Gwaith adnewyddu i ddechrau yn Llyfrgell Corwen

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cyhoeddi y bydd gwaith adnewyddu yn dechrau yn Llyfrgell Corwen ym mis Tachwedd eleni, ar ôl llwyddo i gael £83,469 gan Raglen Gyfalaf Trawsnewid Llywodraeth Cymru.

Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i adnewyddu llawr gwaelod y llyfrgell, gan foderneiddio’r lle a gwella’r cyfleusterau i’r gymuned leol.

O 10 Tachwedd, bydd gwasanaethau’r llyfrgell a’r Siop Un Alwad yn symud dros dro i’r llawr cyntaf tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo. Er y bydd mynediad at gyfrifiaduron ac argraffu’n gyfyngedig yn ystod y cyfnod hwn, bydd staff yn parhau i ddarparu gwasanaeth llyfrgell a gwybodaeth llawn.

Gan nad oes lifft i’r llawr cyntaf, anogir cwsmeriaid a allai gael trafferth gyda’r grisiau i fenthyg mwy o lyfrau cyn y symudiad neu i ddefnyddio’r Gwasanaeth Llyfrgell Cartref. Bydd cloch wrth y drws hefyd i unrhyw un sydd angen cymorth gan aelod o staff.

Llyfrgell Corwen

Yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr, bydd y gwaith adnewyddu yn cynnwys:

  • Creu ardal lyfrgell bwrpasol i blant i annog mwy o ymweliadau teuluol.
  • Bydd technoleg hunanwasanaeth newydd hefyd yn cael ei chyflwyno, gan ganiatáu i gwsmeriaid fenthyca a dychwelyd llyfrau yn annibynnol.
  • Bydd technoleg Open+ yn cael ei gosod, gan alluogi aelodau cofrestredig i gael mynediad i’r llyfrgell yn ystod oriau heb staff
  • Addurno’r llawr gwaelod yn llwyr
  • Gosod desgiau a silffoedd arddangos newydd
  • Ailosod cegin y staff

Disgwylir i’r llyfrgell wedi’i hadnewyddu agor yn ôl yn gynnar yn Ionawr 2026, gyda digwyddiad lansio cymunedol wedi’i gynllunio tuag at ddiwedd y mis.

Bydd y buddsoddiad yn y gwasanaeth yn ei foderneiddio ac yn helpu i’w wneud yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol.

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant:

“Mae ein llyfrgelloedd yn chwarae rhan hanfodol wrth ddiogelu a hyrwyddo diwylliant Cymru wrth wasanaethu fel canolfannau cymunedol hanfodol. Bydd y buddsoddiad hwn yn Llyfrgell Corwen yn creu lle modern, hygyrch lle gall teuluoedd ac unigolion ddod at ei gilydd i ddysgu, darllen a chysylltu. Rwy’n arbennig o falch o weld ardal bwrpasol i blant yn cael ei chreu, a fydd yn helpu i feithrin cariad gydol oes at ddarllen a dysgu yn aelodau ieuengaf ein cymuned.”

Dywedodd Deborah Owen, y Prif Lyfrgellydd:

“Rydyn ni wrth ein bodd bod y prosiect hwn yn symud ymlaen. Bydd yn trawsnewid Llyfrgell Corwen yn le mwy croesawgar a hyblyg i bawb. Bydd y dechnoleg a’r cynllun newydd yn ein helpu i ddarparu gwasanaeth hyd yn oed gwell i’n cwsmeriaid ac i wneud y gorau o’r cyfleuster pwysig hwn i’r gymuned.”

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol dros y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae llyfrgelloedd wrth galon ein cymunedau, ac mae’r buddsoddiad hwn yn sicrhau y bydd Llyfrgell Corwen yn parhau i fod yn le modern a chroesawgar ar gyfer dysgu, darllen a chysylltu. Rydym yn edrych ymlaen at weld trigolion lleol yn mwynhau’r cyfleusterau gwell yn gynnar y flwyddyn nesaf.”