Gwobrau Tir na n-Og yw’r gwobrau hynaf ar gyfer llenyddiaeth plant yng Nghymru. Ers 1976 maent wedi dathlu dawn a chreadigrwydd awduron a darlunwyr sydd naill ai’n creu gweithiau gwreiddiol yn Gymraeg, neu’n ysgrifennu am themâu neu gefndiroedd Cymreig dilys drwy gyfrwng y Saesneg.
Dywedodd Bethan Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen: “Mae gennym flwyddyn wych wedi ei threfnu i ddathlu’r pen-blwydd arbennig hwn ar gyfer Gwobrau Tir na n-Og. Bydd gwobrau Cymraeg a Saesneg 2026 yn cael eu cynnal dros y gwanwyn a’r haf, ac mae gennym galendr llawn-dop o weithgareddau a digwyddiadau bendigedig fel bydd modd i ddarllenwyr o bob oedran ymuno â ni i ddathlu 50 mlynedd o’r llyfrau gorau i blant a phobl ifanc.
“Mae’r paneli beirniaid wedi cwrdd yn barod i ystyried y cyfrolau a enwebwyd ar gyfer y gwobrau ac mae’n anhygoel gweld cymaint o lyfrau gwych yn gymwys eleni. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at ddatgelu’r rhestrau byrion yn y gwanwyn a mwynhau’r dathliadau gydag ysgolion, siopau, llyfrgelloedd a darllenwyr dros y flwyddyn i ddod.”
Bydd rhaglen brysur o ddigwyddiadau yn cael ei chynnal i nodi’r pen-blwydd 50 oed:
- Ionawr – Cyhoeddi / lawnsio blwyddyn o ddathlu Gwobrau Tir na n-Og 2026.
- Chwefror – Cyflwyno her ddarllen TNNO – ar gyfer plant ysgol gynradd, plant ysgol uwchradd ac oedolion, mewn cydweithrediad â sefydliadau amrywiol ledled Cymru.
- Mawrth – Cyhoeddi rhestrau byr TNNO Cymru a Saesneg ar gyfer 2026 ; helfa drysor mewn llyfrgelloedd a siopau llyfrau ; gwasanaethau e-sgol (un bob wythnos trwy gydol Mawrth).
- Ebrill – Hyrwyddo rhestrau byrion Cymraeg a Saesneg 2026.
- Mai – Cyhoeddi enillwyr Tir na n-Og 2026.
- Mehefin – Taith Dosbarth Miss Prydderch Arad Goch a’r Theatr Genedlaethol ; hyrwyddo lluniau a’r pecyn adnoddau ysgolion.
- Awst – Sesiynau yn Y Babell Lên, Eisteddfod y Garreg Las.
- Medi – Dathlu hanner canrif o enillwyr blaenorol Tir na n-Og – ymgyrch ar-lein.
- Hydref – Arddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Caiff Gwobrau Tir na n-Og eu trefnu’n flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru a’u cefnogi gan CILIP Cymru Wales.
Mae aelodau’r paneli beirniaid wedi bod yn brysur dros y misoedd diwethaf yn darllen y llyfrau a enwebwyd ar gyfer y gwobrau. Dan arweinaid Rhys Dilwyn Jenkins, Cadeirydd y panel Cymraeg, a Karen Gemma Brewer, Cadeirydd y panel Saesneg, mae wyth o feirniaid wedi ymgynull i drafod y teitlau dan sylw. Cwrdd ag aelodau’r paneli ar wefan y Cyngor Llyfrau.
Mae tri chategori i’r gwobrau: Llyfrau Cymraeg Cynradd (4–11 oed), Llyfrau Cymraeg Uwchradd (11–18 oed) a’r Llyfr Saesneg gyda chefndir Cymreig dilys ar gyfer cynradd neu uwchradd (4–18 oed).
Cyhoeddir y rhestrau byrion yn y gwanwyn, a cheir mwy o wybodaeth am Wobrau Tir na n-Og a’r flwyddyn o ddathlu 2026 ar wefan y Cyngor Llyfrau trwy’r flwyddyn.