Cyhoeddi Enillwyr Gwobr Tîm y Flwyddyn CILIP Cymru 2025


Tîm Gwasanaeth Llyfrgell Wrecsam yn ennill y brif wobr yng Ngwobr Tîm y
Flwyddyn CILIP Cymru 2025 am eu gwaith o weithredu fel canolbwynt i dyfu’r
iaith Gymraeg a gwarchod a dathlu treftadaeth a diwylliant lleol yn weithredol.

Ynglŷn â Gwobr Tîm Llyfrgell y Flwyddyn CILIP Cymru

Mae CILIP Cymru wedi bod yn dathlu cyflawniadau anhygoel timau llyfrgell a gwybodaeth sy’n gweithio ledled Cymru ers 2020.

Croesewir ceisiadau o bob sector, o dimau sy’n gweithio ar draws gwahanol sefydliadau, a chan dimau o bob siâp a maint. Gall enwebiadau ddisgrifio cyflawniadau arbennig megis cychwyn prosiectau arloesol, cofleidio ffyrdd newydd o weithio neu wydnwch yn wyneb amgylchiadau heriol.

Derbyniwyd nifer fawr o enwebiadau, gydag wyth tîm wedi’u cyflwyno am eu gwaith ysbrydoledig.

Roedd Cadeirydd CILIP Cymru, Jamie Finch, wrth ei fodd gyda’r ceisiadau:

“Mae’n bleser pur gen i ddarllen cyflwyniadau’r wyth tîm cystadleuol hyn o bob cwr o Gymru, y gogledd a’r de. Mae ein Gwobr yn taflu goleuni ar y timau llyfrgell creadigol, gweithgar a blaengar sydd gennym yng Nghymru, ac yn helpu i ddathlu eu cyflawniadau. Mae llyfrgelloedd yma ar gyfer pob cam o fywyd yn eu cymunedau, gan wneud synnwyr o AI, cefnogi’r Eisteddfod Genedlaethol, gofal iechyd sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a mwy. Diolch, diolch, diolch.”

Ynglŷn â CILIP Cymru Enillwyr Gwobr Tîm Llyfrgell y Flwyddyn

Cafodd Tîm Gwasanaeth Llyfrgell Wrecsam ganmoliaeth gan y beirniaid am chwarae rhan bwysig wrth gryfhau hunaniaeth Gymreig unigryw Wrecsam, gan weithredu fel canolbwynt ar gyfer codi ymwybyddiaeth o ddiwylliant Cymru a chynyddu cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith.

Yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol 2025 a gynhaliwyd yn Wrecsam, trefnodd y gwasanaeth llyfrgell amrywiaeth o ddigwyddiadau cefnogol deniadol gan gynnwys cynnal arddangosfa o Goron a Chadair yr Eisteddfod, gan ganiatáu i drigolion ac ymwelwyr weld symbolau ffisegol prif gystadlaethau llenyddol yr ŵyl. Rhoddodd aelodau tîm y llyfrgell sesiynau stori i blant yn y Gymraeg ar y Maes ar safle’r eisteddfod a chynhaliwyd ymweliad â’r llyfrgell gan Magi Ann i hyrwyddo’r Eisteddfod yn ystod eu sesiynau stori a rhigwm dwyieithog rheolaidd ‘Stori a chan’.

Mewn partneriaeth â RhAG: Rhieni dros Addysg Gyfrwng Cymraeg a’r grwpiau y maent yn gweithio gyda nhw, trefnodd y gwasanaeth llyfrgell daith o amgylch arwydd trawiadol yr Eisteddfod Croeso ar draws llyfrgelloedd Wrecsam i hyrwyddo gwaith pwysig RhAG.

Drwy gydol y flwyddyn, roedd gweithgareddau ar gyfer y gymuned Gymraeg bresennol ac ar gyfer dysgwyr yn cynnwys grwpiau darllen a sesiynau ‘Sgwrs Cymraeg’ gyda sefydliadau partner. Cynhaliwyd gŵyl Lenyddol Carnifal Geiriau Wrecsam yn Llyfrgell Dinas Wrecsam ym mis Ebrill ac roedd yn cynnwys awduron lleol a Chymraeg. Un o’i digwyddiadau mwyaf poblogaidd oedd ‘Llythyrau Cariad at Wrecsam’, gyda phanel o awduron Cymreig yn trafod eu llyfrau cofiadwy a phostiadau blog a gysegrwyd i’w hangerdd dros Wrecsam a’r ardaloedd cyfagos yng Ngogledd Cymru.

Y tu hwnt i iaith, roedd Gwasanaeth Llyfrgell Wrecsam hefyd yn lle pwysig ar gyfer cysylltu trigolion â’u treftadaeth a’u diwylliant lleol a chenedlaethol cyfoethog.

Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, prif aelod Cyngor Wrecsam sydd â chyfrifoldeb dros lyfrgelloedd:

“Mae’r tîm yng Ngwasanaeth Llyfrgelloedd Wrecsam bob amser yn gweithio’n galed i’n cwsmeriaid ac mae cael ein cydnabod am ein cyfraniad at dyfu’r iaith Gymraeg a gwarchod ein treftadaeth Gymreig yn rhyfeddol.

“Mae’r tîm bob amser yn dod at ei gilydd, yn enwedig mewn cyfnodau heriol, er budd ein cymunedau – gan gynnig gweithgareddau a stoc llyfrgell i gynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth o’n hiaith a’n diwylliant Cymraeg. Eleni gwelsom bartneriaethau newydd a llwyddiannus yn cael eu ffurfio a fydd yn parhau am flynyddoedd i ddod. Mae ymroddiad y tîm yn syml anhygoel – bob amser yn greadigol, yn mynd y tu hwnt i’r hyn a ddisgwylir ganddynt ac yn barod bob amser am her.”

Dyfarnwyd yr ail safle i Dîm Gwasanaeth Llyfrgell NPTC am eu gwasanaeth Cynllunio a Chreu Podlediad newydd, sy’n cynnig dull creadigol a chynhwysol o ddatblygu llythrennedd digidol i fyfyrwyr Addysg Bellach.

Dyfarnwyd y drydedd safle i Dîm Llyfrgell + yng Ngholeg Menai Bangor am eu gwaith trawsnewidiol wrth lansio eu partneriaeth cyfleusterau LibraryPlus gyda Gwasanaethau Dysgwyr, a’r Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Canmolwyd hefyd Dîm Ymgysylltu Academaidd Prifysgol Aberystwyth am eu dyluniad a’u cyflwyniad o Gwrs Llythrennedd AI dwyieithog cwbl hygyrch a chynhwysol.

Canmolodd y beirniaid y safon uchel, ansawdd y ddarpariaeth gwasanaeth a’r ymrwymiad a ddangoswyd gan bob un o’r wyth cais a ddaeth gan wasanaethau llyfrgell o bob cwr o Gymru.

Bydd bob thîm buddugol a’r timau a enwebwyd yn cael eu hanrhydeddu yng ngweminar dathlu CILIP Cymru sydd ar ddod ar 14 Ionawr.

Os ydych chi’n ystyried enwebu tîm ar gyfer 2026 ac eisiau gwybod mwy am y meini prawf, ewch i dudalen Enwebiadau Gwobrau CILIP Cymru. Bydd yr enwebiadau’n agor ym mis Medi 2026.

Noddir y wobr hon gan Lywodraeth Cymru a CILIP Cymru. Mae’r enillwyr yn derbyn tlws a £500.