gwahanol ac wedi ennill gwobrau yng Nghymru, y DU, Ewrop a’r Unol Daleithiau. Yn ogystal â llawer o lyfrau am fyd natur mae Nicola wedi ysgrifennu am anabledd, galar, mudo dynol a hawliau plant. Mae ei nofelau YA diweddar The Song that Sings Us a Skrimsli, y ddau wedi’u cyhoeddi gan Firefly Press, ill dau wedi’u henwebu ar gyfer Gwobr Yoto Carniege am Ysgrifennu. Enillodd Skrimsli gategori Plant a Phobl Ifanc Llyfr y Flwyddyn yn 2024, a chyrhaeddodd ei chasgliad barddoniaeth Choose Love (Graffeg) restr fer Gwobr Yoto Carnegie am Ysgrifennu 2024.

Mae Nicola’n rhannu’r nod hwn ar gyfer ei chyfnod yn y rôl: “Rydw i am i holl blant Cymru brofi pleser darllen, grym anhygoel ‘sgwennu, ac i ddod o hyd i’w lleisiau creadigol eu hunain fel cenhedlaeth all alw am newid ac eiriolwyr dros ddyfodol sy’n fwy teg ac yn fwy cynaliadwy.”

Caiff y ddau gynllun eu rhedeg gan Llenyddiaeth Cymru, a chaiff cynllun Bardd Plant Cymru ei gefnogi gan y partneriaid Llywodraeth Cymru, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru ac Urdd Gobaith Cymru. Caiff y ddwy rôl eu gwobrwyo bob dwy flynedd i lenorion ysbrydoledig sy’n angerddol dros sicrhau fod mwy o blant a phobl ifanc yn darganfod gwefr a grym llenyddiaeth. Sefydlwyd Bardd Plant Cymru yn y flwyddyn 2000, ac ers hynny mae 18 bardd wedi ymgymryd â’r rôl. Sefydlwyd cynllun Children’s Laureate Wales yn 2019, a Nicola Davies fydd y pedwerydd deiliad.

Penodwyd y llenorion gan baneli o arbenigwyr ym meysydd llenyddiaeth ac addysg plant, dan ofal Llenyddiaeth Cymru.

Dywedodd Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru:

“I ddechrau, hoffai Llenyddiaeth Cymru ddiolch o waelod calon i Nia Morais ac Alex Wharton am eu gwaith caled dros ddwy flynedd. O gynnal gweithdai yng Ngharchar y Parc, i gynnal gweithdai rhithiol i grwpiau o bobl ifanc o Gymru ac ym Mhalesteina, i gerdded cannoedd o filltiroedd o ysgol i ysgol yn sir Fôn ac ym Mhowys…mae’r ddau wedi rhoi ymdrech arwrol i’w nod o ysbrydoli plant a phobl ifanc i feithrin cariad at eiriau a barddoniaeth.

Yna estynnwn groeso cynnes iawn i’w holynwyr – Siôn Tomos Owen a Nicola Davies, sydd â chynlluniau uchelgeisiol am brosiectau am fyd natur a bywyd gwyllt, pwysigrwydd darllen ac ysgrifennu, a pharhau i deithio ledled Cymru yn lysgenhadon dros greadigrwydd. Mae’n fraint gennym i groesawu’r ddau i deulu Llenyddiaeth Cymru, a dymunwn bob lwc iddynt ar yr antur mawr sydd ar fin dechrau.”