Mae monitorau pwysedd gwaed nawr a’r gael i’w benthyg o Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd a Bro Morgannwg

23 Ionawr 2025

Ers ymestyn eu cynnig iechyd a lles gyda lansio cynllun monitro pwysedd gwaed newydd ym mis Tachwedd 2024, mae Hybiau Llyfrgell Caerdydd newydd gyrraedd y nifer nodedig o 1,000 o fenthyciadau o’r dyfeisiau.

Yn yr un modd ag y gall deiliaid cardiau llyfrgell fenthyca llyfrau ac adnoddau eraill gan gyfleusterau ar draws y ddinas, mae aelodau’r cyhoedd wedi gallu manteisio ar y cynllun benthyciadau sydd wedi caniatáu iddynt gadw golwg ar eu pwysedd gwaed.

Croesawyd y fenter iechyd a lles yma gan y cyhoedd, gan weithio mewn partneriaeth â Thîm Iechyd Cyhoeddus Lleol Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ac mae’n cefnogi’r nod o gyflawni gweithgarwch i helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd ledled y ddinas.

Mae gan un o bob tri oedolyn yn y DU bwysedd gwaed uchel ond nid yw llawer yn sylweddoli hynny.  Os na chaiff ei drin, gall pwysedd gwaed uchel dros gyfnod o amser arwain at nifer o broblemau iechyd gan gynnwys strôc, clefyd y galon, clefyd yr arennau, dementia fasgwlaidd a diabetes.

Gall bod yn fwy ymwybodol o’u pwysedd gwaed alluogi unigolion i wneud newidiadau cadarnhaol i’w ffordd o fyw fel bod yn egnïol, cadw at bwysau iach, bwyta’n iach, rhoi’r gorau i ysmygu neu gymryd meddyginiaeth, er mwyn osgoi’r canlyniadau negyddol hyn.

Fodd bynnag, hyd yn oed pan gynghorir pobl i fonitro eu pwysedd gwaed, gall cost prynu dyfais fod yn rhwystr.

Nawr, bydd monitorau a ddilysir gan Gymdeithas Gorbwysedd Prydain ac Iwerddon at ddefnydd cartref ar gael i’w benthyca am ddim am gyfnodau o dair wythnos i alluogi preswylwyr i fonitro eu hunain gartref. Bydd cwsmeriaid yn cael llyfryn sy’n cynnwys gwybodaeth am pam mae’n bwysig monitro pwysedd gwaed, achosion pwysedd gwaed uchel, sut i ddefnyddio’r ddyfais a chofnodi canlyniadau a beth i’w wneud os ydyn nhw’n poeni am y darlleniadau maen nhw’n eu cymryd.

Gall aelodau o’r gymuned a hoffai fenthyca dyfais ond nad oes ganddynt gerdyn llyfrgell ar hyn o bryd gofrestru am un am ddim yn eu hyb neu eu llyfrgell leol.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: “Rydym yn falch iawn o allu cynnig y gwasanaeth newydd hwn i’n cwsmeriaid. Gall llawer o bobl deimlo’n gynhyrfus wrth i’w pwysedd gwaed gael ei gymryd mewn lleoliad gofal iechyd, a all effeithio ar gywirdeb eu darlleniad.  Trwy gael benthyg dyfais o’u llyfrgell neu eu hyb leol, gall cwsmeriaid wneud y monitro yng nghysur eu cartrefi eu hunain a chymryd camau i wella eu hiechyd eu hunain.”

Yn ddiweddar, mae cyllid ychwanegol wedi’i sicrhau gan Dîm Iechyd Cyhoeddus Lleol Caerdydd a’r Fro i ailadrodd y cynllun ym Mro Morgannwg, lle gall trigolion yno bellach fenthyg monitorau pwysedd gwaed o lyfrgelloedd a hybiau cymunedol.

Dywedodd y Cynghorydd Rhiannon Birch, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg, y Celfyddydau a’r Gymraeg: “Mae ein llyfrgelloedd yn llawer mwy na lleoedd i fenthyca llyfrau – maent yn fannau cymunedol hygyrch sy’n chwarae rhan gynyddol bwysig wrth gefnogi iechyd a lles pobl.

“Drwy ganiatáu i breswylwyr fenthyca monitorau pwysedd gwaed, mae llyfrgelloedd ledled y Fro yn helpu preswylwyr i ofalu am eu hiechyd, gan gael gwared ar gost fel rhwystr. Gall cefnogi pobl yn y ffordd hon wneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth nodi a thrin problemau iechyd yn gynt a helpu i leddfu’r pwysau ar wasanaethau hanfodol dros amser hefyd.”

Ychwanegodd Claire Beynon, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd BIP Caerdydd a’r Fro: “Rydym wrth ein bodd yn gweithio mewn partneriaeth â’r ddau awdurdod lleol i ddarparu’r cynllun arloesol hwn. Gall llawer o bobl deimlo’n gynhyrfus wrth gael eu pwysedd gwaed wedi’i fesur mewn lleoliad gofal iechyd, a all effeithio ar gywirdeb eu darlleniad. Drwy fenthyg dyfais o’u llyfrgell neu hyb lleol, gall cwsmeriaid gynnal y monitro yng nghysur eu cartrefi a chymryd camau i wella eu hiechyd eu hunain.”

Mae dwy ffordd y gallwch fenthyg monitor:

  • Gallwch weld argaeledd ac archebu monitor pwysedd gwaed ar-lein trwy gatalog y llyfrgell. Cysylltir â chi pan allwch gasglu hwn o’ch Hwb neu lyfrgell leol.
  • Gallwch ymweld â’ch Hwb neu’ch llyfrgell leol a siarad ag aelod o staff. Bydd angen i chi fod yn aelod o’r llyfrgell i fenthyg monitor pwysedd gwaed.

Rhagor o wybodaeth ar wefannau Hybiau Caerdydd a Llyfrgelloedd Bro Morgannwg.