Yn 2023, fe wnaeth yr awdur Sophie Buchaillard (This Is Not Who We Are, Assimilation) bartneru â Llyfrgell Penarth i gyflwyno gweithdai ysgrifennu creadigol cynhwysol yn y gymuned, diolch i gefnogaeth Cronfa Gymunedau Llenyddiaeth Cymru, a oedd yn ei gwneud hi’n bosibl cynnig y sesiynau am ddim ar y pwynt cyflwyno.
Roedd y dosbarthiadau yn rhedeg yn fisol ac yn cynnig cyfle i gyfranogwyr o bob cefndir roi cynnig ar ysgrifennu yn greadigol, mewn amgylchedd cefnogol a chyfeillgar. Daeth yn amlwg yn gyflym bod y gweithdai hyn y tu hwnt i’r ysgrifennu, ac yn gweithredu fel platfform adeiladu cymunedol. Gwnaethpwyd ffrindiau newydd, magwyd hyder i ysgrifennu yn greadigol, ac mi ddaeth straeon yn fyw.
I Sophie Buchaillard, mae ennyn creadigrwydd yn angerdd. Mae hi wedi dysgu ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd ac wedi partneru â llawer o sefydliadau i gynnal sesiynau pwrpasol, bob amser gyda datblygiad cymunedol mewn golwg. Gallu cynnig y sesiynau mewn llyfrgell gyhoeddus oedd y cam naturiol nesaf.
Meddai Sophie: “Fyddwn i byth wedi dod yn awdur heb gefnogaeth fy llyfrgell leol. Mae mynediad at ddarllen am ddim yn rhodd bwerus, ac felly hefyd mynediad at weithdai ysgrifennu creadigol am ddim. Gweledigaeth gyfunol fy llyfrgell leol a Llenyddiaeth Cymru a wnaeth weithdai Penarth yn bosibl. Yr hyn oedd fwyaf syfrdanol i mi, oedd nifer y cyfranogwyr sy’n oedolion a ddaeth i’r gweithdai gyda’r un chwilfrydedd ac ofn, yn argyhoeddedig nad oeddent yn gallu ysgrifennu. Roedd llawer yn siarad am brofiadau negyddol o ysgrifennu yn yr ysgol. Eto, gydag ychydig o anogaeth a chefnogaeth y cyfranogwyr eraill, fe wnaethon nhw roi cynnig ar farddoniaeth a rhyddiaith, ysgrifennu mewn gwahanol genres, ac mae rhai ohonynt bellach yn gweithio ar brosiectau maen nhw’n gobeithio eu cyhoeddi yn y dyfodol agos.
Byddwn wrth fy modd yn gweithio gyda llyfrgelloedd i helpu i ddatblygu gweithdai tebyg ledled Cymru. Mae’n debygol iawn bod gan eich tref llond llaw o awduron a beirdd lleol yn byw gerllaw. Dewch â nhw i mewn, gadewch iddyn nhw rannu eu profiadau, a gwylio’r hud yn digwydd.”
Dywedodd cyfranogwr y gweithdy, Harriet Bradshaw:
“Dylai pob llyfrgell gael cyfle fel hyn. Yn bersonol, mae wedi rhoi’r cyfle i mi nid yn unig ddatblygu fy sgiliau ysgrifennu creadigol, ond rydw i wedi cwrdd a gwneud ffrindiau gyda phobl o fy nghymuned o bob cefndir trwy gariad o ddysgu. Mae arbenigedd ein tiwtor a chyflwyniad creadigol y gweithdai yn drawiadol ac yn afaelgar. Mae’n dangos gwerth ariannu addysgu o safon ac yn esbonio pam mae’r cwrs mor boblogaidd.
Mae pob gweithdy wedi fy ymestyn yn bositif ac wedi fy ngwneud yn awdur gwell. Mae’r ffaith ei fod yn rhad ac am ddim i ni fel cyfranogion yn wych. Fel rhywun o deulu incwm sengl sy’n gorfod cyllidebu’n ofalus, mae’r fforddiadwyedd hwn yn allweddol. Mae hefyd yn golygu bod yr ystod o bobl sy’n bresennol yn llawer mwy cynrychioliadol o gymdeithas – mae’n gwrs i bawb pa bynnag gefndir rydych chi’n dod. Dyma’n union beth yw ysbryd llyfrgelloedd – nid oes unrhyw rwystrau ariannol i fenthyca llyfrau, ac ni ddylai fod unrhyw rwystrau ariannol i ysgrifennu creadigol. Mae’r llyfrgell felly yn leoliad gwych ar gyfer cwrs ysgrifennu fel yr un yma. Dylai pob llyfrgell gael cwrs tebyg.”
Dywedodd Jordan Forse, Rheolwr Llyfrgelloedd a Gwasanaethau Diwylliannol Bro Morgannwg:
“Ers 2023, mae’r Dosbarthiadau Ysgrifennu Creadigol ym Mhenarth wedi trawsnewid y llyfrgell yn ganolfan fywiog o adrodd straeon, cysylltiad a chreadigrwydd. Mae’r sesiynau hyn yn mynd y tu hwnt i ysgrifennu – maent yn grymuso unigolion, yn cefnogi lles, ac yn meithrin cynhwysiant. Dan arweiniad Sophie, mae cyfranogwyr yn dod o hyd i’w lleisiau, yn rhannu eu profiadau, ac yn meithrin hyder, gan greu effaith ‘ton’ sy’n cryfhau ein cymuned ymhellach.
Mae gweithio gydag awdur fel Sophie wedi bod yn amhrisiadwy, gan ddod â mewnwelediad proffesiynol, anogaeth, ac egni ffres sydd wedi ysbrydoli defnyddwyr llyfrgell newydd a chyfredol fel ei gilydd. I lyfrgelloedd a thimau eraill sy’n ystyried y cydweithrediad hwn, mae’r effaith yn siarad drosto’i hun – nid yw ysgrifennu creadigol yn ymwneud â geiriau ar dudalen yn unig; mae’n ymwneud â pherthyn, mynegiant a’r straeon a rennir sy’n dod â phobl at ei gilydd.
Mae’r enillion cymdeithasol ar fuddsoddiad yn glir. Mae’r sesiynau hyn yn cyd-fynd yn hyfryd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Well-being of Future Generations Act), gan hyrwyddo ymgysylltiad diwylliannol, dysgu gydol oes, a chydlyniant cymdeithasol. Mae llyfrgelloedd wrth wraidd ein cymunedau, a thrwy fuddsoddi mewn mentrau creadigol fel hyn, rydym yn buddsoddi mewn dyfodol cryfach, mwy cysylltiedig.
Pe bai gen i un awgrym, hynny fyddai cofleidio hyblygrwydd a chreadigrwydd yn y ffordd y mae’r sesiynau hyn yn cael eu strwythuro – mae pob cymuned yn wahanol, ac mae teilwra gweithgareddau i anghenion cyfranogwyr yn gwneud gwahaniaeth enfawr ohonynt, Sophie yw ein harbenigwr!”
Adborth gan Rhodri Matthews, Uwch Lyfrgellydd yn Llyfrgell Penarth:
“Rôl y llyfrgell gyhoeddus yw gwella bywydau ei dinasyddion. Mae’r dosbarthiadau ysgrifennu creadigol yn sicr yn gwneud hyn. Mae’r cyfranogwyr yn cael ysgrifennu, archwilio, bod yn fynegiannol, rhannu a chreu. Mae Sophie yn tywys, yn annog, yn addysgu sy’n eu gadael yn awyddus am fwy. Mae cael y dosbarth hwn ar gael i gymuned Penarth yn rhad ac am ddim yn wych ac mae’r galw yn sicr yno gyda phob dosbarth yn llawn capasiti. Mae’n dangos bod Llyfrgell Penarth wrth wraidd creadigrwydd a lles yn ein cymuned ac rydym yn teimlo diolchgarwch gan y rhai sy’n mynychu. Rydym yn ddiolchgar i Sophie a Llenyddiaeth Cymru am ein galluogi i gynnal y dosbarthiadau hyn ar ran y gymuned.
Fel llyfrgellydd mae gallu gweithio gydag awdur a chynnal y dosbarthiadau hyn yn rhoi boddhad mawr i mi. Mae’n caniatáu i’r awdur addysgu, rhannu a bod yn rhan o’r gymuned. Mae Sophie wedi gweithio gyda ni ar sawl achlysur ac mae pob sesiwn wedi bod yn enghreifftiol ac rydym wedi cael sylwadau fel ‘dyna’r peth gorau rydw i wedi’i wneud erioed’. P’un a yw’n sesiynau gyda mamau newydd, sgwrs awduron neu ddosbarthiadau, mae’r mynychwyr bob amser yn dangos gwerthfawrogiad mawr. Mae hyn yn wir am gymaint o awduron a siaradwyr lleol yr ydym wedi’u cael yn ymweld â Llyfrgell Penarth ac mae’n wir yn gwella’r gwasanaeth y gallwn ei gynnig wrth iddynt rannu eu harbenigedd a’u profiadau.
Llyfrgell Penarth
Rydym wedi dysgu yn ystod y misoedd diwethaf yn enwedig (oherwydd cyllid) bod galw mawr am sesiynau creadigol yn ein cymuned. Mae gennym wynebau hen a newydd yn mynychu ac mae pawb yn gadael gyda gwên ar eu hwyneb. Fy nghyngor fyddai ei bod hi’n werth y gwaith caled i wneud cais am y cyllid a threfnu’r sesiynau, hyd yn oed os gall fynd ychydig yn brysur!”
Mae Cronfa Ysbrydoli Cymunedau Llenyddiaeth Cymru a ddefnyddiwyd i ariannu gweithdai ysgrifennu creadigol Llyfrgell Penarth yn ariannu digwyddiadau llenyddiaeth, ac yn cynnig cymorth ariannol o hyd at 75% o’r ffioedd a’r treuliau a delir i awduron ar gyfer digwyddiadau llenyddol gan gynnwys sgyrsiau, darlithoedd, gweithdai ysgrifennu creadigol a mwy. Gall y digwyddiadau hyn gael eu cynnal unrhyw le yng Nghymru, mewn neuaddau cymunedol, llyfrgelloedd, ysgolion, clybiau ieuenctid a mwy – a hefyd ar lwyfannau rhithwir ar gyfer grwpiau sy’n cyfarfod ar-lein. Mwy o wybodaeth am y Cronfa Ysbrydoli Cymunedau ar wefan Llenyddiaeth Cymru.