Edrychiad Newydd i Wefan Llyfrgelloedd Cymru!

Mae gwefan Llyfrgelloedd Cymru yn cael ei hailddatblygu, gyda brandio lliwgar, logo newydd a thaith haws i gael mynediad at y cyfoeth o adnoddau sydd ar gael i ddefnyddwyr ledled Cymru.  Dyma’r lle i ddarganfod newyddion a gwybodaeth gyfredol am lyfrgelloedd yn y sector cyhoeddus. 

Nodweddion i edrych amdanynt yn y dyfodol agos ar y wefan yw catalog llyfrgelloedd Cymru gyfan a mynediad at wybodaeth am ddigwyddiadau mewn llyfrgelloedd ledled Cymru.

Dyma eich porth arbennig ar gyfer llyfrgelloedd yng Nghymru – gallwch gael gwybod beth sy’n digwydd mewn llyfrgelloedd, defnyddio dewis eang o adnoddau ar-lein, dod o hyd i’ch llyfrgell agosaf, ymuno ar-lein, cael gwybodaeth am gynlluniau sy’n cefnogi iechyd, pobl ifanc, plant a theuluoedd, ymuno â grŵp llyfrau a llawer mwy.

Mae’r wefan newydd hon wedi’i chreu a’i chynllunio gyda diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, fel rhan o’u cefnogaeth barhaus i lyfrgelloedd yng Nghymru.

Gallwch gysylltu â ni ar cysylltu.llyfrgelloedd.cymru@llyfrgell.cymru