Llyfrgell Ganolog Abertawe’n barod i symud i’r Storfa

Bydd Llyfrgell Ganolog Abertawe’n symud o’r Ganolfan Ddinesig i’r Storfa’n fuan, sef hwb gwasanaethau cymunedol newydd y ddinas sy’n datblygu’n gyflym yn yr hen uned BHS ar Stryd Rhydychen.

Mae’r symudiad yn garreg filltir pwysig yn rhaglen adfywio canol y ddinas Cyngor Abertawe werth £1bn, a bydd Y Storfa’n cyflwyno amrywiaeth eang o wasanaethau dan yr unto, gan gynnwys llyfrgell ganolog newydd, Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg, Opsiynau Tai, Gyrfa Cymru, Cyngor ar Bopeth a Llyfrgell Glowyr De Cymru. 

Bydd y llyfrgell ganolog bresennol yn y Ganolfan Ddinesig ar gau o ddydd Llun 20 Hydref er mwyn rhoi’r cyfle i staff baratoi cyn symud. Bydd y llyfrgell newydd yn Y Storfa’n agor yn ddiweddarach eleni, a chaiff yr union ddyddiad ei gadarnhau’n fuan. 

Nid oes unrhyw newidiadau ar ddod ar gyfer gwasanaethau eraill y cyngor sydd wedi’u lleoli yn y Ganolfan Ddinesig ar hyn o bryd.

Meddai’r Cyng. Elliott King, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, “Bydd Y Storfa’n cynnig Llyfrgell Ganolog groesawgar a modern yng nghanol y ddinas i breswylwyr gan ei wneud yn haws nag erioed o’r blaen i gael mynediad at lyfrau, adnoddau digidol ac amrywiaeth o wasanaethau mewn un lle. 

“Mae’r symudiad yn rhan allweddol o’n cynlluniau adfywio ehangach sy’n trawsnewid Abertawe ar gyfer y dyfodol.” 

Yn ystod y cyfnod pontio bydd aelodau’r llyfrgell yn gallu parhau i ddefnyddio’r 16 o lyfrgelloedd cymunedol eraill ar draws dinas Abertawe. 

Gallwch ddychwelyd eitemau a fenthycwyd yn y llyfrgelloedd hyn, a bydd gwasanaethau ar-lein – gan gynnwys e-lyfrau, llyfrau llafar a chylchgronau digidol – yn parhau i fod ar gael 24/7. 

Bydd digwyddiadau fel amser rhigwm, grwpiau darllen a sesiynau cefnogaeth ddigidol hefyd ar gael yn y llyfrgelloedd cymunedol. Caiff yr holl aelodau presennol eu trosglwyddo’n awtomatig i’r Llyfrgell Ganolog newydd yn y Storfa a chaiff cyfnodau benthyca eu hymestyn i gefnogi cwsmeriaid wrth i’r llyfrgell fod ar gau. 

Llyfrgell Ganolog Abertawe
Y Llyfrgell Ganolog yn ei safle presennol yn y Ganolfan Ddinesig

Meddai’r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, “Mae’r symudiad i’r Storfa yn golygu mwy na adleoli gwasanaethau’n unig, bydd yn creu canolbwynt lle gall pobl ddod i ddysgu, cael mynediad at gefnogaeth a dod at ei gilydd fel cymuned. 

“Bydd hefyd yn cyfuno â nifer o gynlluniau eraill i gynyddu nifer yr ymwelwyr yng nghanol y ddinas er mwyn denu rhagor o siopau a busnesau eraill.

“Ar yr un pryd, mae’n rhoi’r cyfle i ni wneud cynnydd gyda chynlluniau ailddatblygu cyffrous ar gyfer safle’r Ganolfan Ddinesig mewn partneriaeth ag Urban Splash. 

“Mae’r gwaith i adfywio Abertawe’n symud ymlaen yn gyflym ac mae’r Storfa’n rhan hanfodol o’r gwaith hwnnw.” 

Caiff y diweddaraf am y symudiad i’r llyfrgell, dyddiadau agor a threfniadau pontio eu rhannu ar wefan Cyngor Abertawe ac ar gyfryngau cymdeithasol Gwasanaeth Llyfrgelloedd Abertawe.