Her 21 Llyfr Arobryn yn Dychwelyd i Lyfrgelloedd Awen 

Bydd Llyfrgelloedd Awen yn sbarduno darllen er pleser wrth i’r her 21 Llyfr arobryn, sydd wedi’i chynllunio’n benodol ar gyfer oedolion, ddychwelyd. Cofrestrodd dros 600 o bobl ar gyfer yr her gyntaf y llynedd, mwy na dwbl y niferoedd disgwyliedig. 

Mae’r Her 21 Llyfr, sy’n cael ei chynnal rhwng 1 Medi 2025 a 31 Mawrth 2026, yn gwahodd darllenwyr ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ddarganfod genres newydd, ailymweld â theitlau clasurol a gwneud amser i ddarllen yn eu bywydau bob dydd. 

Mae’r themâu eleni yn cynnwys ‘Llyfr wedi’i osod mewn gwlad rydych wedi ymweld â hi’, ‘Llyfr gydag wyneb dyn ar y clawr’, ‘hunangofiant’, ‘nofel drosedd’ a ‘llyfr hanes’ a argymhellir gan ein Rheolwr Treftadaeth yn Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen. 

  

Gan ddefnyddio taflen bingo Her 21 Llyfr, gall cyfranogwyr gofnodi eu cynnydd a chasglu gwobrau gan gynnwys beiros pwrpasol, llyfrnodau, bagiau a goleuadau darllen ar ôl cwblhau 7, 14 a 21 o lyfrau.   

Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, yr elusen sy’n rheoli llyfrgelloedd mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: 

“Gan ein bod wedi cael ein henwi’n ‘Llyfrgell y Flwyddyn Cymru’ yng Ngwobrau Llyfrau Prydain 2025, diolch i lwyddiant yr Her 21 Llyfr gyntaf erioed, rydym yn ddiolchgar bod ein cydweithwyr yn y cyngor a llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi ei galluogi i ddychwelyd.   

“Mae mentrau fel yr Her 21 Llyfr yn cyd-fynd ag ymdrechion parhaus Awen i hybu lefelau llythrennedd, lleihau ynysu cymdeithasol a hyrwyddo lles meddyliol, pob un o’r rhain yn fanteision darllen er pleser.     

“Rydym yn gobeithio y bydd ein darllenwyr yn mwynhau’r categorïau newydd sydd wedi’u dewis ar eu cyfer, gan ddarparu llawer o gyfleoedd i bobl ehangu eu chwaeth ddarllen a rhoi cynnig ar rywbeth newydd. Os nad ydych yn aelod o’r llyfrgell, galwch heibio neu ewch i www.awen-libraries.com.”  

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Jane Gebbie: 

“Rydym yn falch iawn o groesawu’r Her 21 Llyfr yn ôl eleni. Roedd y fenter y llynedd yn hynod boblogaidd gyda phobl leol. Mae ymchwil yn dangos y gall darllen llyfrau gynnig sawl budd iechyd, gan gynnwys cryfhau’ch ymennydd, cynyddu eich gallu i ddangos empathi, lleihau straen, ac ategu eich geirfa. Byddwn yn annog cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan yn yr her a mwynhau’r manteision niferus sydd gan ddarllen llyfr da i’w gynnig.” 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Toni Cosson, Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu, ar 07718 645685 neu e-bostiwch toni.cosson@awen-wales.com